Taro bargen: Archwilio masnach rhwng Cymru a’r UDA

Cyhoeddwyd 18/02/2025   |   Amser darllen munudau

Yr Unol Daleithiau yw un o brif bartneriaid masnachu Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio cryfhau’r berthynas hon, gan gynnwys drwy ei Strategaeth Ryngwladol. Mae'r UDA hefyd yn un o’r marchnadoedd â blaenoriaeth i’w targedu gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio sy’n cyd-fynd â’r strategaeth ryngwladol.

Yn sgil y ffocws presennol ar bolisi masnach yr Unol Daleithiau, mae’r erthygl hon yn amlinellu’r effeithiau posibl ar Gymru ac yn nodi’r ystadegau diweddaraf ar gyfer masnach rhwng Cymru a’r UDA.

Masnach rhwng Cymru a’r UDA

Yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru, UDA oedd partner masnachu mwyaf gwerthfawr Cymru yn 2023 fesul gwlad (yr Undeb Ewropeaidd yw partner masnachu mwyaf Cymru, at ei gilydd, o hyd).

Mae Ffigur 1 isod yn dangos gwerth mewnforion ac allforion rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ffigur 1: Masnach rhwng Cymru a’r UDA yn ôl gwerth (2013-2023)

Mae Ffigur 1 yn dangos gwerth mewnforion ac allforion rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru Masnach nwyddau rhyngwladol - dangosfwrdd rhyngweithiol

Prif allforyn Cymru i’r Unol Daleithiau yn 2023 oedd peiriannau a chyfarpar trafnidiaeth, a oedd yn cyfrif am 5.3 y cant o allforion Cymru. Y prif fewnforyn oedd tanwydd mwynol, ireidiau a deunyddiau eraill, a oedd yn cyfrif am 8.1 y cant o fewnforion Cymru.

Mewn datganiad i'r wasg, dywedodd Llywodraeth Cymru mai’r Unol Daleithiau “yn gyson” fu mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru yn ystod yr un cyfnod o 10 mlynedd, gan ychwanegu:

Yn 2022-23, sicrhaodd Cymru 14 buddsoddiad o'r UDA, gan addo creu 836 o swyddi newydd a diogelu 537 o swyddi eraill.

Soniodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, am arwyddocâd yr Unol Daleithiau fel partner masnachu ar 21 Ionawr 2025, yn sgil urddo’r Arlywydd Trump, gan ddweud:

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod 40,000 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio i gwmnïau o'r Unol Daleithiau, felly mae cynnal perthynas â'r Unol Daleithiau yn hollbwysig iddyn nhw. Mae hefyd yn gyfrifol am 14 y cant o'n hallforion a hwythau hefyd yw'r mewnfuddsoddwyr mwyaf yng Nghymru. Felly, mae cynnal perthynas ag un o'r gwledydd mwyaf grymus yn y byd, rwy'n credu, yn bwysig, waeth pwy sy'n rhedeg y wlad.

Tariffau yr UDA

O ran y posibilrwydd y bydd yr UDA yn gosod tariffau, dywedodd y Prif Weinidog y byddai tariffau “yn niweidiol iawn i'n busnesau yng Nghymru” ac yn “arwain yn anochel at golli swyddi”.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn bwriadu cyfarfod â llysgennad newydd y DU i’r Unol Daleithiau, y dywedodd y byddai’n gwneud “y ddadl dros ba mor bwysig yw marchnad yr Unol Daleithiau i Gymru […] ac y gallwn ni hefyd annog allforion, heb dariff yn ddelfrydol”. Cafodd yr Arglwydd Peter Mandelson ei benodi fel llysgennad y DU i’r Unol Daleithiau ym mis Rhagfyr 2024.

Ers cymryd yr awenau, mae’r Arlywydd Trump wedi cyhoeddi tariffau ar fewnforion o Ganada, Tsieina a Mecsico. I ddechrau, ymatebodd y tair gwlad drwy gynnig cyflwyno tariffau eu hunain. Daeth Mecsico a Chanada i gytundebau â'r Unol Daleithiau i oedi'r tariffau arfaethedig am 30 diwrnod. Mae Tsieina eisoes wedi gosod rhai tariffau ar fewnforion o’r Unol Daleithiau, ac wedi cyflwyno cwyn i Sefydliad Masnach y Byd. Fodd bynnag, nid yw Sefydliad Masnach y Byd wedi gallu ystyried achosion cyfreithiol ers 2019, pan rwystrodd yr Unol Daleithiau y broses o benodi barnwyr i’w gorff apeliadol.

Ar 10 Chwefror, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump dariff o 25 y cant ar yr holl ddur ac alwminiwm sy’n cyrraedd yr Unol Daleithiau. Ar 13 Chwefror, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump Gynllun ‘Teg a Chyfatebol’ newydd, gan ddisgrifio diben y cynllun fel a ganlyn: “to counter non-reciprocal trading arrangements with trading partners by determining the equivalent of a reciprocal tariff with respect to each foreign trading partner”. Mae’r BBC wedi adrodd y bydd tîm yr Arlywydd Trump yn cyflwyno’r cynllun iddo erbyn 1 Ebrill er mwyn iddo ei ystyried. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi ymateb i'r cyhoeddiad, gan ei ddisgrifio fel cam yn y cyfeiriad anghywir. Ychwanegodd y Comisiwn ei fod yn credu mewn partneriaethau masnachu cytbwys a chydfuddiannol, ac y byddai’n ymateb yn gadarn i’r hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel a ganlyn: “unjustified barriers to free and fair trade”.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw eglurder ynghylch a fydd yr Unol Daleithiau yn gosod tariffau ar y DU ai peidio. Mae’r Arlywydd Trump wedi siarad yn gyhoeddus am y posibilrwydd y caiff tariffau eu gosod, gan ddweud: “The UK is out of line, but I think that one can be worked out”.

Gallai tariffau rhwng yr Unol Daleithiau a'i phrif bartneriaid masnachu gael effaith ar y DU hefyd, gydag adroddiad gan y BBC yn nodi amcangyfrifon y gallai’r tariffau ar Fecsico a Chanada leihau twf cynnyrch domestig gros y DU 0.1 pwynt canran yn 2025. Y rheswm am hyn yw y gallai allforion o’r DU i’r gwledydd dan sylw fynd yn ddrutach pe bai gwerth eu harian cyfred yn gostwng. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y gallai allforion diwydiannol gael eu dargyfeirio o’r Unol Daleithiau a llifo i mewn i farchnad y DU.

Tariffau yr UE

Mae’r Arlywydd Trump yn y gorffennol wedi awgrymu gosod tariffau ar yr UE. Y bloc yw partner masnachu mwyaf Cymru, gan gyfrif am 59.5 y cant o allforion nwyddau o Gymru yn 2023 (fel cymhariaeth, roedd allforion o Gymru i'r Unol Daleithiau yn cyfrif am 15.1 y cant). Gallai unrhyw effeithiau economaidd tariffau ar economi'r UE arwain at effeithiau tebyg ar economi'r DU i'r rhai a ddisgrifiwyd uchod yn achos Canada a Mecsico.

Byddai ynys Iwerddon yn fater arall i Lywodraeth y DU ei ystyried pe bai’r Arlywydd Trump yn mynd ar drywydd tariffau yn erbyn yr UE. O dan Fframwaith Windsor, mae Gogledd Iwerddon yn gweithredu cod tollau’r UE, a byddai’n rhaid iddi gymhwyso unrhyw dariffau ar nwyddau o’r Unol Daleithiau a osodir gan yr UE, tra efallai na fyddai’n rhaid i’r DU wneud hynny.

Cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd adroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ym mis Hydref 2023, ac mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl ar Gymru a Fframwaith Windsor.

Cydbwyso masnach â’r UE a'r Unol Daleithiau

Mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer AS, wedi bod yn ceisio ail-fframio’r berthynas â’r UE ers iddo ddechrau ar ei rôl. Mae blaenoriaethau Llywodraeth y DU yn cynnwys cytundeb ar wiriadau iechydol a ffytoiechydol/cytundeb milfeddygol a allai olygu bod yn rhaid sicrhau aliniad rheoleiddiol agosach rhwng y DU a’r UE. Mae sylwebwyr wedi cwestiynu a fyddai’r UE yn fodlon dod i gytundeb ar wiriadau iechydol a ffytoiechydol/cytundeb milfeddygol â’r DU os yw’r DU hefyd yn ceisio taro cytundeb masnach â’r Unol Daleithiau a fyddai’n caniatáu i nwyddau o’r Unol Daleithiau sydd â gwahanol safonau rheoleiddiol gael eu mewnforio i’r DU. Mewn perthynas â’r pwynt hwnnw, gwnaeth UK in a Changing Europe y sylwadau a ganlyn:

agreeing to relax restrictions on, say, the import of cheap American food would be unpopular at home. It would also scupper any chances of the veterinary deal with the EU that forms part of Starmer’s much-vaunted ‘reset’.

Holwyd Prif Weinidog y DU ynghylch y tensiwn a fyddai’n cael ei greu pe bai’r DU yn ceisio meithrin cysylltiadau masnachu agosach â’r UE a’r Unol Daleithiau ar yr un pryd, ac atebodd nad yw’r DU yn bwriadu dewis rhwng yr Unol Daleithiau a’r UE. Roedd Llywodraeth flaenorol y DU wedi dechrau trafodaethau ar bartneriaeth fasnachu ‘sylfaenol’ gyda’r Unol Daleithiau, o dan yr Arlywydd Joe Biden. Cafodd y trafodaethau hyn eu rhoi i’r neilltu ac nid oes unrhyw arwydd ynghylch a fyddant yn ailgychwyn o dan yr Arlywydd Trump.

Casgliad

Mae rhagor o newyddion ar dariffau yn debygol o godi o gofio nad yw’r Arlywydd Trump eto wedi gwneud penderfyniadau terfynol ar yr UE a’r DU. Fodd bynnag, gyda’r posibilrwydd o dariffau ar y gorwel i sawl gwlad, gallai’r DU a Chymru deimlo effaith polisi masnach yr Unol Daleithiau, hyd yn oed os yw’r effaith honno yn anuniongyrchol. Mae'r rhyfel masnach posibl rhwng yr Unol Daleithiau a'r UE hefyd yn golygu bod yn rhaid i’r DU droedio llwybr cymhleth wrth iddi geisio cydbwyso gofynion dau bartner masnachu gwahanol. O ystyried arwyddocâd marchnad yr UDA i Gymru, mae hwn yn debygol o fod yn fater allweddol am beth amser i ddod.


Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru