Trafod addysg a dysgu proffesiynol athrawon yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i addysg a dysgu proffesiynol athrawon yn 2017. Ar ôl trafod y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar, gwnaeth y Pwyllgor 25 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a lluniodd bedwar casgliad.

Mae'r adroddiad wedi'i lunio yng nghyd-destun y diwygiad sylweddol i'r system addysg yng Nghymru. Yn 2015, cyfeiriodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, at y modd y gweithredir yr adroddiad Addysgu Athrawon Yfory gan yr Athro Furlong, Y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg a’r adroddiad Dyfodol Llwyddiannus gan yr Athro Donaldson am y cwricwlwm ysgolion, fel “rhaglen ddiwygio dairochrog”.

Mae'r "diwygio tairochrog" hwn ei hun yn rhan o bolisïau ehangach Llywodraeth Cymru i wella addysg, fel Cymwys am Oes 2014-2020. Bwriad Cymwys am Oes, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014, oedd codi safonau ysgolion Cymru. Ym mis Medi 2017, ail-lansiodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y cynllun , gan ei alw'n Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl 2017-21. Mae “datblygu proffesiwn addysg o safon uchel” yn un o “bedwar amcan galluogi” y genhadaeth genedlaethol newydd.

Fel rhan o'i raglen waith barhaus, mae'r Pwyllgor yn cynnal gwaith i fonitro'r modd y caiff adolygiad Donaldson ei weithredu, a chyhoeddodd ei sylwadau cychwynnol ym mis Ionawr 2017. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor hefyd am adolygu agweddau eraill ar y rhaglen ddiwygio dairochrog, o ystyried rôl ganolog y proffesiwn addysgu. O ganlyniad, canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar yr agweddau a ganlyn:

  • y trefniadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol;
  • rôl addysg gychwynnol i athrawon;
  • digonolrwydd y gweithlu ar gyfer y dyfodol; a'r
  • safonau proffesiynol newydd i athrawon.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 7 Chwefror 2018. Derbyniodd naw o'r argymhellion, derbyniodd 14 ohonynt mewn egwyddor a gwrthododd ddau ohonynt.

Yr argymhellion a dderbyniwyd

Derbyniodd Llywodraeth Cymru naw o'r argymhellion, a oedd yn ymwneud yn bennaf â rhoi diweddariadau i'r Pwyllgor am wahanol feysydd gwaith, gan gynnwys:

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal astudiaethau gwerthuso i bennu:

  • effeithiolrwydd yr ymgyrch recriwtio ddiweddar, Darganfod Addysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cynnal 'adolygiad cyflym' o'r ymgyrch ac y bydd yn cyflwyno adroddiad erbyn y Pasg;
  • i ba raddau y mae'r canfyddiad o faich gwaith mawr i athrawon yn dod yn rhwystr rhag recriwtio;
  • pam mae rhai athrawon yn gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd ar ôl cymhwyso. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi comisiynu ymchwil ynghylch 'Cadw Athrawon ac Atyniad Addysgu yng Nghymru'; a'r
  • rhwystrau presennol rhag defnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol yn ehangach ac yn fwy effeithiol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn y dylai athrawon cyflenwi gael mynediad llawn at gyfleoedd datblygu proffesiynol, gan amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd tuag at sicrhau hyn.

Yr argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor

Mae'r argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor yn ymwneud â'r canlynol:

  • sicrhau bod athrawon wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer y cwricwlwm newydd;
  • gwneud defnydd gwell o ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd athrawon;
  • adolygu a gwella ei hymdrechion i recriwtio athrawon, yn enwedig y rheini sy'n targedu grwpiau anoddach eu cyrraedd;
  • adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i athrawon newydd; ac
  • ystyried ymestyn cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg er mwyn rhoi'r pŵer iddo wahardd athrawon dros dro fel sy'n briodol.

Wrth dderbyn yr argymhellion mewn egwyddor, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y gellir eu cyflawni drwy ei rhaglenni parhaus ei hun.

Yr argymhellion a wrthodwyd

Yn argymhelliad 19, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn cynnig llinell sylfaen ddigonol ar gyfer perfformiad athrawon. Roedd hyn yn deillio o'i bryderon ynghylch cymhlethdod a hygyrchedd y safonau newydd ac i ba raddau y gall athrawon ymgysylltu â hwy. Dadl Llywodraeth Cymru oedd bod y pum safon (addysgeg, cydweithredu, arweinyddiaeth, arloesi a dysgu proffesiynol), wedi'u hategu gan 'ddisgrifwyr', yn llinell sylfaen addas ar gyfer perfformiad.

Hefyd, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 20, a oedd yn awgrymu y dylid ymestyn cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg er mwyn iddo fod yn gyfrifol am safonau proffesiynol. Dadl Llywodraeth Cymru oedd bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn sefydliad cymharol newydd, a'i fod wedi gweld cynnydd o fwy na 50 y cant yn nifer y cofrestriadau ers iddo gychwyn yn 2015. O'r herwydd, mae'n credu ei bod yn bwysig bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar ei swyddogaethau craidd presennol.

Mae hefyd yn nodi y byddai'n rhaid defnyddio ffi gofrestru'r ymarferwyr i dalu'r costau cysylltiedig yn sgil ehangu cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg fel hyn.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2018. Gallwch wylio'r ddadl ar-lein yn www.senedd.tv.

Yn dilyn y ddadl honno, bydd y Pwyllgor yn parhau i ymchwilio i waith Llywodraeth Cymru ynghylch cefnogi a datblygu'r gweithlu addysgu.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru