Bws yn aros wrth safle bws a char yn aros wrth groesfan reilffordd gyda thrên yn pasio yn y cefndir.

Bws yn aros wrth safle bws a char yn aros wrth groesfan reilffordd gyda thrên yn pasio yn y cefndir.

Symudedd fel gwasanaeth: Lle mae trafnidiaeth a thechnoleg yn cwrdd

Cyhoeddwyd 27/02/2024   |   Amser darllen munudau

Trafnidiaeth integredig, teithio llesol, a Symudedd fel Gwasanaeth yw geiriau allweddol trafnidiaeth gynaliadwy ar hyn o bryd. Cânt eu defnyddio'n gyfnewidiol yn aml i ddisgrifio system neu blatfform sy'n cysylltu gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn effeithlon i hwyluso symudiad o gerbydau preifat i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Mae rhanddeiliaid wedi nodi bod mabwysiadu Symudedd fel Gwasanaeth yn gyfle i newid ymddygiad teithwyr yn y DU. Mae llawer o randdeiliaid yn rhagweld y bydd annog y defnydd o ddulliau trafnidiaeth allyriadau sero ac allyriadau isel drwy Symudedd fel Gwasanaeth yn helpu’r DU i gyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050.

Gallai datblygiadau ym mholisi trafnidiaeth Cymru sydd â’r nod o gynyddu trafnidiaeth gynaliadwy a hyrwyddo integreiddio fod yn addas ar gyfer gweithredu Symudedd fel Gwasanaeth.

Beth yn union yw Symudedd fel Gwasanaeth?

Mae Symudedd fel Gwasanaeth yn fodel gweithredu trafnidiaeth arloesol sy’n ymgorffori technoleg mewn systemau trafnidiaeth. Mae'n alinio gwahanol fathau o wasanaethau trafnidiaeth i alluogi teithwyr i gynllunio, archebu a thalu am deithiau aml-foddol drwy un platfform (ee ap ffôn clyfar neu wefan). Mae'n canolbwyntio ar 'becynnu' gwasanaethau wedi’u personoli i gwsmeriaid gan ystyried eu dewisiadau a'u hanghenion.   

O dan systemau trafnidiaeth mwy traddodiadol, gall cynllunio ac archebu teithiau aml-fodd fod yn heriol. Rhaid i deithwyr fynd yn uniongyrchol at bob cyflenwr trafnidiaeth i gynllunio ac archebu eu taith, a all olygu bod angen cryn dipyn o ymdrech. Gall cynllunio ac archebu teithiau yn y modd hwn fod yn beryglus. Er enghraifft, yn gyffredinol nid yw defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag colli cysylltiadau pan gaiff pob rhan o’r daith ei harchebu’n unigol. Nid yw hyn yn annog teithwyr i chwilio am opsiynau teithio aml-fodd.

Mae’r model Symudedd fel Gwasanaeth yn symud y tasgau hyn o'r teithiwr i’r darparwr gwasanaeth.

Mae ffigur 1, wedi'i addasu o Fanc y Byd, yn dangos Symudedd fel Gwasanaeth fel y person canol rhwng y defnyddiwr a darparwyr symudedd. Mae Symudedd fel Gwasanaeth yn hwyluso mynediad hawdd ac effeithlon at drafnidiaeth a gwybodaeth o ystod o ffynonellau ar un platfform.

Ffigur 1: Diagram yn dangos gwell cysylltiad rhwng defnyddwyr a darparwyr symudedd drwy'r rhyngwyneb Symudedd fel Gwasanaeth

Diagram yn dangos gwell cysylltiad rhwng defnyddwyr a darparwyr symudedd drwy'r rhyngwyneb Symudedd fel Gwasanaeth.

Sut mae Symudedd fel Gwasanaeth yn gweithio a beth all ei gynnwys?

Mae llawer o sectorau eisoes yn defnyddio gwasanaethau tanysgrifio seiliedig ar gyfrifon gan gynnwys adloniant (Netflix, ITVX, Disney+), manwerthu (Amazon Prime), a bwydydd (Hello Fresh, Gusto). Mae Symudedd fel Gwasanaeth yn defnyddio model busnes tebyg gyda'r nod o ddarparu mynediad hawdd i amrywiaeth o opsiynau trafnidaeth ar un platfform digidol.

Mae rhai darparwyr Symudedd fel Gwasanaeth yn cynnig dewis o opsiynau talu i ddefnyddwyr, gan gynnwys tocynnau talu-wrth-fynd, neu basys diwrnod, wythnos neu fis. Mae rhai hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis bilio misol, gan ddebydu eu cyfrif banc am y gwasanaethau symudedd y maent wedi'u defnyddio.

Mae gan Symudedd fel Gwasanaeth y potensial i hwyluso a chydlynu teithio integredig ar draws dulliau trafnidiaeth cyhoeddus a phreifat. Ers y pandemig, mae tanysgrifiadau ceir wedi dod i'r amlwg fel ychwanegiad newydd i’r cynnig Symudedd fel Gwasanaeth mewn rhai mannau. Mae rhai pecynnau hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel parcio, bwyta, dosbarthu bwyd, a gostyngiadau.  

Hyd yn oed gyda'r ychwanegiadau hyn i becynnau Symudedd fel Gwasanaeth, mae aliniad a mynediad effeithlon at drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn rhan graidd o’r model busnes. Mae dulliau trafnidiaeth eraill, gan gynnwys rhannu ceir, tacsis, llogi beiciau, e-sgwteri ac e-feiciau yn rhan o hyn i ategu’r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus.

Sut olwg sydd ar Symudedd fel Gwasanaeth ledled y byd?

Caiff Helsinki, prifddinas y Ffindir, ei nodi fel un o'r enghreifftiau gorau o Symudedd fel Gwasanaeth ar waith. Dyma lle cafodd Symudedd fel Gwasanaeth ei sefydlu a'i dreialu am y tro cyntaf yn 2017. Mae'r gwasanaeth bellach wedi'i hen sefydlu yn y ddinas, a chafodd ei ddefnyddio i archebu dros 3 miliwn o deithiau yn ei flwyddyn gyntaf.

Fe wnaeth cefnogaeth y Llywodraeth i'r cynllun, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol, gyfrannu at ei weithredu’n llwyddiannus. Yn benodol, mae Deddf Gwasanaethau Trafnidiaeth 2018 y Ffindir yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau trafnidiaeth ddarparu gwybodaeth allweddol megis amserlennu a gwerthu tocynnau. Dylid darparu hwn mewn amser real a dylai fod yn hygyrch o ryngwyneb Symudedd fel Gwasanaeth mewn fformat safonol. Mae hyn yn caniatáu i'r darparwr Symudedd fel Gwasanaeth weithredu fel pwynt cyswllt canolog i'r defnyddiwr gynllunio, archebu, talu, a chael diweddariadau byw am eu taith o un lle. 

Mae'r ap Whim a ddefnyddir yn Helsinki wedi’i ddatblygu ymhellach a’i ehangu i ardaloedd trefol eraill ar draws y byd gan gynnwys: Antwerp; Tokyo Fwyaf; Y Swistir; Fienna; ac yn nes adref yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Symudedd fel Gwasanaeth trefol a gwledig yn y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cod ymarfer i dywys gweithrediad Symudedd fel Gwasanaeth, gan ragweld ei ehangu ledled y wlad. Fodd bynnag, nid yw gweithredu Symudedd fel Gwasanaeth yn dibynnu ar newidiadau i ddeddfwriaeth ac mae cynnydd yn dechrau digwydd ledled y DU, er enghraifft:

Mae Symudedd fel Gwasanaeth yn gysyniad sydd wedi’i brofi mewn ardaloedd trefol, ond mae cyfleoedd yn bodoli hefyd i archwilio’i ddefnydd a'i fanteision i boblogaethau gwledig, ac mae wedi dechrau cael ei gymhwyso mewn ardaloedd gwledig.

Bydd hyn yn arbennig o berthnasol i Gymru o ystyried bod traean o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei nod i sicrhau newid moddol ac integreiddio dulliau trafnidiaeth yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol 2022-2027. Yn arbennig, mae’r strategaeth yn cynnwys targed i gynyddu teithiau a wneir drwy ddulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol) o oddeutu 32 y cant i 45 y cant erbyn 2040.

Mae rhai camau’n cael eu cymryd yng Nghymru i wella integreiddio ac annog newid moddol i drafnidiaeth gynaliadwy. Er enghraifft, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio teithio integredig o Aberystwyth i gyrchfannau yn ne Cymru drwy gyflwyno gwasanaethau bws a thrên cysylltiedig gydag un tocyn. Bydd integreiddio hefyd yn rhan annatod o lwyddiant y systemau Metro, a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol llywodraeth leol sydd wrthi’n cael eu datblygu yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2023, dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC, wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd am y gwaith i annog cydweithio a lleihau cystadleuaeth uniongyrchol rhwng dulliau trafnidiaeth. Mae'r mathau o docynnau sy'n galluogi teithiau aml-fodd yn cynnwys pasys teithio 'Rheilhwylio' a 'Rovers a Rangers'

Mae'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cyfeirio at ddefnyddio a datblygu model gweithredu Symudedd fel Gwasanaeth sy'n defnyddio technoleg i integreiddio trafnidiaeth yn well. Er enghraifft, nod blaenoriaeth allweddol 3.2.3.3 (system tocynnu a chynllunio siwrneiau integredig) yw “ei gwneud yn haws i unrhyw un ganfod pa opsiynau sydd ar gael o ran trafnidiaeth gynaliadwy, cynllunio siwrnai, ei threfnu a thalu amdani” drwy well defnydd o dechnoleg ddigidol.

Mae disgwyl Bil i ddiwygio a gwella gwasanaethau bysiau yng Nghymru drwy fodel masnachfreinio yn nhymor presennol y Senedd. Byddai system fysiau masnachfraint lawn yn caniatáu i’r llywodraeth a Trafnidiaeth Cymru (TrC) nodi sut a ble y bydd gwasanaethau bysiau’n gweithredu, ac o bosibl y wybodaeth y bydd yn rhaid iddynt ei darparu i drydydd partïon, gan gynnwys darparwyr Symudedd fel Gwasanaeth.

Byddai alinio gwasanaethau rheilffordd a bws yn helpu i weithredu Symudedd fel Gwasanaeth, ac fe wnaeth Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, dynnu sylw yn ddiweddar at y weledigaeth i alinio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, gan ddweud:

I think there's a profound and fundamental structural problem across the UK in which we treat rail versus bus. The truth is we need both, and that's why, from TfW, we are creating this idea of a guiding mind system where we'll be able to have a properly integrated transport system where we can plan bus and rail to join up.

Yn ogystal ag integreiddio gwasanaethau trên a bws fel hyn, gellid hefyd alinio dulliau trafnidiaeth eraill, gan gynnwys llogi beiciau, e-feiciau, e-sgwteri, rhentu ceir, a thacsis â gwasanaethau cyhoeddus Cymru i ddarparu model Symudedd fel Gwasanaeth.  

Beth nesaf ar gyfer Symudedd fel Gwasanaeth?

Dywed Llywodraeth y DU fod gweithredu Symudedd fel Gwasanaeth yn dasg gymhleth: yn dechnegol, yn fasnachol ac yn ddeddfwriaethol. Mae Pwyllgor Trafnidiaeth Senedd y DU yn awgrymu y bydd hefyd angen mwy o ymdrech gydgysylltiedig rhwng darparwyr gwasanaethau a'r llywodraeth hefyd i sefydlu a gweithredu model gweithredu Symudedd fel Gwasanaeth llwyddiannus.

Yng Nghymru, bydd hefyd angen i waith pellach i ddatblygu system Symudedd fel Gwasanaeth ystyried yr heriau hyn ochr yn ochr â’r ymdrechion i alinio gwasanaethau trafnidiaeth presennol, a hynny er mwyn creu amgylchedd addas i’r model trafnidiaeth hwn lwyddo.

Erthygl gan Charlotte Lenton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Lenton gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei gwblhau.