Pentwr o sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ffordd, gan gynnwys dodrefn, bagiau bin du, soffa, clustogau, teganau ac eitemau cartref wedi'u gwasgaru ar y ddaear wrth ymyl glaswellt.

Pentwr o sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ffordd, gan gynnwys dodrefn, bagiau bin du, soffa, clustogau, teganau ac eitemau cartref wedi'u gwasgaru ar y ddaear wrth ymyl glaswellt.

Tipio anghyfreithlon yng Nghymru

Cyhoeddwyd 13/11/2025

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ac mae'n cyfeirio at wastraff sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon ar dir. Mae'n peri bygythiad i gymunedau a bywyd gwyllt, ac mae’n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl oherwydd dirywiad yn ansawdd amgylcheddol cymunedau lleol.

Mae’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil:

  • yn cyflwyno tipio anghyfreithlon fel trosedd;
  • yn amlinellu ei effeithiau a'i achosion;
  • yn rhoi trosolwg o strategaethau tipio anghyfreithlon cyfredol a blaenorol Llywodraeth Cymru;
  • yn edrych ar faint y broblem o dipio anghyfreithlon yng Nghymru heddiw; ac
  • yn ystyried y cosbau a'r camau gorfodi sy'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon.

 

Erthygl gan Liesl van de Vyver Blackman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Liesl van de Vyer Blackman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd yr erthygl ymchwil hon i gael ei chwblhau.