Storm berffaith? Dyled a'r pandemig

Cyhoeddwyd 11/01/2022   |   Amser darllen munud

Y tlotaf yn ein cymunedau sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd y pandemig. Gweithwyr ar gyflogau isel oedd y rhai mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu o golli eu swydd dros y ddwy flynedd diwethaf. Daeth Sefydliad Bevan i’r casgliad fod grwpiau a oedd eisoes yn fwy tebygol o fod â phroblemau dyled cyn y pandemig yn awr yn wynebu mwy o risg eto. Clywodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd (y Pwyllgor) gan gyrff sy’n rhoi cyngor ynghylch dyled fod ffactorau fel y cynnydd ym mhris ynni, dod â’r cynnydd dros dro yn nhaliadau Credyd Cynhwysol i ben, a'r cynnydd arfaethedig mewn Yswiriant Gwladol, yn arwain at “storm berffaith” neu “tswnami” o broblemau dyled dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar broblemau dyled a’r rhai sy’n wynebu’r problemau mwyaf?

Clywodd y Pwyllgor fod y galw am gyngor ynghylch dyled wedi gostwng yn sylweddol ar ddechrau'r pandemig, er mai’r disgwyl oedd y byddai'n cynyddu'n ddramatig. Effaith y cymorth a gynigiwyd gan Lywodraethau Cymru a'r DU oedd hyn ee y penderfyniad i atal y broses o orfodi dyledion, y cynllun ffyrlo a'r moratoriwm ar droi tenantiaid allan, a llwyddodd y mesurau hyn i liniaru canlyniadau mwyaf difrifol y pandemig. Fodd bynnag, yn ôl dadansoddiad gan Gyngor ar Bopeth yn ddiweddar, mae’r galw am gyngor ynghylch dyled bellach yn fwy nag yr oedd cyn y pandemig, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 17% yn y nifer sy’n gofyn am gyngor ynghylch dyled o’i gymharu â mis Tachwedd 2019.

Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at y ffaith bod chwarter o deuluoedd Cymru wedi benthyg arian rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021, a bod 12% o leiaf fis yn hwyr yn talu bil cartref.

Ffigur 1: Canran y teuluoedd yng Nghymru a oedd wedi benthyg arian neu a oedd yn hwyr yn talu bil rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021

Graffigyn yn dangos canran y teuluoedd yng Nghymru a oedd wedi benthyg arian rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021, a chanran y teuluoedd a oedd dros fis yn hwyr yn talu bil cartref dros y cyfnod hwn.

Ffynhonnell: Sefydliad Bevan, A snapshot of poverty in winter 2021

Daeth sefydliadau fel StepChange, , Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan i gyd i’r casgliad fod rhai grwpiau yn fwy tebygol o fynd i ddyled nag eraill. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys teuluoedd ar incwm isel; rhieni sengl; teuluoedd â phlant ifanc; pobl sy’n rhentu; pobl o rai cymunedau lleiafrifoedd ethnig; a phobl ag anableddau.

Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at y ffaith nad oes gan bron 40% o deuluoedd Cymru ddigon o arian i’w wario ar unrhyw beth ar wahân i eitemau hanfodol, a phobl ar incwm isel, pobl sy’n rhentu a phobl ag anabledd sy’n dioddef fwyaf. Ar yr un pryd, mae costau byw fel bwyd, biliau cyfleustodau a chludiant yn codi. O ganlyniad, mae cartrefi wedi bod yn gwario llai ar eitemau hanfodol, ac mae Sefydliad Bevan yn nodi y gallai hyn ddod yn fwy cyffredin dros y gaeaf.

Ffigur 2: Canran y teuluoedd a oedd yn gwario llai ar eitemau hanfodol, Mai-Tachwedd 2021

Graff yn dangos canran y teuluoedd yng Nghymru a wariodd llai ar eitemau hanfodol rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021

Ffynhonnell: Sefydliad Bevan, A snapshot of poverty in winter 2021

Sut y dylai Llywodraeth Cymru helpu’r rhai sy’n methu talu biliau?

Gan fod methdaliad a dyled defnyddwyr yn faterion a gedwir yn ôl gan San Steffan, mae helpu pobl sy’n methu talau biliau sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn un o’r prifi ddulliau y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i helpu’r rhai sydd mewn dyled. Yn ôl Cyngor ar Bopeth a StepChange, dyledion treth gyngor a chyfleustodau yw'r mathau mwyaf cyffredin o ddyledion y mae pobl yn eu hwynebu ers y pandemig.

Ffigur 3: Canran cleientiaid StepChange sy’n hwyr yn talu biliau yn ôl math o filiau, Ionawr 2021

Graff yn dangos y mathau mwyaf cyffredin o ôl-ddyledion ymysg cleientiaid StepChange.

Ffynhonnell: StepChange, tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Yn 2020-21, cododd dyledion y dreth gyngor i £157 miliwn, sef cynnydd o £46.4 miliwn o’i gymharu â 2019-20. Er bod y Pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod gan awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus berffaith hawl i gymryd camau i ddiogelu ffrydiau refeniw sy’n hanfodol ar gyfer ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus”, clywodd bryderon hefyd am y modd y mae rhai sefydliadau yn casglu dyledion. Cyfeiriodd Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth at enghreifftiau o arferion gwael gan feilïaid sy'n casglu dyledion treth gyngor ar ran awdurdodau lleol, o safbwynt eu hymddygiad tuag at bobl mewn dyled a fforddiadwyedd cynlluniau ad-dalu.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd adolygu ei brotocol treth cyngor, sy'n amlinellu arfer da ar gyfer casglu treth gyngor, ac argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r adolygiad ystyried cryfhau'r protocol neu roi sail statudol iddo.

Mae ôl-ddyledion rhent hefyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig, er bod Shelter Cymru a Sefydliad Bevan wedi dweud nad yw ôl-ddyledion rhent cymdeithasol cymaint ag roeddent wedi’i ofni i ddechrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Grant Caledi i Denantiaid,, i helpu tenantiaid yn y sector rhentu preifat sydd ag ôl-ddyledion oherwydd effaith y pandemig. Tra bod Sefydliad Bevan wedi galw ar y Llywodraeth i ymestyn y cynllun i denantiaid tai cymdeithasol na allant hawlio Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ac sy’n wynebu problemau wrth i’w rhent godi’n uwch na chwyddiant. Cafodd hyn ei argymell hefyd gan y Pwyllgor. Cytunodd Llywodraeth Cymru i drafod a ddylid ymestyn y grantiau gyda sefydliadau perthnasol.

Mae’r cynnydd ym mhris ynni wedi cyrraedd y penawdau dros y misoedd diwethaf oherwydd y cynnydd mawr ym mhris nwy. Mae pryderon y gallai biliau ynni blynyddol godi oddeutu £500- £550 pan gaiff y cap ar bris ynni ei ddiweddaru ym mis Ebrill. Y tlotaf gaiff eu taro galetaf gan hyn. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried cynorthwyo cwsmeriaid sy'n cael eu taro gan filiau uwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a fydd yn rhoi £100 i helpu teuluoedd ar rai buddion lles penodol i dalu biliau tanwydd. Roedd y Pwyllgor yn pryderu y bydd y cyllid untro hwn yn gwbl annigonol. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r cynlluniau ar fyrder i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac i baratoi cynlluniau i gyflymu’r gwaith o ôl-osod cartrefi cymdeithasol i arbed ynni.

Pa gymorth ehangach y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig?

Mae mesurau ehangach i gynorthwyo â dyled hefyd wedi bod yn bwysig yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydgrynhoi cyngor ynghylch cyllid yn ei Chronfa Cynghori Sengl - mae'n ofynnol gwario cyfran o hyn ar gyngor ynghylch dyled. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.7 miliwn ychwanegol yn 2022-23 i ariannu gwasanaethau cynghori, a bydd yn sicrhau bod darparwyr yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol i annog grwpiau y mae angen cyngor ynghylch dyledion arnynt i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am gymorth brys drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol, ar ôl ei ehangu dros dro tan 31 Mawrth 2022 i helpu’r rhai a gafodd eu taro galetaf yn ystod y pandemig. O ystyried ei rôl allweddol o ran cynnig cymorth, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyblygrwydd a gyflwynwyd i’r Gronfa Cymorth Dewisol yn nodwedd barhaol o’r gronfa. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud hyn, a dywedodd y bydd yn sicrhau y caiff y Gronfa yr effaith fwyaf bosibl drwy gyfeirio ymgeiswyr at gymorth o ffynonellau eraill i wella eu lles ariannol yn y tymor hir. Bydd y cyllid a ddyrennir i’r Gronfa yn 2022-23 yn is nag yr oedd ar gyfer y ddwy flynedd ariannol flaenorol. Bydd y Gronfa yn cael ei hadolygu cyn dechrau'r contract newydd a gaiff ei roi ar waith ym mis Ebrill 2023, a bydd yr adolygiad hwn yn ymdrin â meysydd blaenoriaeth i'r Pwyllgor fel meini prawf cymhwysedd; symleiddio'r broses ymgeisio; a pharatoi canllawiau clir a hygyrch.

Storm ar y gorwel?

Mae’r Resolution Foundation yn poeni mai 2022 fydd “blwyddyn y wasgfa” o safbwynt cyllidebau teuluoedd, ac mae'n debyg y bydd costau byw yn parhau i fod yn amlwg ar yr agenda wleidyddol. Os yw'r gwaethaf eto i ddod, fel y rhagwelwyd gan wasanaethau cynghori ar ddyledion a melinau trafod, mae'n ymddangos yn debygol y bydd angen i Lywodraethau Cymru a'r DU ymateb i gryn dipyn o broblemau’n ymwneud â dyled yn ystod y flwyddyn nesaf.

Gallwch wylio’r ddadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol on 12 Ionawr.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru