Sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol?

Cyhoeddwyd 08/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae problemau sylweddol gyda’r ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu ar hyn o bryd, yn ôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae adroddiad interim y Comisiwn, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr, wedi datgan nad yw’r ‘status quo yn sail ddibynadwy na chynaliadwy i lywodraethu Cymru yn y dyfodol’, ac y bydd y Comisiwn yn archwilio dewisiadau amgen ar gyfer y dyfodol.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar brif ganfyddiadau'r adroddiad interim a sut mae’r pleidiau gwleidyddol wedi ymateb i’r adroddiad.

Beth yw’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru?

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, ym mis Tachwedd 2021, ac rodd ganddo ddau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni
  2. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae’r Comisiwn yn cael ei gyd-gadeirio gan Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, ac mae'n cynnwys grŵp o gomisiynwyr sy’n cynrychioli ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol a rhannau o gymdeithas Cymru.

Mae’r Comisiwn wedi nodi pedwar gwerth sy’n sail i’w asesiad o’r opsiynau cyfansoddiadol ar gyfer Cymru:

  • Galluogedd
  • Cydraddoldeb a Chynhwysiant
  • Atebolrwydd
  • Sybsidiaredd

Sut mae’r Comisiwn wedi bod yn casglu tystiolaeth?

Mae’r Comisiwn wedi bod yn casglu tystiolaeth i lywio ei gasgliadau mewn tair ffordd:

  • Cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda gwleidyddion, academyddion, cymdeithas sifil ac eraill sydd â diddordeb yn nyfodol cyfansoddiadol Cymru
  • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau ynghylch sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol
  • Sefydlu cronfa ymgysylltu a’r gymuned er mwyn cefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol i redeg prosiectau ymgysylltu sy’n cyfrannu at waith y Comisiwn

Cefnogir y Comisiwn hefyd gan banel o arbenigwyr, sy'n darparu dadansoddiadau ac ymchwil arbenigol mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r Comisiwn.

Asesu sut mae Cymru'n cael ei llywodraethu heddiw

Mae cam cyntaf gwaith y Comisiwn wedi canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth ynghylch y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu heddiw, yn ogystal â dechrau sgyrsiau â phobl Cymru ynglŷn â sut y maent am gael eu llywodraethu yn y dyfodol.

Drwy ei waith hyd yn hyn, mae'r Comisiwn wedi nodi pedwar mater y mae’n eu disgrifio fel materion hollbwysig o ran y sefyllfa gyfansoddiadol bresennol yng Nghymru:

  • Roedd datganoli yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth Cymru, ond mae’r setliad presennol wedi cael ei erydu gan benderfyniadau a wnaed gan lywodraethau diweddar y DU.
  • Mae cyfansoddiad anysgrifenedig y DU, ynghyd â sofraniaeth ddiderfyn Senedd San Steffan, yn cyfyngu ar allu pobl Cymru, a’u cynrychiolwyr etholedig, i wneud penderfyniadau ynghylch sut y dylid eu llywodraethu
  • Nid yw economi Cymru wedi ffynnu ers amser maith o fewn y DU, ond mae ei rhagolygon y tu allan i'r DU yn ansicr iawn
  • Mae’r cwestiwn ynghylch a ddylai Cymru aros yn rhan o’r DU yn arwain at gwestiwn arall: pa fath o DU fyddai’n gweithio er budd pobl Cymru – ac a yw’n bosibl diwygio’r DU?

Mae’r Comisiwn hefyd wedi nodi ‘deg peth sy’n peri pwysau’ ar y setliad datganoli presennol. Mae’n dweud bod y pwysau hyn ‘yn ymwneud yn bennaf â’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’, ac yn nodi bod gwahaniaethau cynyddol wedi dod i’r amlwg o ran polisi, yn sgil y ffaith bod datganoli ‘wedi’i gwneud yn bosibl i lunio polisïau a chyfreithiau sy’n ymateb i anghenion Cymru.’

Beth yw'r opsiynau ar gyfer y dyfodol?

Mae’r Comisiwn wedi dweud bod y dystiolaeth y mae wedi’i chasglu hyd yn hyn wedi ei arwain i’r casgliad mai dim ond tri opsiwn cyfansoddiadol hyfyw sydd ar gael i Gymru yn y dyfodol: atgyfnerthu datganoli, strwythurau ffederal ac annibyniaeth.

Mae'r adroddiad yn dweud y byddai’r broses o atgyfnerthu datganoli yn gwarchod datganoli, ac y gallai gynnwys datganoli mwy o bwerau, gan gynnwys pwerau dros gyfiawnder a phlismona. O ran cyflwyno strwythurau ffederal, byddai angen diwygio ehangach ar draws y DU, a gallai strwythurau o’r fath arwain at ddatganoli lles a phwerau pellach dros drethiant.

Annibyniaeth i Gymru yw’r trydydd opsiwn ‘hyfyw’ y mae’r Comisiwn yn ei ystyried er mwyn ceisio deall manteision ac anfanteision newid o’r fath.

Mae'r adroddiad wedi dadansoddi pob un o'r opsiynau hyn ac wedi nodi cwestiynau allweddol y bydd yn ceisio eu hateb yn ei adroddiad terfynol, a gaiff ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Sut mae’r pleidiau gwleidyddol wedi ymateb?

Mae adroddiad y Comisiwn wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r adroddiad, gan ddweud na ddylai’r Llywodraeth fod yn ‘gwastraffu amser ac adnoddau‘.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wella cyflwr yr economi, addysg a’r gwasanaeth iechyd gan ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi eisoes o dan y setliad datganoli presennol.

Dywedodd Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru, na ellid ‘gorbwysleisio arwyddocâd’ yr adroddiad, gan ei fod yn cydnabod bod ‘annibyniaeth i Gymru yn ffordd gredadwy ac ymarferol ymlaen’.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ddyddiau yn unig ar ôl i Blaid Lafur y DU gyhoeddi adroddiad ar ddyfodol y DU, dan gadeiryddiaeth Gordon Brown, y cyn Brif Weinidog.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae adroddiad y Comisiwn yn adroddiad interim. Mae gan y Comisiwn waith i’w wneud o hyd cyn cyhoeddi ei adroddiad terfynol erbyn diwedd 2023.

Bydd ail gam ei ymchwiliad yn archwilio’r problemau a nodwyd hyd yn hyn, ac yn parhau i ymgysylltu â phobl Cymru ynghylch sut y gellid eu goresgyn. Mae’r Comisiwn wedi dweud y bydd cam nesaf ei waith yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

  • Mecanweithiau i gryfhau democratiaeth gynrychiadol ar bob lefel o lywodraeth
  • Opsiynau i ddiwygio strwythurau cyfansoddiadol, gan gynnwys camau ymarferol i warchod democratiaeth yng Nghymru a’r setliad datganoli cyfredol
  • Bwrw ymlaen â’r sgwrs genedlaethol i drafod â phobl Cymru sut maen nhw’n credu y dylai eu gwlad gael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi adroddiadau cynnydd a chofnodion ei gyfarfodydd yn rheolaidd. Gallwch ddarllen y dogfennau hyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn trefnu datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad interim yn y Flwyddyn Newydd.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru