Mae nifer y menywod o oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.

Cyhoeddwyd 26/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

26 Medi 2013 Ar 25 Medi, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr adroddiad Women in the Labour Market 2013, sy'n canolbwyntio ar ystadegau sy'n ymwneud â chyflogaeth, swyddi a chyflog menywod a dynion yn y farchnad lafur ledled y DU.  Y ffigurau mwyaf perthnasol i Gymru yw'r rhai sy'n ymwneud â chyfradd cyflogaeth menywod oedran gwaith (canran y menywod rhwng 16 a 64 oed sydd mewn cyflogaeth). Rhwng mis Gorffennaf 2012 a mis Mehefin 2013, roedd 63.8% o fenywod rhwng 16 a 64 oed mewn cyflogaeth yng Nghymru, sef yr wythfed uchaf o blith y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, ac sy'n is na chyfartaledd y DU o 66%.  Mae ffigur 1 yn dangos y ffigurau ar gyfer y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Ffigur 1: Canran y menywod rhwng 16 a 64 oed oedd mewn cyflogaeth yn y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, Gorffennaf 2012 - Mehefin 2013 RS132379 Welsh graph Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Women in the Labour Market 2013 tudalen 7 (cliciwch ar y daenlen Excel) Mae'r system NUTS yn fodd hierarchaidd o ddosbarthu ardaloedd gweinyddol a gaiff ei defnyddio ledled yr Undeb Ewropeaidd wrth gasglu ystadegau.  Mae ffigur 2 yn dangos canran y menywod rhwng 16 a 64 oed a oedd mewn cyflogaeth rhwng mis Gorffennaf 2012 a mis Mehefin 2013 ar gyfer pob un o ardaloedd NUTS Cymru. Gellir gweld yr hyn a ganlyn:
  • Rhwng mis Gorffennaf a mis Mehefin 2013, roedd 71.14% o fenywod rhwng 16 a 64 oed mewn cyflogaeth ym Mhowys, sef y canran uchaf o blith ardaloedd NUTS3 CymruYr ardal hon oedd y 19eg uchaf o blith yr 134 o ardaloedd NUTS3 ledled y DU.
  • Dros y cyfnod hwn, roedd 57.4% o fenywod rhwng 16 a 64 oed yn y Cymoedd canolog (Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf) mewn cyflogaeth, sef y canran isaf o blith ardaloedd NUTS3 CymruYr ardal hon oedd y pumed isaf o blith y 134 o ardaloedd NUTS3 yn y DU. 
Ffigur 2: Canran y menywod rhwng 16 a 64 oed oedd mewn cyflogaeth yn ardaloedd NUTS3 Cymru, Gorffennaf 2012 - Mehefin 2013 (cliciwch ar y map i'w wneud yn fwy)

NUTS3Cym4

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Women in the Labour Market 2013 tudalen 8 (cliciwch ar y daenlen Excel) Gallwch ddod o hyd i ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n darparu gwybodaeth bellach am fenywod yn y farchnad lafur yng Nghymru yn y dogfennau a ganlyn: Erthygl gan Gareth Thomas