Gyda chyfyngiadau fisa newydd ar weithwyr gofal mudol bellach mewn grym, mae'r gyfres ddwy ran hon yn tynnu sylw at yr effaith debygol ar weithlu sydd eisoes mewn argyfwng, a'r trafferthion diweddaraf sy'n wynebu'r sector.
Mae'r erthygl gyntaf hon yn canolbwyntio ar y newidiadau fisa a'r ymatebion iddynt, ac mae’r ail yn edrych ar bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, a'r hyn y gwyddom am freuder gweithlu gofal Cymru.
Ni chaniateir i weithwyr gofal o dramor ddod â theulu agos gyda hwy mwyach.
O 11 Mawrth 2024, ni chaniateir i weithwyr gofal mudol sydd newydd gyrraedd ddod ag unrhyw ddibynyddion (partneriaid a phlant) gyda hwy ar eu fisa gwaith, o dan gynlluniau Llywodraeth y DU i geisio lleihau mudo net. Yn ôl Llywodraeth y DU, daeth nifer anghymesur o 120,000 o ddibynyddion gyda 100,000 o weithwyr ar y llwybr y llynedd.
Mae’r isafswm incwm sydd fel arfer yn ofynnol i briod/partner mudwr fyw gyda nhw yn y DU (drwy nawdd fisa) wedi wedi codi hefyd o £18,600 y flwyddyn i £29,000 o 11 Ebrill 2024 (a bydd yn codi eto i tua £38,700 yn 2025). Mae hyn yn golygu nad yw’r llwybr hwn yn opsiwn i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal mudol (cyfartaledd y cyflog ar gyfer gweithiwr gofal yn y DU yw tua £22,629 y flwyddyn).
Y Cefndir i newidiadau fisa
Mae tua dwy flynedd ers y cafodd fisas gweithwyr medrus eu hagor i weithwyr gofal tramor i fynd i'r afael â’r prinder staff uchaf erioed yn y DU.
Mae mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, a ofynnodd i'r Pwyllgor Cynghori annibynnol ar Ymfudo ym mis Gorffennaf 2021 i ymchwilio i effaith rhoi terfyn ar ryddid i symud yn y sector gofal.
Ei gasgliadau interim, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, oedd bod diwedd symudiad rhydd yr UE wedi cyfrannu at waethygu sylweddol yn sefyllfa'r gweithlu. Argymhellodd y dylai gweithwyr gofal fod yn gymwys ar unwaith ar gyfer y fisa Iechyd a Gofal a'u rhoi ar yr hyn oedd ar y pryd yn rhestr galwedigaethau â phrinder (ynghyd ag argymhellion eraill ynghylch gwella cyflog, telerau ac amodau).
Cafodd yr argymhelliad interim ei dderbyn gan Lywodraeth y DU a daeth gweithwyr gofal cymdeithasol yn gymwys i gael fisa gwaith o 15 Chwefror 2022.
Rhoddodd y Swyddfa Gartref 60,000 o fisas i weithwyr gofal rhwng Mehefin 2022 a Mehefin 2023 ar draws y DU. Aeth 18,000 arall i uwch weithwyr gofal. Ar gyfartaledd daeth pob gweithiwr ar fisa Iechyd a Gofal ag un aelod agos o'r teulu gyda nhw ar fisa 'dibynnydd'.
Gofal cymdeithasol oedd yn cyfrif am 65 y cant o fisas Iechyd a Gofal a gyhoeddwyd (mae'r categori hefyd yn darparu ar gyfer meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd eraill). Aeth dros draean (37 y cant) o'r holl fisas gwaith tymor hir a gyhoeddwyd dros y cyfnod hwnnw i weithwyr gofal.
Ymateb i'r cyfyngiadau fisa newydd
Mae staff gofal o dramor wedi cael eu disgrifio fel achubiaeth i lawer o ddarparwyr gofal. Mae'r newidiadau wedi ysgogi ymateb pryderus gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda phryderon y bydd y newid yn dwysau'r argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol presennol gyda mwy o brinder staffio.
Dywedodd Care England (sy'n cynrychioli darparwyr gofal annibynnol) bod mewnfudo yn achub y sector gofal cymdeithasol a bydd y cyfyngiadau newydd yn ei gwneud yn anos i ddarparwyr gofal recriwtio gweithwyr tramor.
Dywedodd y Gynghrair Darparwyr Gofal fod llywodraeth y DU i bob pwrpas yn torri’r achubiaeth recriwtio rhyngwladol. Dyma'r unig opsiwn sydd ganddynt ar hyn o bryd i gynnal a chynyddu nifer y gweithlu, gan fod recriwtio yn y DU yn parhau i fod yn heriol.
Dywedodd Clymblaid Cavendish (sy'n cynrychioli nifer fawr o sefydliadau iechyd a gofal) ei fod yn eithriadol o bryderus bod y newidiadau i'r Visa Iechyd a Gofal yn risg sy’n symud gam enfawr yn ôl, a dywedodd:
To assume therefore that care workers would work in the UK without their dependants will be disastrous to our services and make the UK a less attractive place for much needed social care staff weighing up where they might choose to work.
Mae UNSAIN a'r Fforwm Gofal Cenedlaethol yn disgrifio’r rheolau fisa newydd fel rhai trychinebus. Maen nhw'n rhybuddio y bydd y newid mawr hwn mewn polisi yn achosi 'pryder diangen' i'r rhai sydd angen cefnogaeth hanfodol a'u teuluoedd, yn ogystal â 'chostau enfawr i sefydliadau sy'n darparu gofal. Aethant ymlaen i ddweud:
The [UK] government has produced no evidence to support its claim that migrant workers without dependents will still come to the UK. If ministers are wrong, thousands of people will be unable to access the social care they desperately need.
A yw gofal cymdeithasol yn cael ei dargedu'n annheg?
Dywed Llywodraeth y DU fod y newid yn un o'r mesurau allweddol y mae'n eu cymryd i leihau mudo net. Dywed fod ei chynnig i weithwyr gofal yn hynod gystadleuol yn rhyngwladol, ac nad yw’n rhoi cap ar niferoedd y gofalwyr - dim ond yn cyfyngu ar ba weithwyr all ddod â dibynyddion.
Ond dim ond i weithwyr gofal ac uwch weithwyr gofal y mae'r cyfyngiadau'n berthnasol, ac nid i unrhyw alwedigaethau eraill o dan y fisa Iechyd a Gofal, gan arwain at gyhuddiadau o ‘dargedu’ gweithwyr gofal cymdeithasol a'u trin yn annheg. Dywedodd Care England (sy'n cynrychioli darparwyr gofal annibynnol):
If this new policy to stop Social Care workers from bringing dependents to the UK is the best way to streamline how we recruit overseas staff, why has the same set of measures not been applied to the NHS?
Dywedodd Clymblaid Cavendish fod perygl, wrth i'r GIG gael ei eithrio rhag y newidiadau fisa, y bydd, yn wrthnysig, yn cynyddu'r gystadleuaeth rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd o ran recriwtio rhyngwladol, ar adeg pan mae angen i'r ddau sector fod yn gweithio'n agosach fyth, ac nid ar wahân.
Mae adroddiad diweddar Pwyllgor Craffu Tŷ’r Arglwyddi ar Uwch Ddeddfwriaeth yn tynnu sylw at bryderon y sector gofal y bydd anawsterau recriwtio yn gwaethygu oherwydd y cyfyngiadau fisa. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o wybodaeth am effaith y newidiadau hyn.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi cyflogi gweithwyr rhyngwladol yn y sector gofal cymdeithasol a’i bod eisoes wedi galw am fesurau i hwyluso recriwtio ymhellach o dramor.
Mae erthygl yfory yn edrych ar yr hyn wyddom am niferoedd y gweithlu yng Nghymru, a phryderon cynyddol am gamfanteisio ar weithwyr gofal mudol.
Erthygl gan Amy Clifton a Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru