Trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Cyhoeddwyd 03/07/2023   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24 ar 13 Mehefin 2023. Mae nodi manylion am benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ers i’r Gyllideb Derfynol gael ei chymeradwyo gan y Senedd ym mis Mawrth.

Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at y dyraniadau allweddol, sefyllfa ariannu Llywodraeth Cymru a faint sydd ganddi ar ôl i’w wario, fel y nodir yn y Gyllideb Atodol. Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio Geirfa’r Gyllideb, sy'n egluro rhai o'r termau rydym wedi'u defnyddio.

Faint mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu yn y Gyllideb Atodol?

Mae'r Gyllideb Atodol yn dangos cynnydd mewn refeniw a chyfalaf gyda'i gilydd (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol), a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru, o £585.3 miliwn (2.5 y cant).

Mae hyn yn gynnydd o £23.0 biliwn i £23.6 biliwn, o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24 (gweler Ffigur 1). Mae’r rhan fwyaf o hyn yn gynnydd mewn cyfalaf:

  • mae refeniw wedi cynyddu £84 miliwn (0.4 y cant) i £20,168 miliwn;
  • mae cyfalaf wedi cynyddu £501 miliwn (17.4 y cant) i £3,385 miliwn.

Ychydig o ddyraniadau 'newydd' sylweddol sydd o ran dyraniadau arian parod yn y gyllideb atodol hon. Mae’r rhan fwyaf o’r addasiadau’n ymwneud â newidiadau sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu’r safon adrodd newydd ar gyfer lesau (IFRS 16).

Ffigur 1: Prif ffigurau o'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24 yn dangos y newidiadau ers y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24.

Revenue Departmental Expenditure Limit (DEL): £20,168m (up by £84m or 0.4%). Capital DEL: £3,385m (up by £501m or 17.4%). Total DEL: £23,554m (up by £585m or 2.5%). Annually Managed Expenditure (AME): £2,062m (up by £2m or 0.1%). Total Managed Expenditure (TME): £25,615m (up by £587m or 2.3%).

Bydd y rhan fwyaf o adrannau’r llywodraeth yn gweld cynnydd o ran cyllid, gyda’r mwyaf yn nhermau gwerth yn cael ei ddyrannu i Newid Hinsawdd (cynnydd o £347 miliwn neu 11.9 y cant). Yr Economi sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn nhermau gwerth a thermau canrannol (sef gostyngiad o £9 miliwn ac 1.7 y cant).

Ffigur 2: Newidiadau yn refeniw y Terfynau Gwariant Adrannol yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, o'i gymharu â'r Gyllideb Derfynol wedi’i hailddatgan ar gyfer 2023-24.

2023-24 First Supplementary Budget revenue and capital by portfolio and changes from 2023-24 Final Budget (restated). Health and Social Services £10,911m, up £149m (1.4%). Finance and Local Government £5,180m, up £55m (1.1%). Climate Change £3,279m, up £347m (11.9%). Education and the Welsh Language £2,681m, up £39m (1.5%). Economy £537m, down -£9m (-1.7%). Rural Affairs £448m, down -£1m (-0.2%). Central Services and Administration £362m, up £3m (0.8%). Social Justice £156m, up £3m (1.8%).  * Excludes around £0.9 billion non-domestic rates income. ** Includes allocation of £488 million of non-fiscal revenue due to student loans. Figures are rounded. Refer to the Welsh Government First Supplementary Budget 2023-24 for exact figures.

* Heb gynnwys £0.9 biliwn o incwm o ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £488 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd benthyciadau myfyrwyr.

Mae ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 i weld yr union ffigurau.

Sut mae'r sefyllfa ariannu wedi newid?

Mae rhagolygon refeniw treth ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru, y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac ardrethi annomestig wrth i ragolygon barhau i adlewyrchu’r rhai a gyhoeddwyd ar adeg y Gyllideb Derfynol.

Nid yw Llywodraeth Cymru ychwaith wedi cynnig unrhyw newidiadau i’w chynlluniau benthyca, a fydd yn golygu y bydd yn benthyca’r uchafswm a ganiateir (£150 miliwn) o dan y Fframwaith Cyllidol.

Mae effaith gweithredu IFRS 16 wedi bod yn sylweddol yn y gyllideb atodol hon. Mae'n cynnwys:

  • gostyngiad mewn refeniw (arian parod) o £100.1 miliwn;
  • cynnydd o £104.8 miliwn mewn refeniw (nad yw'n arian parod); a
  • chynnydd i gyfalaf o £436.0 miliwn.

Fodd bynnag, fel y cadarnhawyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mae’r newid yn un technegol ac yn anffodus nid yw’n newid y pŵer gwario. Ers y Gyllideb Derfynol, cafwyd Cyllideb y DU a Phrif Amcangyfrifon y DU, gan arwain at gynnydd net o £27.7 miliwn yn yr adnodd cyllidol ar gyfer Cymru. Bu cynnydd hefyd o £220.8 miliwn mewn adnoddau anariannol.

Heb gynnwys y £436 miliwn mewn perthynas â gweithredu IFRS 16, cynyddodd cyllid Cyfalaf Cyffredinol hefyd £103.2 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £58 miliwn ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf Cymru.

Bu gostyngiad o £3 miliwn yn y llinell sylfaen Cyfalaf Trafodion Ariannol o ganlyniad i symiau canlyniadol negyddol o'r Prif Amcangyfrif. Nodwyd cynnydd bach o £1.7 miliwn mewn refeniw a £456,000 mewn cyfalaf hefyd yn y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Comisiwn y Senedd wedi cynnig gostyngiad o £435,000 i'w gyllideb, tra bod yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyflwyno cais i gynyddu ei gyllideb £213,000.

Effaith chwyddiant, cost a phwysau cyflog

Un o'r materion allweddol a godwyd yn y gwaith craffu dros y 12 mis diwethaf fu effaith chwyddiant a'r sgil-effeithiau y mae hyn yn eu cael.

Er bod rhagolygon ar gyfer twf economaidd wedi gwella ychydig, mae cwympiadau mewn chwyddiant wedi bod yn arafach na’r disgwyl ac mae ffigurau chwyddiant cyflogau diweddar wedi bod yn uwch na’r disgwyl (er yn is na chwyddiant). Roedd y ffigurau diweddaraf ar gyfer mesur chwyddiant mynegai pris defnyddwyr, a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 21 Mehefin 2023, yn 8.7 y cant.

Roedd twf yng nghyflog cyfartalog cyflogeion (gan gynnwys bonysau) yn 5.8 y cant a thwf mewn cyflog rheolaidd (ac eithrio bonysau) yn 6.7 y cant rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.

Wrth graffu a myfyrio ar effaith chwyddiant ar y gyllideb atodol hon,dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

I suppose the key place where you would see that is in the £28 million that has been drawn down from the Wales reserve and allocated to the education and Welsh language main expenditure group, and that is for the costs of the 2022-23 pay award for teachers in schools and further education for the remainder of the academic year that falls within this financial year.

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw newidiadau pellach i’w chynlluniau gwariant, gan ychwanegu bod y cyd-destun presennol yn gofyn am feddwl yn fwy creadigol am yr hyn a gaiff ei gyflawni.

A oes digon ar ôl wrth gefn?

Mae £28 miliwn yn ychwanegol yn y Gyllideb Atodol hon i’r refeniw arfaethedig o £38 miliwn y bwriedir ei dynnu i lawr yn y Gyllideb Derfynol. Bydd y cyllid sydd ar gael yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru yn dibynnu ar faint o’r £175 miliwn a gyllidebwyd (refeniw a chyfalaf) a dynnwyd i lawr yn 2022-23 a’r balans terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae’r Gyllideb Atodol yn nodi bod y cronfeydd wrth gefn a ganlyn yn cael eu cadw ar hyn o bryd:

  • adnodd cyllidol: £60.1 miliwn (cynnydd o £47.1 miliwn ers y Gyllideb Derfynol); ac
  • adnodd anghyllidol: £662.0 miliwn (cynnydd o £119.4 miliwn ers y Gyllideb Derfynol).

Fel eithriad ar gyfer 2023-24 yn unig’ mae’r Trysorlys wedi hepgor terfynau tynnu i lawr blynyddol i Gronfa Wrth Gefn Cymru, sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru dynnu popeth a gedwir yn y Gronfa Wrth Gefn yn ôl.

Mae’r gyllideb atodol yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau i or-ddyrannu yn erbyn ei chyllidebau cyfalaf. Gostyngir cyfanswm y dyraniad cyfalaf cyffredinol o £37.5 miliwn i £61 miliwn, fodd bynnag mae gorddyraniad cyfalaf Trafodion Ariannol wedi cynyddu £2.2 miliwn i £28.3 miliwn.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wrth y Pwyllgor Cyllid:

I think that the big challenges, really, are the size of the Wales reserve and the amount that we're able to borrow, both annually and in aggregate as well. Those are challenges that continue.

Beth sydd nesaf?

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Atodol ar 4 Gorffennaf. Gallwch wylio hyn ar Senedd.TV a bydd trawsgrifiad ar gael yn fuan wedyn.


Erthygl gan Božo Lugonja a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru