TGAU 2023 – beth yw’r canlyniadau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 24/08/2023   |   Amser darllen munudau

Yn gynharach heddiw cafodd dysgwyr ledled y wlad eu canlyniadau TGAU.

Aeth yr arholiadau yn eu blaenau yn ôl y drefn arferol eleni. Yn wahanol i’r llynedd, nid oedd unrhyw addasiadau i arholiadau, ond rhoddwyd rhybudd ymlaen llaw i ddysgwyr am rai o’r themâu, testunau neu gynnwys yr hyn fyddai yn yr arholiadau. Bwriad hyn oedd helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu gwaith adolygu.

Beth yw canlyniadau haf 2023?

Roedd disgwyl i ganlyniadau cyffredinol yr arholiadau eleni fod yn is na’r llynedd, ond yn uwch na rhai 2019. Yn yr erthygl yr wythnos diwethaf ynghylch canlyniadau Safon Uwch, gwnaethom esbonio bod graddau cyffredinol, yn ystod y blynyddoedd pan gafodd arholiadau eu canslo, yn llawer uwch na’r graddau cyn y pandemig. Gwnaethom hefyd esbonio mai’r bwriad oedd i 2022 fod yn flwyddyn bontio, gyda’r canlyniadau’n adlewyrchu’n fras y canolbwynt rhwng 2021 a 2019.

Y bwriad gwreiddiol oedd dychwelyd eleni at y dulliau graddio a ddefnyddiwyd yn 2019, cyn y tarfu o ganlyniad i COVID-19. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae penderfyniad Cymwysterau Cymru ym mis Medi 2022 yn golygu y bwriedir i’r canlyniadau cyffredinol yn 2023 fod tua hanner ffordd rhwng y rhai yn 2019 a 2022, gan ddychwelyd yn 2024 i’r dull graddio a ddefnyddiwyd cyn y pandemig. Mae'r sefyllfa yn Lloegr yn wahanol i Gymru, lle mae canlyniadau wedi'u seilio ar raddau cyn y pandemig ond gyda rhywfaint o amddiffyniad i ddysgwyr fel y nodwyd yn erthygl yr wythnos ddiwethaf.

Canran y cofrestriadau a gafodd TGAU yn ôl gradd, 2023 (dros dro)

 

Nifer y cofrestriadau

 A/7 neu uwch

C/4 neu uwch

G/1 neu uwch

2023

300,409

21.7

64.9

96.9

2022

311,072

25.1

68.6

97.3

2021

328,658

28.7

73.6

98.5

2019

295,690

18.4

62.8

97.2

 

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru

Mae'r data yn y tabl uchod yn dangos canlyniadau ar gyfer 2023 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru. Cyhoeddir data hefyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys yr wyth darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU). Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu cadarnhau cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r data'n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed. 

Am y rhesymau a nodir uchod, nid oes modd cymharu canlyniadau eleni yn uniongyrchol â rhai’r blynyddoedd blaenorol.

Eleni, mae’r canlyniadau unwaith eto yn uwch i ymgeiswyr benywaidd nag i ymgeiswyr gwrywaidd:

  • Llwyddodd 25.2 y cant o ymgeiswyr benywaidd i gael A/7 neu’n uwch o gymharu â 18.1 y cant o ymgeiswyr gwrywaidd;
  • Llwyddodd 68.3 y cant o ymgeiswyr benywaidd i gael C/4 neu’n uwch o gymharu â 61.4 y cant o ymgeiswyr gwrywaidd;
  • Llwyddodd 97.2 y cant o ymgeiswyr benywaidd i gael G/1 neu’n uwch o gymharu â 96.5 y cant o ymgeiswyr gwrywaidd;

Yn Lloegr, mae TGAU yn cael eu graddio o 9 i 1. Ni ellir cymharu'r graddau hyn yn uniongyrchol â'r graddau A* – G a ddefnyddir yng Nghymru. Mae'n bosibl y bydd dysgwyr yng Nghymru yn cymryd rhai cymwysterau TGAU sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr. Mae canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys TGAU A* – G Cymru a’r TGAU 9 – 1 a gynlluniwyd i'w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddfeydd yn alinio'n uniongyrchol, cyhoeddir canlyniadau ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1. Er nad yw'r graddau'n alinio, roedd nifer y dysgwyr yn Lloegr a enillodd radd 4 neu’n uwch i lawr i 67.8 y cant o gymharu â 73.0 y cant y llynedd, ac roedd hyn yn llawer agosach at y canlyniadau yn 2019, sef 67.0 y cant.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru