Llun cyfrifiannell a beiro

Llun cyfrifiannell a beiro

Talu am ofal cymdeithasol: beth mae newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 8 Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun cyllido newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae "Build Back Better" yn nodi cynlluniau ar gyfer Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i neilltuo, ledled y DU ("yr Ardoll"). Cafodd y cynlluniau eu pasio gan Dŷ'r Cyffredin ar 7 Medi 2021.

Caiff yr Ardoll ei chyflwyno ym mis Ebrill 2022, a’i chasglu i ddechrau fel cynnydd o 1.25 pwynt canran mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NIC). Yn 2023, bydd yn dod yn ardoll ddeddfwriaethol ar wahân a hefyd yn gymwys i unigolion sy'n gweithio dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (nad ydynt, ar hyn o bryd yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol ar eu henillion). Bydd cyfraddau treth difidend hefyd yn cynyddu 1.25 pwynt canran.

Sut y bydd Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn newid?

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) yn cymhwyso unigolyn i wahanol fudd-daliadau a phensiynau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, Lwfans Mamolaeth a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Byddwch yn gwneud cyfraniadau YG os ydych yn 16 oed neu'n hŷn a naill ai'n gyflogai sy'n ennill mwy na £184 yr wythnos, neu'n hunangyflogedig ac yn gwneud elw o dros £6,515 y flwyddyn. Mae cyflogwyr hefyd yn gwneud cyfraniad ar eich cyflog, a bydd y cyfraniadau hynny hefyd yn cynyddu 1.25 pwynt canran.

Yn 2021-22, caiff cyfraniadau YG ar gyfer cyflogeion (Cyfraniadau Dosbarth 1) eu talu ar 12% ar enillion rhwng £9,568 a £50,270, gyda chyfradd o 0% ar unrhyw enillion sy'n is na lleiafswm y band hwnnw. Mae enillion dros £50,270 yn ddarostyngedig i gyfradd o 2%.

O dan gynigion Llywodraeth y DU, bydd y brif gyfradd yn codi o 12% i 13.25% a'r swm uwch yn codi yr un peth, i 3.25%. Ar hyn o bryd, nid yw'r band cyfradd dim, ar enillion blynyddol o dan £9,568 yn newid ar gyfer 2021-22, gyda'r trothwy ar gyfer talu ar gyfer 2022-23 i'w bennu maes o law. Mae cyfraddau ar wahân ar gyfer pobl sy’n hunan-gyflogedig, a fydd hefyd yn cynyddu 1.25 pwynt canran.

Tabl 1: Cyfraddau Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth EM

  Cyflogai prif / uwch gyfradd

Cyfraddau CYG cyfredol (2021-22)

12% / 2%

Cyfraddau CYG 2022-23

13.25% / 3.25%

2023-24 Cyfraddau CYG

2023-24 Ardoll

12% / 2%

1.25% 

Codir ar yr holl enillion / elw uchod:

(trothwyon 2021-22)

£9,568

 

Ffynhonnell: Llywodraeth EM, Build Back Better

Defnyddir trothwyon 2021-22 fel enghraifft

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o gyflogeion yng Nghymru yn gwneud cyfraniadau YG uwch o 2022-23. Mae'r tabl isod yn dangos y cynnydd mewn cyfraniadau YG, yn seiliedig ar gyflog gros blynyddol:

Tabl 2: Amcangyfrif o Gyfraniadau YG yn ôl Cyflog Gros Blynyddol

Cyflog Gros Blynyddol CYG (2021-22)¹ CYG (2022-23)¹ Cynnydd (£)
£20,000 £1,252 £1,382 £130
£30,000 £2,452 £2,707 £255
£40,000 £3,652 £4,032 £380
£50,000 £4,852 £5,357 £505
£75,000 £5,379 £6,197 £818
£100,000 £5,879 £7,009 £1,130

 

Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r awdur ei hun

¹ Cyfrifir Cyfraniadau YG ar sail trothwy sylfaenol o £9,568, y gyfradd ar gyfer 2021-22, a throthwy cyfradd uwch o £50,270.

Faint fydd y newid yn ei godi?

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd yr Ardoll yn gwneud £12 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd dros y tair blynedd nesaf. Yr Ardoll sy'n gyfrifol am tua £11.4 biliwn o'r swm hwn a thua £0.6 biliwn o'r cynnydd i gyfraddau treth difidend. O ran y cyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â'r papur Build Back Better, mae’r Papur Gorchymyn yn nodi:

In 2024-25, Scotland, Wales and Northern Ireland will benefit from an additional £1.1 billion, £700 million and £400 million respectively.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y gallai’r “cynnydd cysylltiedig mewn gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr olygu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru, o tua £600m y flwyddyn." Ar wahân, awgrymodd Llywodraeth Cymru:

... rhaid inni aros am ganlyniad Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU cyn y gallwn wybod ag unrhyw sicrwydd faint yn union o gyllid y bydd Cymru’n ei gael o ganlyniad.

Pan ofynnwyd am yr achos dros ddatganoli Yswiriant Gwladol a'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cyfarfod Llawn (14 Medi 2021) ei fod yn cefnogi'r achos dros ddatganoli Yswiriant Gwladol a bod "penderfyniadau gwell y gellid ac y dylid bod wedi eu gwneud".

Mae Prif Weinidog y DU wedi amlinellu y byddai cyllid canlyniadol 15 y cant yn fwy nag y byddant yn ei gyfrannu drwy'r ardoll, a’i ddisgrifio fel “union dividend worth £300 million.”

Faint fydd yn mynd i Ofal Cymdeithasol?

Bydd gofyniad cyfreithiol i ddyrannu refeniw'r Ardoll i’w wario ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r papur Gorchymyn yn nodi y bydd derbyniadau o gynnydd 2022-23 yn mynd i'r GIG neu gyfwerth yn y weinyddiaeth ddatganoledig, gydag enillion yr Ardoll yn mynd i'r rhai sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol yn y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys GIG Cymru, GIG yr Alban ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon o fis Ebrill 2023.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn tynnu sylw felly mai dim ond cyfran fach yn unig o wariant iechyd a gofal cymdeithasol yn y gwledydd datganoledig – tua 6%, y byddai'r Ardoll yn ariannu. O'r herwydd, gallai gweinyddiaethau datganoledig ddewis torri (neu arafu cynnydd mewn) cyllid iechyd a gofal cymdeithasol arall nad yw'n cael ei neilltuo, neu ddewis adleoli'r arian hwnnw mewn mannau eraill. Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt yr IFS, David Phillips:

The only way the UK government could ensure the proceeds of the health and social care levy were used in full to fund increased health and social care spending outside England would be to take much greater control of the devolved governments’ budgets - something the devolved governments would be fiercely critical of.

Beth yw'r sefyllfa gyda diwygio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru?

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u datganoli, felly mae’n parhau yn ansicr sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian ychwanegol. Mae’r Papur Gorchymyn yn datgan y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio sefydlu rhaglen o waith ar y cyd i rannu arfer gorau ar draws y gwledydd cartref.

Roedd ymchwiliad y Bumed Senedd, Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio, wedi ystyried, yn flaenorol, ddiwygiadau posibl i ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad (Hydref 2018) y byddai'n well “cael ateb ledled y DU i gyllid gofal cymdeithasol, ar yr amod ei fod yn briodol i ddiwallu anghenion pobl Cymru."

Roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Ail-gydbwyso gofal a chymorth (Chwefror 2021), yn nodi cyfres o gynigion a fyddai “yn lleihau cymhlethdod, yn cynyddu cynaliadwyedd ac yn cryfhau integreiddio." Roedd yn cynnig canolbwyntio ar dri maes i wella arnynt:

  • ailganolbwyntio ar yr agweddau sylfaenol ar y farchnad gofal;
  • ailgyfeirio arferion comisiynu; a
  • datblygiad dulliau integreiddio.

Yn dilyn hynny, roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-26, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn ymrwymo i “hyrwyddo datrysiad cynaliadwy ar gyfer y DU gyfan fel y bydd gofal yn rhad ac am ddim i bawb pan fo arnynt ei angen a/neu ymgynghori ar ddatrysiad posibl i Gymru yn unig i ddiwallu ein hanghenion gofal hirdymor.”

Beth nesaf?

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cyfarfod Llawn ar 14 Medi 2021 bod Llywodraeth Cymru

... yn parhau i geisio eglurder ar gyfres o faterion sydd y tu ôl i benawdau cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Mae hynny yn cynnwys faint o gyllid sydd ar gael i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ailgynnull y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol i ystyried y camau nesaf i Gymru. Dylai canlyniad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU 2021, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ar 27 Hydref 2021, roi mwy o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni ei chynlluniau ar gyfer Gofal Cymdeithasol.


Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru