Trên Trafnidiaeth Cymru yng ngorsaf Cyffordd Llandudno

Trên Trafnidiaeth Cymru yng ngorsaf Cyffordd Llandudno

Perfformiad rheilffordd Trafnidiaeth Cymru - ar y trywydd iawn?

Cyhoeddwyd 17/11/2023   |   Amser darllen munudau

Ym mis Hydref roedd yn bum mlynedd ers i Trafnidiaeth Cymru (TrC) ddod yn gyfrifol am fasnachfraint Cymru a'r Gororau. Dywedodd Carwyn Jones y Prif Weinidog ar y pryd, y byddai'n “darparu system reilffyrdd o'r radd flaenaf i Gymru"; ond mae newyddion diweddar wedi bod yn llawn o straeon am oedi, canslo a lefelau isel o foddhad teithwyr.

Wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd baratoi i gynnal ei waith craffu blynyddol ar TrC yr wythnos nesaf, yma rydym yn archwilio a yw perfformiad diweddar y rheilffordd ar y trywydd iawn neu'n dod oddi ar y cledrau.

Nid yw gwasanaethau rheilffordd yn perfformio'n dda

Mae TrC yn cyhoeddi data ar gyfer nifer o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) gan gynnwys 'Amser mae Teithwyr yn ei Golli'. Mae Amser mae Teithwyr yn ei Golli yn mesur canran y gwasanaethau sy'n cyrraedd o fewn tair munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd, gan ddefnyddio pwysoliad i leoliadau yn seiliedig ar gyfaint teithwyr – mae oedi mewn lleoliadau prysur yn cael mwy o effaith ar yr Amser mae Teithwyr yn ei Golli.

Ffigur 1 – Amser mae Teithwyr yn ei Golli, 2022-23 a 2023-24 (hyd yma)

Siart yn dangos ystadegau o ran Amser mae Teithwyr yn ei Golli ar Linellau Craidd y Cymoedd a rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn gyffredinol. Mae perfformiad ar linellau'r Cymoedd yn well nag ar y rhwydwaith cyfan.

 

Ffynhonnell: Trafnidiaeth Cymru

Noder – Mae pob blwyddyn ariannol yn cynnwys 13 'cyfnod rheilffordd'. Mae'r rhain i gyd yn 28 diwrnod ac eithrio cyfnod 1 (yn dechrau ar 1 Ebrill) a chyfnod 13 (yn dod i ben ar 31 Mawrth).

Mae'r perfformiad wedi gwella ar Linellau craidd y Cymoedd ar gyfer y cyfnodau diweddaraf o ran perfformiad. Fodd bynnag, ar draws holl rwydwaith Cymru a'r Gororau, ac eithrio cyfnod 5, mae'r perfformiad ym mhob cyfnod yn waeth yn 2023-24 o'i gymharu â'r cyfnodau cyfatebol y llynedd.

Mae dadansoddiad o’r data gan y rheolydd rheilffyrdd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), yn dangos mai gorsafoedd yng Nghymru, rhwng Ionawr a Gorffennaf 2023, oedd â'r gyfradd uchaf o wasanaethau wedi'u canslo.

Mae TrC yn cyhoeddi data ar gyfer 'canslo ar y dydd'. Fodd bynnag, mae'r ORR wedi dechrau cyhoeddi data canslo sydd hefyd yn ystyried newidiadau i'r gwasanaeth oherwydd diffyg staff neu gerbydau sydd wedi'u cynnwys mewn amserlen ddiwygiedig - ac felly efallai na fydd yn ymddangos mewn sgoriau canslo gweithredwyr.

Mae ORR yn defnyddio'r data hwn i gynhyrchu sgôr canslo wedi'i haddasu (canran) sy'n ymgorffori gwasanaethau sydd wedi'u canslo ymlaen llaw. Mae sgôr canslo wedi’i haddasu o ran TrC wedi bod yn gyson uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr ers dechrau cofnodi data.

Ffigur 2 – Data sgôr canslo wedi'i haddasu, rheilffordd TrC yn erbyn cyfartaledd Cymru a Lloegr

Siart yn dangos data sgôr canslo wedi'i haddasu, rheilffordd TrC yn erbyn cyfartaledd Cymru a Lloegr. Mae rheilffyrdd TrC yn gyson uwch na'r cyfartaledd.

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd

Noder – Mae data Cyfnod 6 2023-24 yn rhai dros dro.

Mae lefelau boddhad teithwyr wedi gostwng

Yn Arolwg Defnyddwyr Rheilffordd diweddaraf Transport Focus, sef y gwarchodwr teithwyr annibynnol, sgoriodd TrC ar y gwaelod (o'r holl weithredwyr a gynhwysir) am foddhad cyffredinol teithwyr. Sgoriodd hefyd ar y gwaelod am foddhad o ran prydlondeb / dibynadwyedd, amlder gwasanaethau, glendid ac am foddhad o ran y wybodaeth a ddarperir yn ystod y daith. Ar y cyfan, mae lefelau boddhad wedi bod yn gostwng yn gyson.

Ffigur 3 – Boddhad cyffredinol teithwyr Trafnidiaeth Cymru a boddhad o ran prydlondeb/dibynadwyedd ac amlder gwasanaethau

Siart yn dangos canlyniadau TrC o Arolygon Defnyddwyr Rheilffyrdd Transport Focus dros amser ar gyfer boddhad cyffredinol teithwyr, boddhad o ran prydlondeb / dibynadwyedd a boddhad o ran amlder gwasanaethau. Ar y cyfan, mae'r canlyniadau wedi gostwng dros amser.

 

Ffynhonnell: Transport Focus – Arolwg Defnyddwyr Rheilffordd

Ffigur 4 – Boddhad teithwyr Trafnidiaeth Cymru o ran gwerth am arian, glendid a gwybodaeth a ddarperir yn ystod y daith.

Siart yn dangos canlyniadau TrC o Arolygon Defnyddwyr Rheilffordd Transport Focus dros amser am foddhad o ran gwerth am arian, glendid a gwybodaeth yn ystod y daith. Mae'r canlyniadau wedi gostwng dros amser.

 

Ffynhonnell: Transport Focus – Arolwg Defnyddwyr Rheilffordd

Ym mis Ebrill 2023, galwodd Transport Focus ar i Drafnidiaeth Cymru ddarparu gwasanaeth rheilffordd mwy dibynadwy ar fyrder ar ôl misoedd o aflonyddwch i deithwyr. Fe ysgrifennodd at TrC yn mynegi pryder am berfformiad, gan ofyn iddo ddatblygu cynllun gweithredu gydag amserlenni ar gyfer adfer perfformiad yn ymwneud â:

  • darparu gwybodaeth, gan gynnwys gwell rhybudd o newidiadau i'r amserlen, gan sicrhau bod gwybodaeth gyson yn cael ei darparu;
  • monitro a gwella profiad amnewid gwasanaethau rheilffyrdd, gyda gwybodaeth a chymorth clir i deithwyr; a
  • mwy o ffocws ar wella’r modd o ymdrin â chwynion.

Atebodd TrC yn fanwl gan nodi'r heriau yr oedd yn eu hwynebu wrth reoli cerbydau sydd wedi’u "rhaeadru" (h.y. ail law / wedi'u hadnewyddu) ac amlinellodd gamau gweithredu oedd yn cael eu cymryd yn y meysydd a godwyd gan Transport Focus.

Dywedodd ei fod wedi cynyddu maint ei dîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, ac yn bwriadu cynyddu adnoddau i wella amseroedd trin cwynion yn sylweddol. Roedd data ORR ar gyfer 2022-23 yn dangos fod TrC wedi dod yn bedwerydd o’r gwaelod o 20 o weithredwyr am foddhad â chanlyniadau cwynion, roedd hefyd yn yr hanner gwaelod ar gyfer boddhad o ran ymdrin â chwynion.

Dywedodd datganiad ym mis Awst gan Transport Focus ei fod yn dal i weld enghreifftiau o pan mae gwybodaeth a chymorth i deithwyr yn ystod aflonyddwch yn disgyn ymhell islaw’r safonau disgwyliedig. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod rhai gwelliannau clir i amnewid gwasanaethau rheilffyrdd. Roedd adroddiadau bod bysiau a ddefnyddir yn lle trenau yn anhygyrch ac anniogel oherwydd eu bod yn orlawn.

Mewn llythyr agored ym mis Mai 2023, gan saith grŵp o ddefnyddwyr rheilffyrdd, tynnwyd sylw hefyd at broblemau gyda bysiau’n cymryd lle trenau. Roedd y llythyr yn awgrymu bod oedi difrifol, canslo yn aml, gorlenwi, a methu â darparu gwybodaeth gywir yn arwydd o fethiant llwyr gan uwch reolwyr.

Priodoli perfformiad gwael i drafferthion yn ymwneud â cherbydau a staffio

Yn ystod sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog ym mis Gorffennaf, dywedodd Mark Drakeford AS bod trafferthion recriwtio yn effeithio ar y diwydiant trafnidiaeth cyfan. Mae data ORR 'P-Coded Cancellations' (gweler uchod) ar gyfer y cyfnod perfformiad diweddaraf sydd ar gael (cyfnod 6, 2023-24) yn dangos bod mwy o drenau TrC wedi'u canslo ymlaen llaw oherwydd argaeledd staff na phrinder cerbydau. Roedd hyn yn wir ar draws yr holl weithredwyr y mae data ar gael ar eu cyfer.

O ran y cerbydau, mae'r llythyr agored gan grwpiau defnyddwyr y rheilffordd yn awgrymu y gallai rheolaeth fwy effeithiol gan TrC o ran asedau fod wedi osgoi prinder cerbydau oherwydd 'digwyddiadau thermol' (hy tanau).

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd ORR hysbysiad gwella i TrC wrth i dri thân ddigwydd mewn cyfnod o fis tra roedd trenau dosbarth 175 yn gwasanaethu teithwyr. Dywedodd bod TrC:

…have failed to ensure so far as is reasonably practicable that passengers and employees are not exposed to the risk of harm…The operator has failed to implement effective arrangements for the organisation, control and monitoring for the maintenance of the class 175 fleet…

Dywedodd James Price, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin fod gwasanaethau ar linell y Gororau wedi perfformio'n anhygoel o wael, yn bennaf oherwydd y problemau gyda fflyd y dosbarth 175. Mae'r llythyr agored yn awgrymu pe bai dosbarthiadau eraill o gerbydau wedi bod yn gwasanaethu erbyn hyn ... (yn unol â chynllun gwreiddiol TrC), ni fyddai colli’r 175 wedi bod mor dyngedfennol.

Caiff trafferthion gyda cerbydau eu hadlewyrchu mewn data perfformiad TrC o ran yr hyn a elwir yn 'ffurfiannau byr'. Mae hyn yn cyfeirio at ganran y gwasanaethau sy'n gweithredu islaw'r capasiti sy'n ofynnol ar gyfer y gwasanaeth yn yr amserlen. Mae ffigur 5 yn dangos bod hyn yn gyson uwch yn 2023-24 o'i gymharu â'r un cyfnodau y llynedd.

Ffigur 5 – Canran y ffurfiannau byr

Siart yn dangos canran y gwasanaethau sy'n ffurfiannau byr yn ystod 2022-23 a 2023-24. Mae'r ganran yn gyson uwch ar gyfer 2023-24 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

Ffynhonnell: Trafnidiaeth Cymru

Noder – Data ar goll o gyfnod 13 2022-23. Cofnodwyd gan TrC fel N/A

Yn ogystal â phroblemau gyda'r dosbarth 175, cofnodwyd trafferthion hefyd gyda threnau batri-hybrid dosbarth 230 (wedi'u hail-bwrpasu o drenau tan-ddaearol Llundain) ar linell Wrecsam-Bidston.

Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio rhai trenau yn dilyn 'lansiad meddal' ym mis Ebrill oherwydd "mân faterion technegol" a chofnodwyd trafferthion dros yr haf gyda phaill yn tagu hidlyddion injan rhai peiriannau. Dywedodd TrC wrth y cyfryngau fod y sefyllfa wedi’i rheoli eleni ond y bydd yn chwilio am ateb mwy parhaol i'w atal rhag digwydd y flwyddyn nesaf.

Gosododd TrC gynllun pum pwynt i wella gwasanaethau llinell reilffordd Wrecsam i Bidston ym mis Mehefin.

Aelodau o'r Senedd yn paratoi i graffu

Wrth edrych yn ôl ar y pum mlynedd diwethaf, mae TrC yn myfyrio ar orfod ymdrin â phandemig byd-eang, tywydd gwlyb eithriadol a'r rhyfel yn Wcrain yn effeithio ar y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â’r argyfwng costau byw diweddar a chwyddiant.

Ond gydag eglurder ynghylch trafferthion perfformiad y rheilffyrdd, bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cynnal ei waith craffu blynyddol ar TrC yr wythnos nesaf i ddeall sut mae'n ymateb.

Gallwch wylio'r sesiwn yn fyw ar Senedd TV ar 22 Tachwedd o 9.30am.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru