Sut all Cymru gael y cyfryngau sydd eu hangen arni?

Cyhoeddwyd 18/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae llunwyr polisïau yn wynebu penbleth o ran sut i gefnogi sector sy’n hanfodol i ddemocratiaeth, ond sy’n gweithio ar ei orau o bellter i’r rhai sy’n meddu ar bŵer democrataidd.

Beth sy’n digwydd i ddemocratiaeth pan fydd pobl yn methu â chael mynediad at wybodaeth ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi ynglŷn â’r bobl y gallant bleidleisio drostynt? Ers 1999, wrth i’r Senedd ennill rhagor o bwerau, mae newyddiaduraeth broffesiynol wedi cilio o gymunedau lleol yng Nghymru, yn ogystal â gweddill y byd.

Ar ddiwedd y Bumed Senedd, daeth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’r casgliad bod y “cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol.” Y diffyg mwyaf a nodwyd oedd cynnwys newyddion a materion cyfoes.

Punnoedd print yn troi’n geiniogau digidol

Mae papurau newydd yng Nghymru wedi profi gostyngiad parhaus yng nghylchrediad eu fersiynau print. Ers 2008 mae cylchrediad y Western Mail wedi gostwng dros dri chwarter – o 37,576 i 8,419 yn 2020. Yn ystod yr un cyfnod, mae cylchrediad y Daily Post wedi mwy na haneru – o 36,432 yn 2008 i 14,250 yn 2020. Mae hyn yn debyg i brofiadau papurau dyddiol y DU, gyda chylchrediad y Mirror a’r Express ill dau wedi mwy na haneru yn ystod yr un cyfnod. Mae’r patrymau hyn yn cael eu hadlewyrchu ledled y byd.

Er bod cylchrediad papurau newydd print wedi gostwng, mae’r niferoedd ar-lein wedi cynyddu’n helaeth. Cynyddodd defnydd WalesOnline dros 1400% rhwng 2008 a 2020, gyda nifer yr ymwelwyr misol wedi cynyddu o 680,000 ym mis Mawrth 2008 i 9.7 miliwn ym mis Mehefin 2020.

Mae sefydliadau newyddion wedi’i chael yn anodd sicrhau gwerth ariannol ar y cynnydd hwn ar-lein. Heblaw am ambell enghraifft, maen nhw wedi bod yn amharod i godi tâl am gael mynediad i’w cynnwys, gan ddibynnu yn hytrach ar hysbysebu digidol, gyda swmp yr hysbysebu hynny yn dod i feddiant Google a Facebook.

Canlyniad hyn fu cau papurau newydd, colli swyddi a chydgrynhoi'r farchnad gan yr enwau mawr. Cyflymodd y tueddiadau hyn yn ystod y pandemig, er bod mwy o ddefnydd o newyddion. Yn ôl dadansoddiad Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2020, awgrymwyd gostyngiad mewn refeniw hysbysebu o 20.5% ar y flwyddyn flaenorol ar gyfer papurau newydd cenedlaethol, a gostyngiad o 24.1% ar gyfer papurau newydd rhanbarthol. Effeithiwyd ymhellach ar y gostyngiad mewn gwerthiannau o gopïau print yn sgil y cyfnod clo, wrth i’r niferoedd a oedd yn siopa ddisgyn i raddau helaeth.

Mae teledu a radio yn colli cynulleidfaoedd i gystadleuaeth heb ei rheoleiddio

Nid yw newyddion yn ymwneud â phapurau newydd yn unig. Teledu yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf cyffredin yng Nghymru o hyd, ac fe gaiff ei ddefnyddio gan 75% o bobl, o gymharu â 43% ar gyfer radio, 33% ar gyfer papurau newydd print, a 31% ar gyfer gwefannau ac apiau eraill – gan gynnwys rhai penodol ar gyfer newyddion.

Ond mae gwasanaethau darlledu rheoledig sy’n darlledu newyddion – fel y BBC, ITV a radio masnachol – i gyd yn colli cynulleidfaoedd i gystadleuaeth ar-lein heb ei rheoleiddio fel Netflix a Spotify. Efallai bod gan y llwyfannau ffrydio hyn rywfaint o gynnwys newyddion a materion cyfoes, ond oes rhaid iddynt wneud hynny trwy reoliad, a hyd dim ond rhan atodol o’u modelau busnes yw’r cynnwys hwn.

Mae cyfran gynyddol o bobl – 46% yn 2020 – yn cael eu newyddion o’r cyfryngau cymdeithasol. Unwaith eto, nid yw hyn wedi’i reoleiddio ar y cyfan ac, er y ceir newyddion dibynadwy o ffynonellau dibynadwy, mae hefyd pryderon ynghylch twyllwybodaeth a newyddion ffug

Mae colli newyddion yn atal y nifer sy’n pleidleisio ac yn cynyddu llygredigaeth

Mae yna lawer o ddadleuon damcaniaethol dros werth newyddiaduraeth newyddion mewn democratiaeth ryddfrydol. Mae’r rhain yn cynnwys annog atebolrwydd gwleidyddol i’r cyhoedd a sicrhau sawl safbwynt. Mae gwaith ymchwil diweddar, sydd wedi’i grynhoi mewn adroddiad ar gyfer Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU wedi rhoi sail empirig i’r honiadau hyn.

Daeth yr awduron i’r casgliad fod cael teitl papur newydd lleol dyddiol neu wythnosol ychwanegol yn cynyddu nifer y pleidleiswyr 1.27 pwynt canran, a bod cau teitlau newyddion lleol a rhanbarthol yn arwain at ddiffyg adrodd a llai o graffu ar swyddogaethau democrataidd. Mae buddion eraill a nodwyd o ran newyddiaduriaeth budd y cyhoedd yn amrywio o leihau polareiddio gwleidyddol i arbed arian cyhoeddus trwy leihau llygredigaeth a chamreoli cyhoeddus.

Roedd natur ddatganoledig nifer o bwerau a ddefnyddiwyd i ymateb i’r pandemig yn enghraifft amlwg o bwysigrwydd newyddion Cymreig. Ym mis Ebrill 2020, ysgrifennodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Bumed Senedd at Bwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin yn amlinellu potensial cam-adrodd i niweidio iechyd y cyhoedd, gan nodi adroddiadau newyddion anghywir o bob rhan o wasg y DU. Y papurau newydd print ac ar-lein mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw’r Mail a’r Sun. Felly mae darllenwyr yng Nghymru yn aml yn dibynnu ar olygyddion yn Llundain i gyfathrebu’n glir pa fesurau’r cyfnod clo sydd ar waith yng Nghymru.

Cafodd honiadau’r Pwyllgor eu hategu gan ymchwil gan yr Athro Cushion ym Mhrifysgol Caerdydd. Canfu fod mwyafrif llethol y cyfranogwyr yn yr astudiaeth yn gallu adnabod ‘newyddion ffug’ fel meddyginiaethau ffals ar gyfer COVID-19. Ond cyfeiriodd llawer at wybodaeth anghywir y llywodraeth neu’r cyfryngau fel ffynonellau gwybodaeth gamarweiniol am y pandemig.

Her i lunwyr polisi, nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl offer i fynd i’r afael â hi

Mae’r gostyngiad mewn newyddiaduraeth newyddion yn her sylweddol i lunwyr polisi. Yn ddiweddar, maent wedi gallu dibynnu ar y farchnad i ddarparu llif o newyddion dibynadwy ar y cyfan.

Nid yw rhyddid y farchnad hon wedi bod yn absoliwt – gyda phapurau newydd yn derbyn gostyngiadau treth a chymorthdaliadau ymhlyg ar ffurf hysbysebion y telir amdanynt gan gyrff cyhoeddus. Ac mae’r cyfryngau darlledu naill ai’n cael eu hariannu’n gyhoeddus (fel y BBC a S4C) neu eu rheoleiddio i sicrhau cynnwys newyddion dibynadwy. Ond mae’r dull hwn wedi helpu gwleidyddion i leihau lletchwithrwydd ymyrryd yn uniongyrchol mewn sector sy’n ddibynnol ar annibyniaeth ar y wladwriaeth i wneud ei gwaith.

Yn 2018, dywedodd y Pwyllgor Diwylliant fod dirywiad newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru “yn fater polisi cyhoeddus dwys, y mae angen i wneuthurwyr polisi ar bob lefel, yn enwedig Llywodraeth Cymru, fynd i’r afael ag ef fel mater o flaenoriaeth”.

Derbyniodd Llywodraeth flaenorol Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond roedd yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallai ei wneud. Mae “darlledu a chyfryngau eraill” yn fater a gedwir yn ôl, sy’n golygu mai Senedd y DU sydd â’r pŵer i basio cyfreithiau yn y maes hwn. Mae hyn yn gadael cyllid uniongyrchol fel y prif opsiwn polisi i Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraethau Cymru wedi ariannu newyddion a materion cyfoes Cymraeg ers amser maith, trwy Gyngor Llyfrau Cymru, i gydnabod methiant y farchnad yn y maes hwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi darparu cyllid ar gyfer rhywfaint o newyddiaduraeth Saesneg, fel Nation.Cymru – trwy’r Cyngor Llyfrau, a ‘newyddiaduraeth hyperleol’ trwy ei gronfa ei hun, sef Cronfa Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol £200,000. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi derbyn y ddadl, a wnaed gan y Pwyllgor Diwylliant sef bod y farchnad ar gyfer newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru hefyd wedi methu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn flaenorol nad lle Llywodraeth Cymru oedd darparu’r cyfryngau na chefnogi’r cyfryngau. Ond erbyn diwedd y Bumed Senedd datgelodd fod trafodaethau yn “parhau i ddigwydd” i ddarparu cefnogaeth bellach i newyddiaduraeth Saesneg “yn debyg i beth sydd gyda ni yn y Gymraeg”. Edrychodd Comisiwn y Senedd hefyd a allai gynnig cymorth i newyddiaduraeth.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ers amser maith am ddatganoli darlledu i roi mwy o offer i Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cyfryngau. Ychydig o gefnogaeth a gafodd y cynigion hyn yn ddiweddar gan y Pwyllgor Diwylliant. Ond byddai pwerau pellach yn golygu y byddai angen i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na Llywodraeth y DU, ateb cwestiynau anodd ynglŷn â sut i gynyddu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus mewn oes o ddadreoleiddio.

Er bod sawl gwasanaeth newyddion newydd i Gymru wedi cychwyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf (fel Nation Cymru a The National), nid yw un o’r tueddiadau ehangach yn y farchnad yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Os yw gwleidyddion eisiau i bobl wybod mwy am y bobl a’r sefydliadau y maent yn pleidleisio drostynt, nhw fydd yn gorfod penderfynu sut.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru