Etholiad y Senedd ym mis Mai fydd yr etholiad cyntaf i'w gynnal o dan ei system etholiadol newydd. Dyma fydd uchafbwynt proses o ddiwygio sefydliadol y gellir ei holrhain i'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017 a hyd yn oed ymhellach yn ôl i Gomisiwn Richard yn 2004 (ceir crynodeb da o'r stori hon yma). System 'cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig' yw system etholiadol newydd y Senedd. Rydym yn dechrau drwy archwilio'r cysyniad o gynrychiolaeth gyfrannol ac yn nodi sut mae system newydd y Senedd wedi'i chynllunio i gyflawni hyn. Yna rydym yn egluro sut mae rhestr gaeedig y system yn pennu pa ymgeiswyr unigol a gaiff eu hethol i'r Senedd.
‘Cynrychiolaeth gyfrannol’
Mae'r term 'cyfranoldeb' wrth drafod systemau etholiadol yn esbonio graddfa'r gyfatebiaeth rhwng canran y pleidleisiau y mae'r pleidiau'n ei gael a'u cyfran o seddi. Mae'r system newydd yn cyflawni cynrychiolaeth gyfrannol drwy gyfuniad o ddau ffactor: maint yr ardal a'r fformiwla etholiadol.
Maint y dosbarth yw’r term technegol am nifer y seddi y mae cystadleuaeth drostynt ym mhob etholaeth, neu mewn geiriau eraill, nifer y cynrychiolwyr a etholir ym mhob etholaeth. Mae system etholiadol newydd y Senedd yn sefydlu maint etholaeth o 6 sedd ar draws 16 etholaeth.
Mae'r term fformiwla etholiadol yn cyfleu'r mecanwaith ffurfiol a ddefnyddir i drosi pleidleisiau’n seddi ym mhob etholaeth. Yn etholiadau'r Senedd, cyflawnir hyn drwy fformiwla D'Hondt. Noda Gallagher mai fformiwla D'Hondt yw'r fformiwla etholiadol PR a ddefnyddir fwyaf ar gyfer etholiadau cenedlaethol, a'i bod yn fwy hael i bleidiau mwy o'i chymharu â fformiwlâu amgen.
Pa mor gyfrannol yw'r system etholiadol?
Er bod maint ardal a fformiwla etholiadol yn rhyngweithio i bennu pa mor gyfrannol yw system etholiadol, maint yr ardal sy'n chwarae'r rôl bwysicaf. Rein Taagepera ddatblygodd fformiwla rheol gyffredinol (75%/(maint yr ardal + 1) i bennu 'lefel y bleidlais lle mae gan bleidiau gyfle cyfartal o ennill eu sedd gyntaf'. Y nifer a gynhyrchwyd ar gyfer system chwe sedd Cymru yw 10.7%. Nid yw system etholiadol Cymru yn gosod trothwy cenedlaethol ffurfiol i bleidiau fod yn gymwys ar gyfer seddi mewn etholaeth benodol.
Yn fwy cyffredinol, mae elfen o hap ac anrhagweladwyedd o ran mân fanylion yn ymwneud â sut y bydd dosbarthiadau pleidleisiau cenedlaethol yn datblygu ym mhob etholaeth. Mae Dr Jac Larner ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu efelychydd etholiad y Senedd sy'n eich galluogi i ragdybio gwahanol senarios etholiadol posibl.
‘Rhestr gaeedig’
Mae'r term 'rhestr gaeedig' yn cyfeirio at y ffaith bod ymgeiswyr unigol yn cael eu hethol yn ôl eu safle ar restr wedi’i threfnu. Felly, byddai plaid sy'n ennill dwy sedd yn ethol ymgeiswyr yn safleoedd #1 a #2 ar eu rhestr ac felly byddai ymgeiswyr yn is i lawr y rhestr yn aflwyddiannus. Gall ymgeiswyr annibynnol sefyll o dan y system hon a chyflwyno, felly, fel rhestrau un person.
Mae'r ffordd hon o benderfynu pa ymgeiswyr ar restr a gaiff eu hethol yn golygu bod y system yn syml iawn o safbwynt y pleidleisiwr. Y cyfan sy’n rhaid i bleidleiswyr ei wneud o ran y system rhestr gaeedig yw rhoi 'X' wrth ymyl y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol y maent am bleidleisio drostynt. Yn y ddelwedd isod, gallwch weld ffug-bapur pleidleisio:
Delwedd: Delwedd o ffug-bapur pleidleisio yn etholiad y Senedd

Ffynhonnell: Senedd Cymru
Felly, mae system cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig yn gwneud y broses bleidleisio'n symlach o'i chymharu â system etholiadol flaenorol y Senedd (y System Aelodau Ychwanegol) a oedd yn gofyn i bleidleiswyr fwrw dwy bleidlais: un dros ymgeisydd etholaethol ac un dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol fel cynrychiolwyr rhanbarthol.
Sut rydych chi'n penderfynu beth yw'r system orau?
O ran goblygiadau neu ganlyniadau systemau etholiadol, nid oes un system 'orau' – yn lle hynny mae cyfaddawdau ar draws y gwahanol amcanion y gallech fod am system etholiadol eu cyflawni.
Os yw’n well gennych broses bleidleisio syml sy'n arwain at fwyafrifoedd clir a llywodraeth un blaid, mae'n debygol y byddwch yn dewis system etholiadol sy'n dibynnu ar egwyddor lluosogrwydd neu fwyafrifoldeb a maint ardal o un. Mae'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' a ddefnyddir ar gyfer Senedd y DU yn enghraifft glir o hyn.
Mewn cyferbyniad, byddai'n well i rywun sydd eisiau i bleidleiswyr allu nodi eu dewisiadau'n fanwl a chael y dewisiadau hynny wedi'u trosi'n gymesur yn seddi, ddewis system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestr agored neu hyblyg sy'n caniatáu i bleidleiswyr ddylanwadu ar safle ymgeiswyr ar y rhestrau hynny.
Felly nid yw'r dewis o system etholiadol yn un niwtral ac mae'n dod gyda chyfaddawd, yn enwedig rhwng cyfrannedd seneddau ac atebolrwydd llywodraethau. Mae John Carey a Simon Hix yn cynnig bod systemau cynrychiolaeth gyfrannol â meintiau ardaloedd cymharol fach, fel system Cymru, yn taro cydbwysedd rhwng cynrychiolaeth gyfrannol a gallu pleidleiswyr i brosesu'r dewisiadau o ran pleidiau sydd ar gael yn ogystal â phriodoli cyfrifoldeb gwleidyddol i'r gweithredwyr cywir.
Er bod y cyfuniad o fformiwla etholiadol a maint ardal o chwech yn gosod system etholiadol Cymru o fewn y brif ffrwd o ran enghreifftiau democrataidd modern o gynrychiolaeth gyrannol, mae defnyddio rhestr gaeedig yn fwy dadleuol. Mae mathau eraill o systemau cyfrannol 'rhestr agored neu hyblyg' yn caniatáu i bleidleiswyr ddylanwadu ar safle ymgeiswyr ar y rhestr. Mae hyn yn rhoi mwy o lais i'r etholwyr ynghylch pwy sy'n eu cynrychioli ac yn golygu bod yn rhaid i bleidiau ildio rhywfaint o'u rheolaeth dros siawns ymgeiswyr o ennill seddi.
Er enghraifft, dadl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yw bod rhestrau agored, o ran cyfreithlondeb democrataidd, yn drech na rhestrau caeedig. Er nad yw hon yn safbwynt gyffredinol, dyna oedd barn y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a argymhellodd fabwysiadu naill ai system etholiadol rhestr hyblyg neu system etholiadol Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Fodd bynnag, argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2022, y dylid ethol y Senedd gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig. Un o'r prif resymau dros y penderfyniad hwn oedd bod systemau rhestr gaeedig yn gweithio'n dda gyda chwotâu rhywedd integredig, a all sicrhau cynrychiolaeth rhywedd fwy cyfartal. Gallai'r rhesymeg hon hefyd fod yn berthnasol i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Fodd bynnag, cafodd deddfwriaeth i gyflwyno system o gwota rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd ei thynnu'n ôl gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024.
A yw'r system yma i aros?
Wrth i ni agosáu at etholiad y Senedd ym mis Mai, mae'n anodd rhagweld sut y bydd y system etholiadol yn gweithio'n ymarferol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai fod newid pellach i'r system ar ôl yr etholiad. Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywydd y Senedd, a gaiff ei hethol o’r newydd, gynnig sefydlu pwyllgor i adolygu gweithrediad y system etholiadol a llunio adroddiad. Mater i'r Senedd newydd fydd penderfynu a ddylid cytuno i'r cynnig hwn. Gan ddibynnu ar brofiad o’r system, a gwerthusiad gweithredwyr allweddol eraill gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, gall hyn arwain at newid pellach mewn etholiadau dilynol.
Mae'r erthygl wadd hon wedi'i pharatoi ar gyfer Ymchwil y Senedd gan Dr Anwen Elias, Dr Bettina Petersohn a’r Athro Matthew Wall.
Dr Anwen Elias (Prifysgol Aberystwyth), Dr Bettina Petersohn a’r Athro Matthew Wall (ill dau o Brifysgol Abertawe) yw’r tîm academaidd fydd yn arwain Astudiaeth Etholiad Cymru 2026.
