Yr wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor Deisebau yn parhau â’i waith i ymchwilio i ddichonoldeb trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc. Yma, rydym yn edrych ar pam y mae galw amdani, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud am y mater.
Llwybr i newid dulliau teithio?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod cyrraedd ei thargedau sero net a newid dulliau teithio yn her fawr. Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn nodi’r nod o gynyddu teithiau drwy ddulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol) o amcangyfrif o 32 y cant i 45 y cant erbyn 2040.
Yn 2023, yn ei hadroddiad ‘Ffyrdd Gwyrdd’, awgrymodd Senedd Ieuenctid Cymru:
...byddai sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yn ddatganiad arwyddocaol ac mai hwn yw’r sbardun mwyaf i gynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl yr adroddiad, byddai bron i 75 y cant o’r 1,300 o bobl ifanc a holwyd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml pe bai’n rhad ac am ddim. Canfu adroddiad yn 2022 gan Sustrans, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, fod y costau cynyddol o deithio ar fysiau yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc, sy’n dibynnu’n fwy ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deisebau ym mis Tachwedd, dywedodd cynrychiolydd o Senedd Ieuenctid Cymru y canlynol am drafnidaeth gyhoeddus am ddim i bawb o dan 25 oed:
We think this would encourage more young people to…[use it] as they get older. This could also lead to behaviours being formed that will see young people continue to use public transport when they become adults.
Ar ôl cyhoeddi adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, dywedir bod Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru mo’r arian i wneud bysiau yn rhad ac am ddim i bobl ifanc.
A yw’r cynlluniau presennol yn mynd yn ddigon pell?
Er bod Llywodraeth Cymru yn awgrymu nad oes modd fforddio darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, mae’n cynnig rhywfaint o deithio am bris gostyngol i bobl ifanc. Fodd bynnag, nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r cynlluniau hynny.
Byddai’n deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod am brisiau rhatach i bobl hŷn – gyda phobl dros 60 oed yn cael budd o deithio am ddim ar fysiau – ond nid oedd 72 y cant o’r bobl ifanc a holwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol o’r gostyngiadau a oedd ar gael iddynt.
Yng Nghymru, mae FyNgherdynTeithio i bobl 16-21 oed yn rhoi gostyngiad o 30 y cant i ddeiliaid deithio ar fysiau, ac mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn cynnig nifer o ostyngiadau a chardiau rheilffordd i bobl deithio ar drenau.
Er gwaethaf y cynlluniau hyn, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn 2022 ar gyfer ei ymchwiliad i deithio ar fysiau a’r rheilffordd, gwnaeth yr Athro Mark Barry awgrymu nad oedd prisiau tocynnau bysiau yn deg i bobl ifanc. Dywedodd:
Given finances are tight, is it more important to provide free bus travel for everyone over 60, as important as that is, or is it more important to provide free bus travel for everyone under 25 trying to get to work?
Teithio ymhellach i ffwrdd
Yn ogystal â chynlluniau penodol i Gymru, mae National Rail yn cynnig 16-17 Saver a cherdyn rheilffordd 16-25, ac mae’r cerdyn rheilffordd i bobl anabl yn cynnig gostyngiad o 33 y cant ar brisiau tocynnau trenau ledled Prydain Fawr ac mae hefyd yn gymwys i bobl ifanc.
Mae rhai dinasoedd yn Lloegr yn cynnig teithio am ddim ar wasanaethau bysiau penodol i bobl o bob oedran, er enghraifft Manceinion a Wakefield. Yn y cyfamser, cyflwynodd yr Alban deithiau bws am ddim i bobl rhwng 5 ac 21 oed ym mis Ionawr 2022. Yn ôl Transport Scotland, roedd y cynnydd yn y niferoedd a oedd yn manteisio ar y cyfle hwnnw yn caniatáu i rai cwmnïau bysiau gynyddu’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu. Fodd bynnag, mewn rhai adroddiadau yn y cyfryngau beiwyd y cynllun am gynyddu anhrefn ar fysiau.
Pwy sydd eisiau manteithio ar drafnidiaeth gyhoeddus am ddim?
Ym mis Tachwedd 2022, gwnaeth Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, alw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed, fel ffordd o amddiffyn rhag pwysau costau byw yn y dyfodol. Gwnaeth hefyd esbonio i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
…embedding a mindset around [the] use of public transport in those younger age groups tends to have that ongoing behavioural change implication.
Mae Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, hefyd wedi argymell dro ar ôl tro y dylai fod trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant i fynd i’r afael â thlodi plant a’r argyfwng hinsawdd. Yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf, mae’r Comisiynydd yn argymell teithio am ddim ar fysiau i bob plentyn, a galwodd am i strategaeth tlodi plant gynnwys ymrwymiad i weithredu cynllun peilot trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 18 oed o fewn tymor y Senedd hon.
Er nad ydynt yn canolbwyntio’n benodol ar bobl ifanc, mae rhai cynlluniau teithio am ddim ar fysiau wedi’u treilau yng Nghymru – ym mis Mawrth 2022 treialwyd teithio am ddim ar fysiau yng Nghasnewydd, ac mae cynllun teithio am ddim ar fysiau i bobl o bob oedran yn rhedeg yn Abertawe yn ystod gwyliau’r ysgol. Rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2018, treialwyd teithio am ddim ar y penwythnos TrawsCymru a chafodd effaith gadarnhaol.
Wrth ymateb i argymhelliad y Comisiynydd Plant, dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
O dan y model gweithredu presennol, yr unig ffordd y gallwn gynnig teithio am bris rhatach neu am ddim yw trafod trefniadau ad-dalu gyda gweithredwyr sydd wedi profi i fod yn gostus, fel y gwelwyd gyda'r cynnig teithio am ddim i rai dan 22 oed yn yr Alban.
Cyfeiriodd y Gweinidog hefyd at y ‘Bil Bysiau’ sydd ar y gweill fel cyfle i “edrych o’r newydd ar ddarpariaeth gwasanaethau bysiau ledled Cymru … ac felly'r posibilrwydd o ran darpariaeth ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc”.
A yw cyfyngiadau ariannol yn rhoi stop ar gynlluniau?
Yn ystod dadl mewn Cyfarfod Llawn yn 2022 ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod y Llywodraeth yn benderfynol o wneud rhagor er ei bod yn deg tynnu sylw at y cyfyngiadau ac nad oes modd gwneud popeth.
Fodd bynnag, ym mis Mai 2023, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gap ar gyfer pris teithiau bysiau – yn debyg i’r cap a gyflwynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr - ond er gwaethaf hynny nad oedd modd ei weithredu oherwydd pwysau chwyddiant a chostau cynyddol.
Gellir dweud hefyd fod Llywodraeth Cymru yn “awyddus i fwrw ymlaen” â mentrau ar brisiau bysiau, ond er hynny ei fod wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r diwydiant bysiau a’r diwydiant trenau. O ran gwasanaethau bysiau yn benodol, mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu cyllid er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bysiau hanfodol yn cael eu cynnal ar gyfer ein cymunedau.
Rhaid aros i weld a yw’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc y ennill ei blwyf ymhellach, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ymchwilio i’r mater â diddordeb.
Erthygl gan Francesca Howorth, Lorna Scurlock ac Amandine Debus, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.