Cyhoeddwyd 09/06/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
09 Mehefin 2015
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ar 10 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawnach gan fenywod. Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn economi Cymru, a sut y gellir cael y mwyaf o gyfraniad menywod i economi Cymru yn y dyfodol?
Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn y gweithle yng Nghymru?
Yn ôl y data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), 67% o fenywod 16-64 oed yng Nghymru sydd mewn gwaith, ond 72% o ddynion sydd mewn gwaith.
Mae menywod deirgwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwaith rhan amser na dynion, a 44% o fenywod oedd yn gweithio rhan amser yng Nghymru yn 2014, o gymharu â 14% o ddynion.
Mae hyn yn cyfrannu at y ffaith bod nifer y menywod sy’n ennill llai na'r cyflog byw yn fwy na nifer y dynion, gyda
ffigurau 2014 yn dangos bod 29% o fenywod yn ennill llai na'r
cyflog byw o gymharu â 19% o ddynion yng Nghymru. Yn rhannol, mae hyn oherwydd bod cyfran y menywod sy'n gweithio rhan amser yn uwch na chyfran y dynion; enillodd 43% o fenywod a oedd yn gweithio rhan amser lai na'r cyflog byw yng Nghymru.
Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn llai yng Nghymru nag y mae ar gyfartaledd yn y DU. Mae prif fesur yr ONS, yn ffigur 1, yn dangos mai 8.4% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yn 2014, sy'n llai na ffigur y DU, sef 9.4%. Fodd bynnag, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer bob gweithiwr yng Nghymru gryn dipyn yn uwch ar 16.2%, ond, unwaith eto, mae'n llai na'r ffigur o 19.1% ar gyfer y DU.
Ffigur 1: Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn 2014
[caption id="" align="alignnone" width="682"]
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, 2014 (tabl 5.6a)[/caption]
Daeth gwaith mapio galwedigaethol gan y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) i'r casgliad mai yn y rhannau hynny o'r economi lle mae cyflog ar ei isaf y cyflogir menywod yn bennaf. Mae'r gwahaniaeth hwn yn y gwaith yn cynnwys sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi buddsoddi yn dangos mai dim ond 28% o fenywod oedd yn cael eu cyflogi mewn sector blaenoriaeth yn 2013, o gymharu â 56% o ddynion. Gellir casglu o hyn nad y sectorau y mae nifer o fenywod yn gweithio ynddynt yw'r sectorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweld yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.
Ffigur 2: Canran y menywod o’r bobl a gyflogwyd mewn sectorau blaenoriaeth yn 2013
[caption id="" align="alignnone" width="682"]
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau'r sector blaenoriaeth 2014 (tabl 3.6)[/caption]
Beth yw'r sefyllfa i fenywod sy'n rhedeg eu busnes eu hunain?
Un o'r ffactorau a ysgogodd y
cynnydd mewn cyflogaeth ers y dirywiad economaidd yw hunangyflogaeth.
Yng Nghymru, mae'r 58,400 o fenywod hunangyflogedig yn llai na thraean o'r bobl sy'n hunangyflogedig, ond mae'r bwlch rhwng y rhywiau wedi bod yn cau dros y blynyddoedd diwethaf. Bu cynnydd o 22% yn nifer y menywod sy'n hunangyflogedig yn y pum mlynedd diwethaf, o gymharu â chynnydd o 7% ar gyfer dynion.
O ran dechrau busnes a pherchen busnes, mae
Chwarae Teg yn nodi bod menywod yn y DU o hyd yn hanner mor debygol â dynion o sefydlu eu busnes eu hunain.
Canfu'r Cyngor Busnes Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, mai menywod yw'r mwyafrif o'r rhai sy'n rhedeg 19% o fusnesau bach a chanolig yn y DU.
O edrych ar fusnesau'r dyfodol yng Nghymru, dengys
ystadegau Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang diweddaraf ar gyfer Cymru yn 2013 mai 4.2% o fenywod oedran gweithio a oedd yn ymwneud â gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, o gymharu â 6.5% o ddynion. O ran pobl yng Nghymru a oedd yn disgwyl dechrau busnes yn y tair blynedd nesaf, dywedodd 3.1% o fenywod oedran gweithio a 4.7% o ddynion eu bod yn disgwyl gwneud hynny.
O ran rhoi cymorth a bod yn esiampl i fenywod sy'n dechrau busnes neu y mae ganddynt eu busnes eu hunain,
canfu Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar bod menywod yn cael eu tangynrychioli ar fyrddau Ardaloedd Menter Cymru y mae'r Llywodraeth yn penodi eu haelodau.
Beth y gellir ei wneud i helpu menywod i ateb heriau yn y gweithle?
O ran ffyrdd posibl o wneud y mwyaf o gyfraniad economaidd menywod yng Nghymru, mae
Chwarae Teg yn nodi pum maes lle mae angen i amrywiaeth o randdeiliaid weithredu, gan gynnwys Llywodraethau Cymru a'r DU:
- Mynd i'r afael â chyflog isel a thangyflogaeth;
- Annog menywod i weithio mewn sectorau anhraddodiadol;
- Codi nifer y menywod mewn swyddi arweinyddiaeth;
- Cefnogi entrepreneuriaid benywaidd; a
- Mynd i'r afael â'r cyfrifoldebau gofal gwahanol sy'n wynebu menywod a dynion
Mewn
dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2015, eglurodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn y gweithle. Dywedodd:
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol hefyd yn cynnwys camau rydym yn eu cymryd i helpu menywod a merched i gael addysg, ac i gyflawni a chael uchelgeisiau mewn addysg a hyfforddiant ac yn eu gwaith. Mae’n nodi’r hyn rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw, er mwyn galluogi menywod ddilyn gyrfaoedd o’u dewis, ac i gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus drwy herio a newid y status quo.
Mae sefydliadau fel
y prosiect WAVE a
Chwarae Teg sy'n cefnogi cyfranogiad cynyddol menywod ym myd gwaith, yn y sectorau blaenoriaeth, ac o ran rhedeg eu busnesau eu hunain, wedi cael cyllid gan Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu
gwaith gan Sefydliad Bevan i archwilio effaith y dirywiad economaidd ar fenywod yn y gweithle.
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad hefyd wedi bod yn edrych ar y materion sy'n wynebu menywod yn y gweithle a'r ffordd mae'r rheini'n cyfrannu at lefelau uwch o dlodi ymhlith menywod fel rhan o'i
ymchwiliad eang i Dlodi
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg