cy

cy

Troi’r sylw ar weithwyr gofal cymdeithasol – yr heriau diweddaraf sy'n wynebu'r sector - Rhan 2

Cyhoeddwyd 17/04/2024   |   Amser darllen munud

Dyma'r ail erthygl mewn cyfres ddwy ran sy'n canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol. Roedd ein herthygl gyntaf yn trafod cyfyngiadau fisa diweddar ar weithwyr mudol, sy'n debygol o roi pwysau pellach ar weithlu sydd eisoes yn ei chael yn anodd llenwi swyddi gwag.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn y gwyddom am gyflwr presennol y gweithlu a'r pwysau ar y sector, sy'n cyfrannu at bryderon cynyddol am gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio mewn gofal cymdeithasol.

Prinder o ran gweithlu

Yn ôl pob sôn, mae'r gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod 'mewn argyfwng' am nifer o flynyddoedd, gyda phrinder staffio difrifol ac anawsterau o ran recriwtio. Mae ein herthygl yn nodi datblygiadau diweddar yn ymwneud â'r gweithlu.

Mae cytundeb eang bod angen cydraddoldeb o ran cyflog a thelerau ac amodau gyda swyddi tebyg yn y GIG i wella'r sefyllfa. Ym mis Tachwedd 2023, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bod y gwahaniaeth rhwng rhywun sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel cymhorthydd gofal a rhywun sy'n gweithio yn y GIG fel cymhorthydd gofal yn £3,000 o ran tâl, pan maen nhw'n gwneud yr un swydd i raddau helaeth. Dywedodd ei bod am weld sylw’n cael ei roi i hyn ond na allai weld pryd y gellid gwneud hynny oherwydd pwysau ariannol.

Dywed Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai traffertion o ran y gwelthlu sydd ar frig y rhestr o bryderon allweddol i awdurdodau lleol mewn ymchwil diweddar. Maent hefyd yn tynnu sylw at bryderon am swyddi gwag pellach sydd ar fin codi yn dilyn canlyniadau Arolwg Gofal Cymdeithasol Cymru o’r gweithlu gofal cymdeithasol. Canfu'r arolwg:

  • Mae ychydig dros chwarter (26 y cant) yn teimlo ei bod yn 'eithaf' tebygol neu'n 'debygol iawn' y byddant yn gadael y sector gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis nesaf, ac mae 44 y cant yn teimlo eu bod o leiaf yn 'eithaf tebygol' o adael yn y pum mlynedd nesaf.
  • Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddir dros ddisgwyl gadael yn ystod y 12 mis nesaf yw cyflog (66 y cant), teimlad o orweithio (54 y cant) ac amodau cyflogaeth neu waith gwael (40 y cant)..

Yr hyn y gwyddom am niferoedd y gweithlu

Mae'n anodd asesu a monitro gwir raddfa'r broblem o ran swyddi gwag gweithwyr gofal (ac effaith y cyfyngiadau fisa newydd), oherwydd y diffyg data cynhwysfawr cyfredol sydd ar gael yn gyhoeddus.

Nid yw Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn casglu data fel mater o drefn ar nifer y gweithwyr gofal mudol. Canfu Arolwg Peilot o'r Gweithlu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Mai 2023 fod 15 y cant o weithwyr gofal cofrestredig (a ymatebodd i'r arolwg, allan o gyfanswm o 2,325) wedi’u geni y tu allan i'r DU.

O ran niferoedd y gweithlu a swyddi gwag, mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn adroddiadau gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru 2022 (darperir ffigurau ar gyfer y gweithlu cyfan, nid gweithwyr gofal yn unig). Yn 2022, amcangyfrifwyd bod 84,134 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Cofnodwyd 5,323 o swyddi gwag; sef 9% o gyfanswm y gweithlu. Dangosodd y data gynnydd cyffredinol mewn swyddi gwag o'i gymharu â 2021, a rolau gofal cartref sy’n cyfrif am y nifer fwyaf o swyddi gwag.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi parhau i holi Llywodraeth Cymru am niferoedd y swyddi gwag, a chynnydd o ran gwella cynaliadwyedd y gweithlu. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw yn y sector", ond y gwyddai nad yw camau sydd ar y gweill “yn ddatrysiadau cyflym”, a "bydd yn cymryd amser cyn y gallwn weld yr effaith ar y gweithlu".

Aeth y Dirprwy Weinidog ar y pryd ymlaen i ddweud bod awdurdodau lleol yn darparu data misol am y gweithlu i Lywodraeth Cymru ac, "yn ystod 2024, y nod yw sicrhau bod mwy o ddata ar gael."

Caethwasiaeth fodern a chamfanteisio

Y broblem gyda gweithwyr gofal sy'n profi camfanteisio yw bod pobl fregus iawn yn cael eu cyflogi i ofalu am bobl fregus iawn

Adroddiad Unseen, who cares? (2023)

Fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol, arweiniodd pwysau ar y sector gofal ledled y DU at gyflwyno fisa newydd yn gyflym i gyflogi rhagor o staff tramor i leihau swyddi gwag. Fodd bynnag, mae'r datblygiad hwn wedi cyfrannu at broblem wahanol, sydd ar gynnydd.

Ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd y Comisiwn Ansawdd Gofal (Care Quality Commission) (rheoleiddiwr annibynnol iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr) wrth Bwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU fod caethwasiaeth fodern bellach yn duedd a nodwedd o'r farchnad sector gofal. Esboniodd y Comisiwn bod diwedd symudiad rhydd gweithwyr wedi cynyddu’r posibiliadau camfanteisio yn sylweddol, gan fod gweithwyr bellach yn ddibynnol ar fisa ac un cyflogwr. Dywedodd fod achosion o gaethwasiaeth fodern yn anelu at fod wedi cynyddu ddeg gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Mae Cyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Lafur wedi nodi gofal cymdeithasol i oedolion fel sector sydd â risg uchel o gamfanteisio llafur, gan dynnu sylw’n benodol at fregusrwydd gweithwyr gofalwyr sy’n byw gyda’u cyflogwyr a gweithwyr gofal a gyflogir gan asiantaethau. Mae Ymchwil gan Brifysgol Nottingham hefyd yn tynnu sylw’n benodol at fregusrwydd gweithwyr gofal mudol sy'n byw gyda’u cyflogwyr o ran caethwasiaeth fodern.

Bu llawer o erthyglau yn y cyfryngau yn tynnu sylw at gamfanteisio ar staff gofal o dramor a chanfu ymchwiliad diweddar gan Panorama achos o gamfanteisio mewn cartref gofal yn Lloegr.

Canfod achosion o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru

Adroddodd Unseen (gweithredwyr llinell gymorth y DU ar gyfer Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio) am gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion sy’n nodi cam-drin llafur a llafur gorfodol yn y sector gofal yn y blynyddoedd diwethaf a chyfeiriodd at nifer fach o achosion yr adroddwyd amdanynt i heddluoedd Cymru. Canfu'r elusen fod bron i un o bob pum dioddefwr posibl caethwasiaeth fodern a nodwyd yn 2022 yn gweithio yn y sector gofal.

Canfu Unseen fod rhai gweithwyr gofal yn gorfod talu miloedd o bunnoedd am deithio i'r DU ac am dystysgrifau nawdd. Ychydig gannoedd o bunnoedd yw costau nawdd, a chaiff ei dalu gan y rhan fwyaf o gwmnïau gofal, ond mae lleiafrif o gyflogwyr ac asiantau yn codi cymaint â £25,000 ar weithwyr gofal, gan ychwanegu llog a didynnu'r ddyled o'u cyflogau.

Yn ôl UNSAIN mae rhai cyflogwyr gofal cymdeithasol yn mynnu bod mudwyr yn talu ffioedd mawr o hyd at £15,000 ymlaen llaw am ddod o hyd i swydd a thai iddynt yn y DU. Mae llawer yn cael eu cartrefu mewn llety cyfyng, o safon isel, ac yna caiff rhent ei dynnu o’u cyflogau. Dywed yr undeb hefyd y gall y camfanteisio a’r cam-drin dychrynllyg y mae gweithwyr mudol medrus yn ei wynebu gynnwys taliadau enfawr i ad-dalu costau adleoli os ydynt am newid swyddi.

Daw adroddiad Unseen i’r casgliad ei bod yn amlwg bod gweithwyr mewn cylch lle na fyddan nhw fyth yn gallu talu'r ddyled.

Dywed Cyngor ar Bopeth bod cynllun y fisa gwaith yn llywio camfanteisio

Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Cyngor ar Bopeth adroddiad chwyddwydr ar ôl adolygu 150 o achosion o gysylltiadau gan weithwyr gofal mudol. Canfu’r elusen enghreifftiau dirifedi o driniaeth wael a chamfanteisio difrifol, yn ogystal â thorri amodau fisa. Roedd y canfyddiadau’n cynnwys:

  • Roedd 1 o bob 4 wedi gorfod talu ffi recriwtio ymlaen llaw - dros £10,000 ar gyfartaledd;
  • Roedd 1 o bob 3 yn cael llai o gyflog nag y dylen nhw’i gael; a
  • Dywedodd 1 o bob 4 bod arnynt ofn cwyno rhag iddynt gael eu diswyddo.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu:

Half the migrant care workers we helped were experiencing financial hardship - they were struggling or unable to buy food, pay their bills, or afford their rent, with some at clear risk of homelessness. Lack of access to a financial safety net can make people even more reliant on their employer, and more likely to accept poor treatment at work.

Mae Cyngor ar Bopeth yn nodi'r camau sydd eu hangen i alluogi unigolion i orfodi eu hawliau a gadael swyddi camfanteisiol. Mae nifer o'i argymhellion yn gorwedd gyda Llywodraeth y DU, fel yr alwad i ddileu’r cysylltiad rhwng cyflogwr person a'i fisa, neu o leiaf ei wahanu.

Er nad yw caethwasiaeth fodern wedi'i ddatganoli, dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi polisïau ac arferion ar waith i fynd i'r afael â'r mater hwn. Llywodraeth Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i greu rôl cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth yn 2011. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gaethwasiaeth fodern a cham-drin llafur mewn gofal cymdeithasol. Mae'n tynnu sylw at y Cod Ymarfer ar gyfer recriwtio personel iechyd a gofal cymdeithasol yn rhyngwladol, sy’n berthnasol, meddai, yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae Cyngor ar Bopeth yn rhybuddio bod angen i'r Cod gael ei orfodi gyda gwaith monitro priodol o ran cydymffurfio.

Mae'n amlwg bod camfanteisio ar staff mudol yn broblem gynyddol ym maes gofal cymdeithasol, ac mae angen gweithredu parhaus ar draws llywodraethau i fynd i'r afael â hynny.


Erthygl gan Amy Clifton a Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru