Torri’r cylch – Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn canfod bod y system cyfiawnder troseddol yn methu menywod Cymru

Cyhoeddwyd 22/05/2023   |   Amser darllen munud

Mae angen gweithredu dull ‘arbennig, cwbl wahanol’ – dyma oedd canfyddiad adroddiad arloesol y Farwnes Corston i brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol yn 2007. Ond ers hynny, nid oes fawr ddim wedi newid.

Roedd yr adroddiad yn galw am ffocws cryfach ar anghenion penodol menywod, a phwysleisiodd y rhesymau sylfaenol dros pam mae dynion a menywod yn troseddu’n wahanol. Tynnodd sylw at y ffaith bod llawer o fenywod eu hunain yn ddioddefwyr sydd wedi profi trawma yn ystod plentyndod, cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl.

Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos bod y diwygiadau, ar y raddfa y gofynnwyd amdani yn adroddiad Corston, wedi cael eu cyflawni. Er gwaethaf y cytundeb cyffredinol bod angen gweithredu dull ar sail rhywedd at gyfiawnder troseddol, mae’r cynnydd wedi bod yn araf.

Yn 2022, daeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus  a Phwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin i'r casgliad nad oes llawer o gynnydd wedi’i wneud o ran lleihau nifer y menywod yn y carchar a datblygu opsiynau eraill yn lle’r ddalfa.

Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Er bod cyfiawnder a charchardai yn faterion sy’n cael eu cadw o fewn cyfrifoldebau Llywodraeth y DU, mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae wrth ysgogi newid. Mae llawer o feysydd y system cyfiawnder troseddol yn rhyngweithio â chyfrifoldebau datganoledig gan gynnwys mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, iechyd corfforol a meddyliol, a thai.

Mae Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod 2019 yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda phartneriaid datganoledig a rhai nad ydynt wedi’u datganoli, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Ei nod yw lleihau nifer y menywod yn y system gyfiawnder drwy ymyrryd yn gynharach a chreu atebion cynaliadwy yn y gymuned.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, yn canmol y dull cydweithredol a ddefnyddiwyd yng Nghymru i ddatblygu'r Glasbrint a chyflwyno rhaglenni a gynlluniwyd i gefnogi menywod sydd mewn perygl o droseddu neu aildroseddu. Mae hyn yn cynnwys Dull System Gyfan y Rhaglen Fraenaru i Fenywod (WPWSA), sy'n ceisio ymgysylltu a gweithio gyda menywod i nodi eu hanghenion unigol, a datblygu'r dull sy'n canolbwyntio ar fenywod a argymhellir gan Corston.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor y dylai’r WPWSA gael ei ehangu a'i ddarparu ledled Cymru. Disgwylir i’r dull fod ar waith erbyn mis Ionawr 2024.

Er gwaethaf y datblygiad cadarnhaol hwn, canfu'r Pwyllgor fod angen cymryd camau pellach i greu'r newid sydd ei angen yn ôl adroddiad Corston. Er enghraifft, mae menywod yn parhau i gael dedfrydau byr o garchar, yn wyneb cydnabyddiaeth eang bod y rhain yn cyfrannu at gylch o aildroseddu.

Mae tri argymhelliad allweddol o'r adroddiad yn cynnwys:

Yr angen am fwy o ganolfannau menywod

Mae canolfannau menywod yn darparu siop un stop lle gall menywod gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cwnsela a chymorth ar ffurf sesiynau un i un neu sesiynau galw heibio. Mae llawer o fenywod sy'n defnyddio’r canolfannau yn wynebu nifer o heriau gan gynnwys problemau tai, iechyd meddwl a chorfforol, cam-drin domestig a materion cyfiawnder troseddol.

Roedd adroddiad y Pwyllgor yn adleisio canfyddiadau Corston o ran gwerth canolfannau menywod. Tynnodd sylw at y rôl ganolog y gallant ei chwarae wrth gefnogi menywod, o ran ymyrraeth gynnar, dargyfeirio, a chymorth ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar. Roedd yn argymell cryfhau'r math hwn o ddarpariaeth. Er bod Llywodraeth Cymru yn cytuno, ni wnaeth ymrwymo i fwy o gyllid, gan ddweud yn unig y byddai'n cael ei ystyried mewn “cylchoedd cyllideb yn y dyfodol”.

Dylai dedfrydau o garchar fod yn ddewis olaf

Cafodd y Pwyllgor “sioc” o glywed mai 42 diwrnod yw’r arhosiad cyfartalog yng Ngharchar Ei Fawrhydi Eastwood Park, a chlywodd dystiolaeth anecdotaidd bod rhai menywod wedi cael dedfryd o lai nag wythnos. Clywodd y Pwyllgor y gall dedfrydau byr, o ganlyniad i’r ffaith nad oes gan Gymru unrhyw garchardai i fenywod, fod yn arbennig o aflonyddgar i blant y bydd angen iddynt, ar gyfartaledd, deithio 100 milltir i ymweld â’u mamau.

Mae sicrhau bod gan ddedfrydwyr ddigon o ddewisiadau amgen a chyson yn lle carcharu yn flaenoriaeth allweddol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i wella dewisiadau amgen yn y gymuned, gan gynnwys datblygu rhaglenni achrededig ac ymyriadau strwythuredig.

Dyfodol ansicr i’r cynllun peilot Canolfan Breswyl i Fenywod

Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar ddysgu mwy am y cynllun peilot Canolfan Breswyl i Fenywod Cymru arfaethedig yn Abertawe. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y byddai’n ‘ategu nodau’r Glasbrint o ran cryfhau’r ddarpariaeth gymunedol i fenywod’ a’i bod yn ‘hollbwysig ein bod yn llwyddo yn hyn o beth’.

Roedd gan y rhanddeiliaid safbwyntiau gwahanol. Roedd rhai yn annog y dylid bod yn ofalus ynglŷn â’r elfen breswyl, y cyllid a’r trefniadau rheoli. Roedd y Pwyllgor yn teimlo'n gryf na ddylai efelychu’r niwed o anfon menywod i'r carchar ymhell o'u cartrefi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru'r argymhelliad i weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i sicrhau bod y cynllun peilot yn cyd-fynd â nodau’r Glasbrint.

Ni allai Llywodraeth Cymru egluro a fydd y cynllun peilot hirddisgwyliedig yn mynd yn ei flaen mewn gwirionedd. Maent yn parhau i geisio cael caniatâd cynllunio, ar ôl cael ei gwrthod yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2022, ac nid yw’n glir a oes cynllun wrth gefn os na fydd y peilot yn mynd yn ei flaen ar y safle penodol hwn.

Y ‘perygl moesol’: mwy o bwerau datganoledig dros gyfranogiad menywod yn y system cyfiawnder troseddol

Canfu'r Pwyllgor fod gallu Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau i fenywod yn cael ei rwystro gan y setliad cyfansoddiadol. Dywedodd Dr Robert Jones, awdur y llyfr ‘System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg', y canlynol wrth y Pwyllgor:

… the ability of devolved government to act as an effective policy maker is constrained and, ultimately, undermined by the fact that the UK Government controls most of the key criminal justice policy levers.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod ‘perygl moesol’ o ddarparu cyllid ar gyfer pethau nad ydynt wedi’u datganoli:

… the Welsh Government finds itself always being expected to not just play our part in terms of joint working and so on, but funding things that really are not for us to fund in order to make them happen.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y setliad datganoli cyfredol yn arwain at niwed i fenywod. Roedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “ymdrechu i gael cyfrifoldeb datganoledig am gyfranogiad menywod yn y system cyfiawnder troseddol”. Cytunodd Llywodraeth Cymru ac ailddatganodd ei hymrwymiad i ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru, gan ddweud:

… outcomes for women in the criminal justice system in Wales could be significantly improved through devolution.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i argymhelliad y Pwyllgor, mae Llywodraeth y DU yn anghytuno â datganoli cyfiawnder i Gymru. Felly, yn y tymor byr, bydd yn hanfodol canolbwyntio ar gydweithio er mwyn cyflawni’r nodau a amlinellir yn y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddydd Mercher 24 Mai 2023. Gallwch wylio’r ddadl hon ar Senedd.tv.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru