Unigolyn yn cynnal arolwg gyda chyfranogwr

Unigolyn yn cynnal arolwg gyda chyfranogwr

Sicrhau bod pawb mewn cymdeithas yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif: rôl data wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Cyhoeddwyd 26/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae data yn chwarae rhan hanfodol wrth ddeall anghenion ac amgylchiadau gwahanol grwpiau o bobl. Gall lywio’r gwaith o ddatblygu polisi a chaniatáu i lunwyr penderfyniadau fesur, monitro a gwerthuso ymyriadau, a helpu eraill i graffu arnynt a'u dwyn i gyfrif.

Mae’r erthygl hon yn amlygu’r rôl bwysig y mae data yn ei chwarae wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Mae'n trafod y rhwystrau wrth gasglu data ac yn ystyried datblygiadau diweddar i sicrhau data cydraddoldeb gwell a mwy cadarn.

Rôl data cydraddoldeb: beth yw'r bylchau?

Taflodd y pandemig oleuni ar yr angen am ddata o ansawdd da a'r bylchau. Nododd adroddiad ar effaith y feirws ar bobl o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel a ganlyn:

Yn sgil COVID-19, mae'r ffaith nad oes unrhyw ddata ethnigrwydd, neu ei fod o ansawdd gwael, wedi arwain at wneud penderfyniadau iechyd gwael, ac mae cymunedau BAME yn wynebu mwy o risg o ddal y clefyd a marw ohono.

Yn 2020 mynegodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau bryderon ynghylch ansawdd gwael y data cydraddoldeb sydd ar gael yng Nghymru. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru:

wella’r prosesau ar gyfer casglu a chyhoeddi data ar achosion coronafeirws a chanlyniadau iechyd wedi'u dadgyfuno yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd a statws gweithiwr allweddol [gan gynnwys] nodi dulliau casglu amgen a ffynonellau data newydd.

Gall data cydraddoldeb amlygu lle mae anghydraddoldebau, a lle mae anghydraddoldebau ar eu mwyaf. Er mwyn deall anghydraddoldebau mae'n hanfodol casglu'r data cywir, gan y bobl gywir yn y ffordd gywir. Pan fo problemau gyda chasglu data, p’un ai a oes diffyg data neu fod ansawdd y data yn wael, gall hyn ei gwneud yn anodd nodi’r canlyniadau ar gyfer grwpiau penodol, neu is-adrannau o’r boblogaeth.

Gall agweddau croestoriadol at ddata hefyd helpu i nodi anghydraddoldeb o fewn grwpiau o bobl a rhyngddynt yn seiliedig ar y ffordd y mae agweddau lluosog o hunaniaeth unigolyn yn rhyngweithio.

Sefydlodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol Dasglu Data Cynhwysol ym mis Hydref 2020 i archwilio a yw’r DU yn adlewyrchu popeth, fel bod pawb mewn cymdeithas yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Yn dilyn ei astudiaeth, daeth y tasglu i’r casgliad a ganlyn:

Some groups or characteristics are missing entirely from the data, for some groups there are insufficient data, and for some the data are not of good enough quality.

Mynegodd y tasglu bryderon bod y bylchau data hyn yn aml yn cynnwys y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig.

Pam mae bylchau mewn data cydraddoldeb?

Gall mynd i'r afael â bylchau data fod yn heriol. Un o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan y Tasglu Data Cynhwysol oedd ymdeimlad cyffredinol o ddiffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth a’r ystadegau y mae’n eu cynhyrchu, sydd yn ei dro yn cael effaith negyddol ar gyfranogiad.

Canfu gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth yr Alban y gall natur bersonol a sensitif data cydraddoldeb hefyd gyflwyno heriau, yn enwedig pan nad yw’n glir pam y gofynnir y cwestiynau hyn.

Mae rhwystrau eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Gall diffyg safonau cyffredin ei gwneud yn anodd archwilio grwpiau yn fanwl a chymharu data ar draws gwahanol feysydd. Gall anghysondebau godi yn y ffordd y cesglir data yn ôl grŵp penodol, er enghraifft y defnydd o dermau megis anabledd a tharddiad ethnig.
  • Gall meintiau sampl bach a diffyg data wedi'u dadgyfuno effeithio ar fanylder y dadansoddiad, a gall olygu bod grwpiau cyfan o bobl yn anweledig yn y data. Mae hyn hefyd yn rhwystro'r gallu i ymgymryd â dadansoddiad croestoriadol.
  • Gall diffyg capasiti a gallu effeithio ar allu sefydliadau i gasglu data cydraddoldeb, dadansoddi a chyhoeddi data.

Cyfleoedd i wella data cydraddoldeb

Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ym mis Mehefin 2022. Mae’r Cyfrifiad yn darparu un o’r ffynonellau mwyaf gwerthfawr o ddata cynhwysol, ond mae ansawdd y data yn dirywio wrth iddo symud ymhellach i ffwrdd o flwyddyn y Cyfrifiad.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrthi’n gweithio ar drawsnewid y system bresennol drwy roi data gweinyddol, a all gynnwys gwybodaeth a grëir pan fydd pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion, y GIG, neu’r system fudd-daliadau, wrth wraidd systemau poblogaeth, mudo ac ystadegau cymdeithasol. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella cynhwysiant, ansawdd, amlder, perthnasedd, cydlyniad, hygyrchedd ac amseroldeb yr ystadegau craidd hyn.

Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mabwysiadu dull wedi'i dargedu drwy sefydlu Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. Wedi’u creu yn gynharach eleni, byddant yn:

mynd i'r afael ag anghenion tystiolaeth parhaus sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth sy'n ystyried lle mae profiadau a chefndiroedd yn croestorri a all ddwysáu'r rhwystrau i unigolion.

Wrth drafod cynnydd yr unedau data, ym mis Mehefin dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth un o bwyllgorau’r Senedd fod staff bellach yn eu lle a bydd y data yn golygu y gellir ymateb mewn perthynas â’r gwasanaethau cyhoeddus.

A oes angen i ddata cydraddoldeb ymwneud â rhifau yn unig?

O ystyried cymhlethdod a rhyngdoriad y materion sy'n effeithio ar fywydau pobl, ni all data ystadegol ar eu pen eu hunain roi darlun cadarn o brofiad byw pobl.

Mae’r defnydd o ddata sy’n deillio o brofiad byw neu ddadansoddiad ansoddol wedi bod yn rhan annatod o’r gwaith o ddatblygu nifer o strategaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft roedd datblygu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn cynnwys pobl â phrofiad byw. Mae pwysigrwydd tystiolaeth profiad byw hefyd yn rhan allweddol o rôl yr unedau data.

Yn croesawu'r cynnydd hwn, yn ei adroddiad 'Cyflwr y Genedl’ yn 2022, dywedodd Chwarae Teg y dylai’r gwaith hwn gyd-fynd â hyfforddiant gan alluogi “pawb sy’n ymwneud â’r broses o wneud penderfyniadau am wariant a pholisi cyhoeddus i ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb croestoriadol ym mhopeth a wneir ganddynt”.

Gan ystyried rhai o’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yn ei adroddiad blynyddol, mae Chwarae Teg hefyd wedi cynnal trafodaeth ynghylch rôl data wrth fynd i’r afael â chydraddoldeb ac edrych ar gyfleoedd pellach i fynd i’r afael â bylchau data yng Nghymru.

Amlygodd y digwyddiad bwysigrwydd casglu data cydraddoldeb gwell a mwy cadarn yn ogystal â sicrhau bod data ar gael i bawb drwy fformatau hawdd eu darllen/fformatau syml. Dadleuwyd er bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud, bod cyfleoedd o hyd i weithio'n rhagweithiol a meddwl yn wahanol am sut y cesglir data yn y dyfodol.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru