Trafodaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017/18

Cyhoeddwyd 07/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ddydd Mercher 13 Chwefror bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â'i waith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 (PDF, 1MB).

Am dair blynedd yn olynol, mae cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael eu hamodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â gwobrwyo contractau gwerthiannau coed pren. Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y materion hyn pan archwiliodd gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Medi.

Mae cael cyfrifon wedi'u hamodi yn anghyffredin, a dim ond un sefydliad arall (Dysgu ac Addysgu Cymru) sydd wedi cael cyfrifon amodol ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn nodi bod cael cyfrifon amodol am y drydedd flwyddyn yn olynol yn "gwbl anghyffredin acannerbyniol".

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a gweld argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, darllenwch Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PDF, 106KB) ac ymatebion Llywodraeth Cymru (PDF, 106KB) a Cyfoeth Naturiol Cymru (PDF, 2.1MB).

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal sesiwn graffu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddydd Llun, 11 Chwefror. Ar ddiwrnod y ddadl bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gallwch wylio'r ddau ohonynt ar Senedd.tv.


Erthygl gan Owen Holzinger, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru