Cau safle glo brig Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful ddiwedd 2023 oedd diwedd y bennod ddiweddaraf ym mherthynas hir a chymhleth de Cymru â glo.
Fel gyda phyllau glo dwfn, mae nifer y safleoedd glo brig wedi bod yn gostwng yn raddol ers y 1960au. Er hynny, dros y degawd diwethaf mae miliynau o dunelli o lo wedi parhau i gael eu codi bob blwyddyn yn y DU drwy gloddio glo brig. Oherwydd ei gwythiennau glo cyfoethog, bu de Cymru yn gartref i nifer o safleoedd glo brig o wahanol feintiau dros y blynyddoedd.
Er nad oes safleoedd glo brig gweithredol bellach, mae gwaddol safleoedd y gorffennol yn parhau i fod yn bwnc trafod. Er bod y diwydiant glo, yn hanesyddol, wedi dod â manteision economaidd i gymoedd de Cymru drwy greu swyddi, mae wedi gadael creithiau dwfn heb os ar dirwedd a chymunedau’r ardaloedd hynny.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ymchwiliad er mwyn dod i ddeall y darlun o ran adfer safle Ffos-y-Fran a safleoedd glo brig eraill ledled Cymru yn well. Er ei fod yn cydnabod yr heriau sydd ynghlwm wrth sicrhau bod safleoedd yn cael eu hadfer, yn ôl y Pwyllgor “nid yw’r gwaith adfer wedi bod yn agos at yr hyn a addawyd”, ac mae’n cyfeirio at Ffos-y-Fran fel “symbol o fethiannau’r system”.
A oedd yr ysgrifen ar y mur?
Awdurdodau lleol sy’n bennaf cyfrifol am reoli’r gwaith adfer ar safleoedd glo brig, ac mae gan yr Awdurdod Glo a Cyfoeth Naturiol Cymru ran gyfyngedig i’w chwarae.
Ym mis Ebrill 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil i’r methiant i adfer safleoedd glo brig yn ne Cymru. Edrychodd ar y risgiau cyfredol a’r risgiau posibl o ran gwaith adfer annigonol, a rhesymau posibl dros fethu ag adfer safleoedd. Ceisiodd nodi achosion lle’r oedd y warant neu’r bond ariannol yr oedd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei ddal yn annigonol ar gyfer yr hyn y gallai fod ei angen er mwyn adfer safle yn unol â’r caniatâd cynllunio, pe bai’r safle’n cael ei adael neu pe na bai’n cael ei adfer.
Cafodd deg safle gweithredol eu nodi. Yn ogystal, ystyriwyd pedwar safle a oedd wedi’u hadfer (ond yn derbyn ôl-ofal) a thri safle â cheisiadau cynllunio yn yr arfaeth. Nid oedd yr astudiaeth o’r farn bod pedwar o’r deg safle (Glan Lash, Nant-y-Mynydd, Bwlch Ffos a Selar) yn peri risg sylweddol. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod risg na fyddai gan bum safle mwy o faint (Ffos-y-Fran, Glofa’r Tŵr, Nant Helen, Pwll y Dwyrain a Margam) sicrwydd bond digonol ar ryw adeg yn ystod eu hoes weithredu. Yn ogystal, canfuwyd bod safle llai ond arwyddocaol yn Dynant Fawr, y Tymbl, Sir Gaerfyrddin wedi’i adael i bob pwrpas heb ei adfer.
Canfu’r astudiaeth fod bondio a mecanweithiau eraill i sicrhau bod safleoedd yn cael eu hadfer wedi’u defnyddio’n anghyson. Roedd yr arian a gronnwyd ar gyfer rhai safleoedd yn llai na’r hyn yr oedd ei angen i adfer y safleoedd yn unol â’r amodau cynllunio gwreiddiol, ac i dalu costau ôl-ofal y safleoedd.
Wrth ohebu â’r Pwyllgor cyn ei ymchwiliad, cytunodd Llywodraeth Cymru â chanfyddiadau’r ymchwil, a dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd:
Mae diffyg cyllid yn effeithio ar safleoedd sy’n golygu bod angen gwneud penderfyniadau anodd ac anfoddhaol ynghylch cynlluniau adfer diwygiedig.
Ffos-y-Fran: “Symbol o fethiannau’r system”
At the outset in 1990 local people in East Merthyr and Dowlais were given pledges by their local authorities. Yes, there would be noise and nuisance in the short term but after 20 years – 30 at most – the old coal and slag tips stretching from Penydarren near Merthyr Tydfil town centre right up to the top of the overlooking hills would be re-purposed to provide communities with much needed breathing space and an environment that encouraged the revival of biodiversity.
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr Tudful
Mae’r problemau o ran adfer safle Ffos-y-Fran wedi cael llawer o sylw. Cafodd yr awdurdod lleol gryn dipyn o anawsterau o ran ei berthynas â gweithredwr y safle, o’r ffaith bod y gwaith cloddio wedi parhau ar ôl i’r drwydded ddod i ben, i heriau o ran cydweithio i lunio cynllun i gau’r safle ac asesu’r costau adfer yn gywir.
Ymddengys fod cymunedau lleol wedi’u gadael mewn sefyllfa lle na fydd y safle’n cael ei adfer yn unol â’r cytundeb cynllunio gwreiddiol. Yn hytrach, mae’n debygol y bydd yn golygu cadw rhai o’r twmpathau gorlwyth a chorff o ddŵr yn y gwagle.
Dywedodd y Pwyllgor fod hyn yn “ganlyniad annerbyniol a achoswyd gan ddiffyg gweithredu bwriadol gweithredwr y safle”. Galwodd ar Gyngor Merthyr Tudful i fanteisio ar y cyfle “i wneud iawn” drwy sicrhau bod trigolion yn cael eu cynnwys yn llawn wrth ystyried y cynllun adfer diwygiedig.
Methiant o ran polisi a deddfwriaeth?
Nod ymchwiliad y Pwyllgor oedd nid dim ond edrych ar gamgymeriadau’r gorffennol, ond edrych tua’r dyfodol hefyd, i ddysgu gwersi er mwyn osgoi gwneud yr un camgymeriadau eto.
Er efallai mai cau Ffos-y-Fran yw diwedd y bennod ddiweddaraf, efallai nad dyma’r bennod olaf. Er mai safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw na ddylid cymeradwyo ceisiadau i dynnu glo, mae’r drws yn dal yn gilagored. Pe bai cynigion yn cael eu cyflwyno o dan “amgylchiadau cwbl eithriadol”, mae’r polisi cynllunio’n dweud y byddai rhaid iddynt ddangos yn glir pam y mae eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau ac am resymau diogelwch ynni cenedlaethol.
Mynegodd y Pwyllgor bryder y gallai hyn arwain at gloddio yn y dyfodol, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i egluro’r meini prawf y mae rhaid eu defnyddio wrth asesu cynigion.
Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau sy’n ymwneud â chloddio yn rhai cadarn a chyfredol er mwyn darparu amddiffyniadau priodol i awdurdodau lleol a chymunedau. Roedd hyn yn cynnwys argymell y dylid adolygu’r Nodyn Cyngor Technegol Mwynau: Glo (MTAN2), rhoi sail statudol i ganllawiau arfer gorau’r Awdurdod Glo, ac ailedrych ar argymhellion adroddiad 2014. At hynny, galwodd am adolygiad annibynnol i asesu faint o gyllid sydd ei angen i adfer safleoedd glo brig i “lefel dderbyniol”, a dywedodd y dylid penderfynu ar hynny drwy ymgynghori ag awdurdodau lleol a chymunedau.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru, Cyngor Merthyr Tudful a phreswylwyr o Abertawe y mae safle Margam yn effeithio arnynt i adroddiad y Pwyllgor dros yr haf. Bydd dadl yn cael ei chynnal arno yn y Senedd ddydd Mercher 13 Tachwedd.
Cyn y ddadl, darllenwch ein papur briffio ar adfer safleoedd glo brig yng Nghymru i gael rhagor o gyd-destun.
Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru