Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ryngwladol ddrafft ar gyfer ymgynghoriad, gan nodi ei blaenoriaethau a'i nodau mewn amgylchedd ar ôl Brexit. Mae wedi dweud bod y newid sylweddol yn y dirwedd ryngwladol a achosir gan Brexit yn golygu ei bod yn amser gosod gweledigaeth ryngwladol newydd ar gyfer Cymru.
Beth yw elfennau allweddol y strategaeth ryngwladol ddrafft?
Mae'r ymgynghoriad ar y strategaeth yn gofyn pedwar cwestiwn ynghylch nodau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, a bydd yn cau ar 23 Hydref. Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi nodi y bydd angen i'r strategaeth derfynol fod â digon o hyblygrwydd i ymateb i ba bynnag senario Brexit a ddaw.
Mae gan y strategaeth ddrafft dri nod allweddol:
- Codi proffil rhyngwladol Cymru;
- Cynyddu allforion a mewnfuddsoddiad; ac
- Arddangos Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Bydd y strategaeth yn ceisio dal creadigrwydd; harneisio technoleg; a nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynaliadwyedd.
Fel rhan o'i dull gweithredu, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig:
- Hyrwyddo tri diwydiant y cred fod Cymru yn gartref i 'ganolfannau rhagoriaeth' - lled-ddargludyddion cyfansawdd; y diwydiannau creadigol; a seiberddiogelwch.
- Gweithio i ddatblygu'r brand 'This is Wales' presennol i gynyddu ei effaith.
- Mentrau yn y sectorau addysg ac iechyd i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio a gweithio.
- Cynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o Gymru fel cenedl ddwyieithog, ac annog plant i ddysgu ieithoedd modern.
- Tyfu economi Cymru drwy gynyddu allforion; blaenoriaethu marchnadoedd presennol yn Ewrop a Gogledd America a datblygu cyfleoedd newydd yn y Dwyrain Canol ac Asia; a denu mewnfuddsoddiad o safon i Gymru.
- Buddsoddi mewn marchnata twristiaeth, sicrhau digwyddiadau mawr, a hyrwyddo enw da diwylliannol a chwaraeon Cymru i gynyddu proffil byd-eang Cymru.
- Rhoi ffocws newydd i'r rhaglen 'Cymru o Blaid Affrica' i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, a'i hailenwi y rhaglen 'Cymru ac Affrica'.
Sut y mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft yn cymharu ag argymhellion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol?
Ym mis Chwefror 2019, gwnaeth adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol nifer o argymhellion ar feysydd i'w cynnwys yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru.
Roedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi maint ei huchelgais o ran ymgysylltiad rhyngwladol Cymru a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad a nodi ei bod yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth derfynol cyn haf 2019. Wedi hynny, amlygodd y Prif Weinidog, oherwydd lefel y diddordeb yn y strategaeth, y cynhelir ymgynghoriad ac y byddai'r strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd 2019.
Galwodd y Pwyllgor hefyd am ddangosyddion perfformiad allweddol i gyd-fynd â'r strategaeth ryngwladol. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad, gan nodi y byddai'r strategaeth yn nodi dangosyddion perfformiad allweddol, gyda rhai uchelgeisiau lefel uchel mesuradwy. Fodd bynnag, yn ei datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd â'r strategaeth ryngwladol ddrafft, nododd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod yr ansicrwydd cyfredol ynghylch y senarios Brexit posibl yn golygu nad yw’n bosibl cynnwys targedau ar hyn o bryd, ac y bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn cynllun cyflawni dilynol.
Roedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pherthnasau dwyochrog presennol er mwyn asesu pa rai o’r perthnasau hyn y gellir eu cryfhau a’u dyfnhau yn y dyfodol, yn unol â blaenoriaethau strategol. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ac mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu perthnasoedd â Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud, gan gynnwys pa wledydd fydd yn cael eu blaenoriaethu. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Yn y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n cynnig gweithio gyda Chymry alltud a chydweithredu â sefydliadau partner. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd yn canolbwyntio ar UDA, a hefyd ar nodi pobl ddylanwadol o Gymru ledled y byd. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mapio'r pobl ar wasgar ledled y byd, gan ddechrau gydag UDA a Japan, ac yn mapio gweithgarwch rhyngwladol Cymru i ddatblygu cronfa ddata o gysylltiadau.
Beth y mae'r rhai yn y maes wedi galw am i'r strategaeth ei gynnwys?
Cyn cyhoeddi'r strategaeth ddrafft, cododd nifer o academyddion a chynrychiolwyr sefydliadol themâu allweddol i'w hystyried.
Roedd Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn galw ar y strategaeth ryngwladol i ddatblygu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru arddangos ei pholisïau o ran cyfrifoldeb byd-eang (sy'n un o dair nod y strategaeth ddrafft); dylai adeiladu ar ymrwymiadau i liniaru tlodi drwy'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica; ac y dylai gwerthoedd Llywodraeth Cymru fod yn sail i'r strategaeth. Mae Atodiad D i'r strategaeth ddrafft yn nodi'r rhain.
Awgrymodd Dr Rachel Minto a'r Athro Kevin Morgan fod angen i ymgysylltiad rhyngwladol Cymru gael ei wneud mewn partneriaeth, yn hytrach na dim ond gan Lywodraeth Cymru. Galwyd hefyd ar Lywodraeth Cymru i hybu cynrychiolaeth ym Mrwsel, a sicrhau bod ganddi gapasiti digonol i gynhyrchu buddion clir o berthnasoedd dwyochrog, o ran arbenigedd ac adnoddau ariannol.
Nododd Dr Elin Royles fod angen i drefniadau ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol fod ar sail statudol i sicrhau bod adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU yn cyflawni disgwyliadau Cymru. Tynnodd sylw hefyd at yr her i Lywodraeth Cymru, sef llywio cysylltiadau rhyngwladol Cymru drwy 'diriogaeth ddigymar' tirwedd ar ôl Brexit.
Bydd telerau Brexit a pherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol yn hanfodol i ddrafftio'r strategaeth derfynol. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiadau hyn yn allweddol i'w chyflawni. Fodd bynnag, rhaid aros i weld faint o eglurder ar Brexit a geir erbyn i'r strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru