Wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig a cheisio ymdrin ag argyfyngau parhaus, fel yr argyfwng costau byw a'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae’r broses o flaenoriaethu wrth ddyrannu ein cyllid cyhoeddus yn bwysicach nag erioed.
Dyma’r cyd-destun ar gyfer trafodaethau’r Senedd ynghylch blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru, cyn i gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf gael ei phennu.
Bydd y trafodaethau hyn yn cael eu harwain gan Bwyllgor Cyllid y Senedd, a byddant yn cael eu llywio gan y gwaith ymgysylltu cyhoeddus a wnaed gan y Pwyllgor yn ddiweddar. Bwriad y dull gweithredu hwn yw rhoi cyfle i'r cyhoedd gael mwy o ddylanwad ar y broses o wneud penderfyniadau cyllidebol cyn i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru gael eu cwblhau.
Sut y cafodd safbwyntiau’r cyhoedd eu nodi?
Roedd strategaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys:
- digwyddiad i randdeiliaid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd;
- gweithdy ar-lein gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a
- grwpiau ffocws gyda sefydliadau ac unigolion a hwyluswyd gan dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd.
Pa bryderon a godwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod?
Mae pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys: pwysau chwyddiant; yr argyfwng costau byw; yr argyfyngau hinsawdd a natur; a COVID.
Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’n costio mwy i wneud yr un pethau. Mae’r argyfwng hwn yn cael effaith fwy ar rai grwpiau, gan gynnwys pobl sy’n gwario cyfran uwch o’u hincwm ar wresogi a bwyta, a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad oes ganddynt fynediad hwylus at gysylltiadau trafnidiaeth neu wasanaethau cyhoeddus eraill.
Tynnwyd sylw hefyd at yr angen am ddata gwell i lywio'r broses o wneud penderfyniadau. Yn benodol, mae angen deall effeithiau’r argyfwng costau byw ar anghydraddoldeb a thlodi, a sut y gellid targedu cyllid yn y modd mwyaf effeithiol.
Cafodd iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol eu nodi fel meysydd allweddol eraill y mae angen cymorth arnynt, ac mae buddsoddi mewn mesurau ataliol a’r rôl y gall y sector cyhoeddus ehangach ei chwarae yn hyn o beth yn hollbwysig.
Yn ogystal, ystyrir bod lliniaru effaith y pandemig ar addysg, datblygiad, iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yr un mor bwysig.
Heb lefel sylweddol uwch o gyllid, mae cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl, a bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau anodd yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Tynnodd rhanddeiliaid sylw at y risg y byddai’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn parhau i gynyddu, gan nodi y dylid blaenoriaethu’r elfennau hyn yn y broses o wneud penderfyniadau.
Gall polisïau tai gynorthwyo’r broses o ddarparu tai fforddiadwy, a gallant hefyd gyfrannu at yr agenda sero net.
Mynegwyd safbwyntiau cymysg o ran sut y mae cymorth busnes yn cael ei dargedu, gyda rhai yn nodi anawsterau o ran deall yr effeithiau y mae polisïau yn eu cael.
Mae crynodeb o waith ymgysylltu’r Pwyllgor wedi’i gyhoeddi.
O ran y gyllideb ddrafft, beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal ei phrosesau blaenoriaethu mewnol ei hun, a hynny fel rhan o’r gwaith o baratoi ar gyfer cyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni.
Yn ddiweddar, gwnaeth Llywodraeth Cymru gais i oedi’r amserlen ar gyfer cyhoeddi ei chyllideb. Yn hytrach na chyhoeddi’r gyllideb ar ddechrau mis Hydref, mae’n bwriadu ei chyhoeddi naill ai ar 13 Rhagfyr neu o fewn pedair wythnos i unrhyw gyllideb a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU yn yr hydref, pa un bynnag sydd gynharaf.
Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch yr amserlen ar gyfer y gyllideb yn cael ei wneud gan Bwyllgor Busnes y Senedd.
Os ydych yn awyddus i fwydo eich safbwyntiau eich hun i’r broses hon, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ym mis Medi.
A oes angen rhagor o wybodaeth arnoch?
Mae gwybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i’w gweld ar dudalen cyllidebau Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi cyhoeddi canllaw i Gwestiynau Cyffredin ar broses y gyllideb.
Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar 13 Gorffennaf 2022. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru