Sut y gallai gwahanol senarios Brexit effeithio ar economi Cymru?

Cyhoeddwyd 03/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae effaith economaidd Brexit yn fater sy’n cael cryn sylw yn y cyfryngau a sylw gwleidyddol y dyddiau hyn. Dyma ffocws yr olaf o’n tri blog cyn pleidlais y Cynulliad ar y Cytundeb Ymadael â’r UE a’r Datganiad Gwleidyddol ar 4 Rhagfyr. Rydym wedi cyhoeddi erthyglau o’r blaen ar oblygiadau’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol i Gymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei dadansoddiad economaidd hirdymor ar gyfer ymadael â’r UE ar 28 Tachwedd, cyn y ‘bleidlais ystyrlon’ ar Gytundeb Ymadael â’r UE a’r Datganiad Gwleidyddol yn Senedd y DU, a drefnwyd ar gyfer 11 Rhagfyr. Mae hwn yn asesu effaith nifer o senarios gwahanol o ran Brexit ar Gynnyrch Domestig Gros y DU (GDP) o’i gymharu ag aelodaeth o’r UE dros gyfnod o 15 mlynedd.

Cyhoeddodd Banc Lloegr ddadansoddiad o effaith gwahanol senarios Brexit ar sefydlogrwydd ariannol a chyllidol y DU hefyd, ar 28 Tachwedd.

Er bod rhagolygon economaidd wedi’u seilio ar dystiolaeth a modelu, maent hefyd yn destun ansicrwydd gan eu bod yn dibynnu ar nifer o ragdybiaethau. Er mwyn adlewyrchu’r ansicrwydd hwn, mae rhagolygon fel arfer yn darparu amrywiaeth o effeithiau posibl.

Mae’r erthygl hon yn nodi casgliadau dadansoddiadau Llywodraeth y DU a Banc Lloegr, ac mae’n tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol mewn perthynas â Chymru o’r ffynonellau hyn ac eraill.

Beth yw prif ganfyddiadau’r dadansoddiad gan Lywodraeth y DU a Banc Lloegr?

Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU yn darparu amcangyfrifon o effaith economaidd pedwar senario posib o ran Brexit o’i gymharu ag aelodaeth o’r UE. Y rhain yw:

  • Y polisi a nodir ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol (sef, cynnig Chequers);
  • Trefniant masnach rydd (FTA) damcaniaethol, gyda dim tariffau a chostau dim tariff FTA cyfartalog;
  • Senario yn seiliedig ar fod yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), sy’n adlewyrchu bod y tu allan i’r undeb tollau; a
  • ‘Senario dim bargen’ yn seiliedig ar dariffau Cenedl Fwyaf Ffefriedig yr UE, a rhwystrau dim tariff cyfartalog rhwng gwledydd sy’n masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnal dadansoddiad sensitifrwydd o’r ansicrwydd yn sgîl effeithiau posibl y polisi a nodir yn ei Phapur Gwyn, lle mae rhwystrau dim tariff ar hanner ffordd rhwng y Papur Gwyn a’r senarios Trefniant masnach rydd damcaniaethol (FTA).

Nid yw’r sefyllfaoedd a nodwyd yn cynnwys y trefniadau a nodir yn y Datganiad Gwleidyddol. Dywedodd Ysgrifennydd Cyllidol Trysorlys Llywodraeth y DU fod hyn oherwydd bod sbectrwm o ganlyniadau posibl yn y Datganiad Gwleidyddol, a dyna’r rheswm pam y maent wedi cynnwys dadansoddiad sensitifrwydd hefyd.

Yn ogystal, mae dau senario ymfudo wedi’u modelu yn nadansoddiad Llywodraeth y DU. Nodir effaith yr holl opsiynau hyn ar Gynnyrch Domestig Gros y DU dros gyfnod o 15 mlynedd isod yn ffigur 1 (trafodir dadansoddiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru yn adran nesaf yr erthygl).

Canfu Llywodraeth y DU, er y byddai disgwyl i economi’r DU weld twf cyffredinol dros y cyfnod o 15 mlynedd o dan yr holl sefyllfaoedd posib, byddai CDG y DU yn is nag y byddai o dan y trefniadau presennol ym mhob un o’r senarios Brexit a oedd wedi’u modelu. Mae’r ffigurau yn y tabl isod yn amcangyfrifon o’r newid o ran canran yn CDG y DU a’r CDG y pen o’u cymharu â’r hyn y byddent fel arall mewn cyfnod o oddeutu 15 mlynedd o dan y trefniadau presennol.

Ffigur 1: Amcangyfrif Llywodraeth y DU o effaith y gwahanol senarios Brexit ar gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros y DU a Chynnyrch Domestig Gros y pen dros gyfnod o 15 mlynedd Ffigwr 1: Amcangyfrif Llywodraeth y DU o effaith y gwahanol senarios Brexit ar gyfanswm Cynnyrch Domestig Gros y DU a Chynnyrch Domestig Gros y pen dros gyfnod o 15 mlynedd Roedd dadansoddodd Banc Lloegr yn modelu senarios o ran yr hyn a allai ddigwydd mewn gwahanol senarios Brexit dros gyfnod amser byrrach na dadansoddiad Llywodraeth y DU, ac mae’n nodi nad yw’r rhain yn rhagolygon o’r hyn sy’n fwyaf tebygol o ddigwydd. Mae’n tynnu sylw at effaith economaidd bosibl gwahanol senarios Brexit ar CDG y DU a diweithdra dros y blynyddoedd i ddod

Ffigur 2: Dadansoddiad Banc Lloegr o effaith y gwahanol senarios Brexit ar CDG y DU

Ffigur 2: Dadansoddiad Banc Lloegr o effaith y gwahanol senarios Brexit ar CDG y DU

Mae adroddiad Sefydliad y Llywodraeth, sef Deall Effaith Economaidd Brexit, yn edrych ar 14 astudiaeth o effeithiau economaidd hirdymor Brexit, sy’n rhagweld sut y mae’n debygol y bydd Brexit yn effeithio ar economi’r DU hyd at 2030. Mae’r adroddiad yn ceisio egluro’r rhagdybiaethau a wnaed gan y gwahanol astudiaethau, pa dystiolaeth sydd ar gael i’w cefnogi, a pham bod hyn yn arwain at gasgliadau mor amrywiol ar ganlyniadau economaidd posibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i economi’r DU.

Beth mae dadansoddiad Llywodraeth y DU yn ei ddweud am Gymru?

Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried effaith gwahanol senarios Brexit ar wledydd datganoledig y DU a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, dim ond ystyried newidiadau o ganlyniad i bolisi masnach y mae hwn, ac nid yw’n ystyried effeithiau economaidd posibl newidiadau i drefniadau ymfudo na hyblygrwydd rheoleiddiol. Fel y gwelir yn adran flaenorol y blog, mae dull modelu Llywodraeth y DU yn awgrymu, os bydd llai o weithwyr o Ardal Economaidd Ewrop (AEE) yn ymfudo i’r DU, bydd y cyfanswm CDG a CDG y pen yn is na phe bai dim newidiadau i drefniadau ymfudo ym mhob un o’r senarios Brexit a nodwyd.

Mae Llywodraeth y DU yn datgan, mewn sefyllfa ‘dim bargen’, byddai gostyngiad sylweddol i Gymru o ran ei Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA), gan y byddai’r sefyllfa hon yn effeithio’n arbennig ar gyfran weithgynhyrchu fwy Cymru. Fodd bynnag, mewn sefyllfa lle mae polisi Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn adlewyrchu trefniadau masnachu’r DU, dywed y byddai hyn yn arwain at GYC cymharol is ar gyfer Cymru na phe bai yn aelod o’r UE, gan fod gan Gymru arbenigedd cymharol yn y sector ynni. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i hwn berfformio’n dda o dan senario’r Papur Gwyn, a byddai’n effeithio llai ar Gymru na rhannau eraill o’r DU.

Ffigur 3: Amcangyfrif Llywodraeth y DU o effaith y gwahanol senarios Brexit ar Werth Gros y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr dros gyfnod o 15 mlynedd (heb ystyried newidiadau o ran trefniadau ymfudo a rheoleiddio)

Ffigur 3: Amcangyfrif Llywodraeth y DU o effaith y gwahanol senarios Brexit ar Werth Gros y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr dros gyfnod o 15 mlynedd (heb ystyried newidiadau o ran trefniadau ymfudo a rheoleiddio)

Roedd amcan cychwynnol Llywodraeth y DU o effaith economaidd senarios Brexit ar y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, a nodir yn y Dadansoddiad Ymadael â’r UE: Papur Briffio ar Draws Whitehall fis Ionawr 2018, hefyd yn nodi amcangyfrifon o effaith gwahanol sefyllfaoedd ar Werth Ychwanegol Gros (GYC). Roedd y dadansoddiad hwn yn ystyried ffactorau fel mudo a rheoleiddio, ond nid oedd yn ystyried effeithiau trefniadau tollau neu’r gadwyn gyflenwi ar ranbarthau penodol. Hefyd nid oedd yn dadansoddi effaith polisi Papur Gwyn Llywodraeth y DU.

Pa ddadansoddiad arall a wnaed o effaith economaidd Brexit ar Gymru?

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ysgol Fusnes Caerdydd i edrych yn fanwl ar effaith Brexit ar gwmnïau mawr a chanolig yng Nghymru. Canfu y risgiau a ganlyn sy’n gysylltiedig â Brexit i wahanol sectorau o economi Cymru, ac mai diwydiannau o werth mawr sydd â phresenoldeb amlwg yng Nghymru, fel y diwydiant awyrofod a’r diwydiant modurol, sydd o dan y bygythiad mwyaf yn sgîl Brexit, oherwydd eu bod wedi’u rheoleiddio’n llym a’u bod yn cynnwys cadwyni cyflenwi cymhleth a thrawsffiniol.

Ffigur 4: Crynodeb o’r risgiau sy’n gysylltiedig â Brexit a nodwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer busnesau mawr a chanolig mewn sectorau o economi Cymru Ffigur 4: Crynodeb o’r risgiau sy’n gysylltiedig â Brexit a nodwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer busnesau mawr a chanolig mewn sectorau o economi Cymru Roedd ein blog blaenorol ym mis Gorffennaf 2018 yn amlygu y gallai cynigion masnach Llywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn liniaru’r bygythiadau hyn, o gofio y byddent yn cynnal y sefyllfa bresennol o ran masnachu nwyddau sy’n dod i mewn: gyda dim tariffau a chysondeb rheoleiddiol parhaus rhwng y DU a’r UE yn hyn o beth. Fodd bynnag, ni wyddys ar hyn o bryd i ba raddau y bydd y cynigion hyn yn ffurfio perthynas fasnachol y DU â’r UE, gan y trafodir hyn ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Yn ogystal, ymgymerodd yr Athro Perdikis a’r Athro Khorana â chymrodoriaeth gyda’r Cynulliad yn edrych ar effaith economaidd debygol Brexit. Daethant i’r casgliad a ganlyn:

The scenario simulations reveal that Brexit will lead to the imposition of costs, either through the imposition of tariffs or the loss of preferential access to the single market. The impact on the Welsh economy will be felt via reductions in GDP, GDP per capita, trade, investment and employment. The least costly outcome for Wales is if the status quo can be held to for as long as possible. The next best or next least worst is the conclusion of a CETA type agreement by the EU. The most costly is a Brexit based on WTO rules.

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffigur 1 Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Ymadael â’r UE: Dadansoddiad economaidd hirdymor - Tabl 4.10 tudalen 67

Ffugur 2 Ffynhonnell: Banc Lloegr, Senarios ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a sefydlogrwydd cyllidol ac ariannol

Ffigur 3 Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Ymadawiad â’r UE: Dadansoddiad economaidd hirdymor - Ffigwr 4.6 tudalen 63

Ffigur 4 Ffynhonnell: Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru.