Llun o weithiwr adeiladu yn adeiladu ffordd.

Llun o weithiwr adeiladu yn adeiladu ffordd.

How are levelling up funds working in Wales?

Cyhoeddwyd 07/11/2023   |   Amser darllen munudau

Y llynedd, dywedodd Llywodraeth y DU mai ffyniant bro oedd ei “chenhadaeth allweddol”. Mae wedi datblygu nifer o gronfeydd, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a’r Gronfa Ffyniant Bro, a nod y rhain yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd seiliedig ar le.

Mae ein herthygl, a gyhoeddwyd fis Mai y lynedd, yn egluro sut mae'r cronfeydd yn gweithio. Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) ar y cronfeydd hyn ar 8 Tachwedd, mae’r erthygl hon yn trafod sut mae’r cronfeydd yn gweithio i Gymru.

Mae’r anghytundeb ynghylch lefelau cyllido’n parhau

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau y bydd Cymru yn cael £772 miliwn yn llai o gyllid drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin rhwng mis Ionawr 2021 a mis Mawrth 2025 o’i gymharu â’r swm y byddai wedi’i gael drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE. Dywed y dylai’r symiau a ddyrennir o’r Gronfa ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn llawn bob blwyddyn tan 2024-25.

Mae Llywodraeth y DU yn anghytuno. Dywed y byddai rhaglenni blaenorol yr UE yn codi ac yn gostwng, ac y bydd yn cyflawni ei hymrwymiad cyllido drwy gyfuniad o gronfeydd yr UE o raglen 2014-20 a buddsoddiad drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nid oes consensws o ran pwy sy’n iawn. Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae safbwynt Llywodraeth y DU “yn fwy rhesymol”. Fodd bynnag, daeth y Sefydliad Materion Cymreig i’r casgliad bod y figurau'n awgrymu y bydd Cymru ar ei cholled yn ariannol. Amlinellodd yr Athro Steve Fothergill Brifysgol Sheffield Hallam yr ansicrwydd gan ddweud:

It's a very odd situation to be in, to say that both parties are right in all of this, but they are, because they're looking at rather different things. One's looking at actual spending in financial years, and, in that sense, the UK Government is correct; the Welsh Government is looking at financial commitments, which is a different measure, and Vaughan Gething is correct on that front.

Mae’r anghytuno’n parhau o ran pwy ddylai reoli’r cyllid

Mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio’i phwerau o dan Ddeddf Marchnadoedd Mewnol y DU 2020 i weithio gydag awdurdodau lleol i roi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro ar waith. Dywed:

Replacing bureaucratic European funds, the UK Shared Prosperity Fund provides places with the autonomy and the certainty they need to decide their own priorities and agree them locally.

Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi croesawu’r trefniadau rheoli. Mae’n dweud bod y rhain yn caniatáu i gynghorau fod yn uniongyrchol gyfrifol dros benderfyniadau lleol, gan sicrhau bod modd mynd i’r afael ag anghenion penodol. Fodd bynnag, awgrymodd y pedwar cynrychiolydd awdurdod lleol a roddodd dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor eu bod hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnwys yn nhrefniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio dull Llywodraeth y DU o weithredu fel “tresmasiad bwriadol ac annerbyniol ar faes polisidatganoledig”. Dywed:

Mae llawer o'r problemau a welwn yn y ffordd mae Llywodraeth y DU yn rheoli'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ganlyniad uniongyrchol i orfodi'r Gronfa hon ar Gymruheb bartneriaeth ystyrlon â Llywodraeth Cymru a heb fawr o ystyriaeth i anghenion penodol rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn wir am y ffordd maent yn rheoli'r Gronfa Ffyniant Bro.

Dywedodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod “rhanddeiliaid o’r farn bod absenoldeb unrhyw gydgysylltu ar lefel Llywodraeth Cymru o ran datblygu neu ddarparu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael effaith negyddol.” O ganlyniad, argymhellodd y dylai Llywodraeth y DU ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo i ddarparu a chynllunio’r cylchoedd cyllido yn y dyfodol.

Sut y mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y gweithio

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ariannu blaenoriaethau a bennir yn lleol, a hynny mewn tri maes – cymuned a lle; cymorth i fusnesau a phobl a sgiliau. Mae’r gwaith o reoli’r Gronfa yn cael ei awrwain gan yr awdurdodau lleol sydd wedi sefydlu’r gronfa yn eu hardaloedd.

Er eu bod yn croesawu’r berthynas waith dda â swyddogion Llywodraeth y DU, dywedodd awdurdodau lleol eu bod yn pryderu am y modd y mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â’r Gronfa yn effeithio ar eu gallu i gynllunio prosiectau a’u rhoi ar waith. Dywedodd:y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

…we were handed an almost impossible task of money coming late, lack of clarity around how you can spend it, lack of clarity about how you can allocate it, and then potentially being criticised at the end.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod ei bod yn anodd i rai awdurdodau lleol gadw at rai amserlenni. Mae'n dweud bod ei swyddogion yn cysylltu â nhw’n rheolaidd i’w helpu i gyflawni'r canlyniadau a fwriedir.

Mae pryderon fod cynllun y Gronfa yn arwain at ddyblygu ymdrechion o du llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Soniodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru am y posibilrwydd o ddyblygu cymorth i fusnesau. Dywedodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, y gellid gwella’r rhaglen rifedd sy’n rhan o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy ehangu ei chwmpas a’i chydgysylltu â rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Mater arall a godwyd gan sefydliadau yw effaith bosibl cynllun y Gronfa ar brosiectau rhanbarthol a phrosiectau ar gyfer Cymru gyfan. Dywedoedd Prifysgol Cymru fod trefniadau’r Gronfa’n rhy lleol i gyflawni blaenoriaethau strategol rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer buddoddi mewn ymchwil, arloesedd a sgiliau. Tanlinellodd hefyd fod dros 1,000 o swyddi ym mhrifysgol Cymru dan fygythiad wrth i’r Gronfa ddisodli Cronfeydd Strwythruol yr UE. Mae Prifysgolion Cymru, ac undebau llafur, wedi galw am gyllid pontio i ddiogelu swyddi nes bydd modd dod o hyd i ateb mwy hirdymor.

Dywedodd Colegau Cymru fod y gofynion gweinyddol sy’n wynebu cyrff sydd am roi prosiectau waith mewn mwy nag un awdurdod lleol wedi creu “haen wahanol o fiwrocratiaeth”.

Yn ôl Llywodraeth y DU. gall awdurdodau lleol benderfynu a ydynt am ddefnyddio cyllid o’r Gronfa yn lleol neu’n rhanbarthol. Mae’r Gronfa, meddai, wedi’i chreu gydag gydag amcanion gwahanol a model cyflawni newydd, a dywedodd bod Llywodraeth y DU yn barod i gynorthwyo prifysgolion i bontio rhwng yr hen drefniadau ariannu a’r trefniadau newydd.

Sut y mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn gweithio

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith fel adfywio canol trefi, gwella trafnidiaeth ac asedau diwylliannol. Dros y ddau gylch ariannu cyntaf, cafodd Cymru tua £330 miliwn, a chafodd 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyllid.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn dadlau bod yr elfen gystadleuol sy’n rhan o’r Gronfa’n aneffeithiol ac nad yw’n cyfrannu at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol. Gan siarad ar ran cynghorau Lloegr, dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol:

…wasteful competitive bidding processes are not a sustainable approach to economic development or public service delivery.

Dywedodd: Gweinidog yr Economi y gallai’r Gronfa fod yn fwy effeithiol pa bai’n cael ei chyflwyno mewn ffordd wahanol:

…if you'd used those funds in a more strategic way with a longer time frame, would they have made more difference? I think the answer to that is 'yes'.

Tanlinellodd Llywodraeth y DU fod Cymru yn cael mwy o fuddsoddiad y pen drwy’r Gronfa nag unrhyw un o’r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr. Mae wedi cadarnhau y bydd y trydydd cylch ariannu’n cael ei lansio ym mis Tachwedd 2023, cyn Datganiad yr Hydref.

Dyfodol y rhaglen ffyniant bro

Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar symleiddio ffrydiau ariannu ffyniant bro, sy’n nodi rhai newidiadau, mae ansicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i’r cronfeydd ar ôl mis Mawrth 2025. Mae’r Pwyllgor am i Lywodraeth y DU egluro’i chynlluniau ar gyfer y ddwy gronfa cyn gynted â phosibl.

Bydd Adolygiad o Wariant nesaf Llywodraeth y DU yn pennu cyfeiriad cynlluniau’r dyfodol. Tan hynny, gallwn ddisgwyl y bydd Llywodraethau Cymru a’r DU yn parhau i anghytuno ynghylch a yw Cymru’n cael cyllid digonol, pwy ddylai ddarparu’r cyllid, ac a yw’r cronfeydd yn gweithredu’n llwyddiannus.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru