Stormydd a Llifogydd Arfordirol mis Ionawr

Cyhoeddwyd 14/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

14 Ionawr 2014 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_826" align="aligncenter" width="275"]Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr 2014 cafodd arfordir Cymru ei daro gan stormydd difrifol. Difrododd y stormydd amddiffynfeydd y môr gan achosi llifogydd i eiddo mewn nifer o leoliadau.

Yr ardaloedd a ddioddefodd waethaf oedd Aberystwyth, Borth, Abermo, Caernarfon, Aberteifi, Amroth, Niwgwl, Llanbedr, Casnewydd (De-ddwyrain Cymru), Deganwy a Phorthcawl. Amcangyfrifir bod 140 o eiddo wedi dioddef llifogydd

Cyflwynwyd chwe rhybudd llifogydd difrifol a 54 rhybudd llifogydd, a chyflwynwyd dros 23,000 o rybuddion i drigolion drwy’r cynllun Uniongyrchol Rhybuddion Llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yn amcangyfrif bod tua 40,000 o eiddo wedi cael eu diogelu gan amddiffynfeydd arfordirol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (a’i ragflaenydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru) wedi gwario £20 miliwn ar gynlluniau llifogydd arfordirol cyfalaf ers 2006 (nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys gwariant refeniw i gynnal amddiffynfeydd).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymwelodd Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, ag Aberystwyth ar 5 Ionawr 2014, pan ymrwymodd i adolygu amddiffynfeydd arfordirol o ganlyniad i’r stormydd. Cafodd yr adolygiad, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru ei symbylu yn y lle cyntaf yn dilyn y llifogydd ar arfordir Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2013, ond cafodd ei ymestyn bellach i gynnwys Cymru gyfan.

Mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yr adolygiad yn cynnwys dwy ran. Bydd rhan 1 yn ‘adolygiad cyflym’ o effeithiau’r llifogydd a chyflwr amddiffynfeydd arfordirol yn dilyn y stormydd, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Ionawr 2014. Bydd rhan 2 yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd o lifogydd mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 a’r ffordd o reoli perygl llifogydd yn yr ardaloedd a effeithiwyd. Bydd yn cynnwys:

  • Manylion am yr achos o lifogydd, a’r ffordd y cafodd ei fodelu a’i ragweld;
  • Ymateb gweithredol gan yr awdurdodau sy’n rheoli perygl llifogydd;
  • Sut y perfformiodd amddiffynfeydd, yr eiddo a effeithiwyd ac amcangyfrif o’r rhai a ddiogelwyd;
  • Effeithiau ar seilwaith a’r gallu i wrthsefyll achosion o lifogydd yn y dyfodol; a’r
  • Gwersi a ddysgwyd; er mwyn gallu paratoi’n well ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Bwriada’r Gweinidog i adroddiad Cyfnod 2 gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill, yn amodol ar gytundeb rhwng y partneriaid sydd ynghlwm â’r gwaith.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi dweud y gall awdurdodau lleol, os yw hynny’n briodol, wneud cais am gymorth ariannol o dan Gynllun Cymorth Ariannol Brys Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â chais i’r EU Emergency Solidarity Fund.

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi nodi nad yw’r Trysorlys yn debygol o ryddhau arian ychwanegol, ac ei fod yn amau na fydd arian o’r UE ar gael.

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i Gymru  ac mae’n ariannu’n bennaf weithgareddau arfordirol a gweithgareddau’n ymwneud â llifogydd y mae awdurdodau gweithredol yn gyfrifol amdanynt, sef Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn bennaf yng Nghymru Caiff y mwyafrif o’r cronfeydd eu darparu i Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda rhai’n cael eu dyrannu i awdurdodau lleol ac i gyrff ymchwil.

Mae sefydliadau eraill, er enghraifft, cwmnïau fel Dŵr Cymru a Network Rail hefyd yn buddsoddi mewn amddiffyn rhag llifogydd.

Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2011) yn darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae ymrwymiad o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad i’r Gweinidog ar y cynnydd o ran rhoi’r strategaeth ar waith ac mae disgwyl yr adroddiad cyntaf ym mis Mehefin 2014. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol, eu rhoi ar waith a’u monitro.

Yn ychwanegol at hynny, mae pedwar Cynllun Rheoli Traethlin yn cynnwys arfordir Cymru. Asesiad ar raddfa fawr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol yw Cynllun Rheoli Traethlin, a’i nod yw lleihau’r peryglon hyn i bobl ac i’r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol. Dyma’r pedwar cynllun yng Nghymru:

  • Anchor Head i Drwyn Larnog (Aber Afon Hafren) – trawsffiniol â Lloegr;
  • Trwyn Larnog i St Ann’s Head (De Cymru);
  • St Ann’s Head i Ben y Gogarth (Gorllewin Cymru); a
  • Pen y Gogarth i’r Alban (Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru) - trawsffiniol â Lloegr

Mae’r Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £240 miliwn mewn amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol yn ystod oes y weinyddiaeth bresennol.

Rhagor o wybodaeth:

Datganiad ysgrifenedig y Gweinidog: Llifogydd Arfordirol - Ionawr 2014

Datganiad llafar y Gweinidog: Y Llifogydd Diweddar yng Ngogledd Cymru – Hydref 2013

Papur y Gwasanaeth Ymchwil: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru(Gorffennaf 2012)