Sut y bydd newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir yn effeithio ar brynwyr tai yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 22/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

22 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) ei datganoli i Gymru. Disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp â’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT) gan Lywodraeth Cymru a hi sy’n gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru.

Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymwys ar gyfer prynu eiddo yng Nghymru ac mae’n cynnwys cyfraddau a bandiau treth gwahanol i Dreth Dir y Dreth Stamp a delir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfraddau a bandiau ei Threth Trafodiadau Tir ar gyfer 2020-21 yn ei chyllideb ddiweddaraf. Roedd y gyllideb yn nodi’r cyfraddau a’r bandiau ar gyfer prynu eiddo preswyl fel y dangosir isod.

Tabl 1. Cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar gyfer 2020-21

TrothwyCyfradd y Dreth Trafodiadau Tir
£0 - £180,0000 y cant
£180,001 - £250,0003.5 y cant
£250,001 - £400,0005 y cant
£400,001 - £750,0007.5 y cant
£750,001 - £1.5 miliwn10 y cant
Dros £1.5 miliwn12 y cant

Newidiadau i’r dreth eiddo

Ar 8 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Rishi Sunak, Canghellor y DU yn ei Ddatganiad yr Haf y byddai trafodion eiddo preswyl hyd at £500,000 yn cael eu heithrio o Dreth Dir y Dreth Stamp y DU yn Lloegr a Gogledd Iwerddon tan 31 Mawrth 2021. Yn flaenorol, dim ond i drafodion eiddo gwerth hyd at £125,000 oedd yr eithriad hwn yn gymwys.

Mewn ymateb i’r newidiadau hyn, cyhoeddodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Llywodraeth Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn codi trothwy eithrio’r Dreth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000 ar gyfer trafodion eiddo preswyl yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y newid yn dod i rym ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd ag ailagor y farchnad dai yng Nghymru yn llawn.

Tabl 2. Newidiadau i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar gyfer 2020-21

Yn wahanol i Dreth Dir y Dreth Stamp, ni fydd y newid i drothwy eithrio’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru yn gymwys i brynu eiddo ychwanegol, fel prynu i osod neu brynu ail gartrefi, ac mae’r trafodiadau hynny’n gorfod talu treth ychwanegol, sef 3 y cant ar ben y gyfradd bresennol ar gyfer eu gwerth a ddangosir yn Nhabl 1.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y trothwy newydd yn golygu na thelir unrhyw dreth ar oddeutu 80 y cant o drafodion yng Nghymru lle mae’r prif gyfraddau preswyl yn gymwys.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru