gwaith catref

gwaith catref

Sicrhau addysg addas i bawb: Y berthynas rhwng teulu a gwladwriaeth

Cyhoeddwyd 02/06/2023   |   Amser darllen munudau

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai o’r newidiadau y cred y byddant yn sicrhau bod plant yn cael addysg addas ac a fydd yn cefnogi eu teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref. Y nod yw rhoi’r adnoddau i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i nodi, cyn belled ag y bo modd, plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol ac nad ydynt yn cael addysg addas yn rhywle arall.

Cyhoeddwyd canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol fis diwethaf, a dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd 'llawlyfr addysgwr yn y cartref' yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddatblygu cynigion i gefnogi awdurdodau lleol i greu a chynnal cronfa ddata o blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref, er gwaethaf dweud o'r blaen y byddai hyn i gyd yn cael ei wneud erbyn mis Ebrill eleni.

Mae’r erthygl hon yn rhoi’r cefndir i gynigion Llywodraeth Cymru cyn datganiad y Gweinidog i’r Senedd ddydd Mawrth (6 Mehefin).

Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol?

Gall rhieni ddewis addysgu eu plant yn y cartref (addysg ddewisol yn y cartref). Fodd bynnag, rhaid iddynt gyflawni gofyniad cyfreithiol sy’n peri i’w plentyn dderbyn addysg lawn amser effeithlon sy’n addas i’w hoedran, eu gallu a’u dawn ac i unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol a all fod ganddynt.

Os yw’n ymddangos efallai nad yw plentyn yn cael addysg addas yn y cartref, ac na all y rhieni ddangos fel arall, gall yr awdurdod lleol gyhoeddi gorchymyn mynychu’r ysgol os yw'n credu y dylai'r plentyn fynychu'r ysgol. Gallai rhieni sy'n methu â chydymffurfio â gorchymyn mynychu’r ysgol gael eu herlyn neu gael gorchymyn goruchwyliaeth addysg i sicrhau presenoldeb rheolaidd eu plentyn yn yr ysgol.

Roedd yn hysbys bod 4,681 o blant yn cael eu haddysgu yn y cartref yng Nghymru yn 2021/22, sef 9.8 mewn 1,000 o ddisgyblion (i fyny o 1.6 mewn 1,000 yn 2009/10). Mae’r data hyn ond yn cynnwys rhieni sy'n hysbysu'n wirfoddol eu bod yn addysgu yn y cartref, neu ei fod yn hysbys oherwydd bod y plentyn wedi'i dynnu o'r ysgol. Clywodd un o bwyllgorau’r Senedd y llynedd fod nifer y plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn debygol o fod wedi cynyddu yn dilyn y pandemig.

Pam mae newidiadau'n cael eu gwneud?

Yn 2012, ystyriodd Llywodraeth Cymru gynllun cofrestru a monitro gorfodol ar gyfer plant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref. Roedd hyn flwyddyn ar ôl achos trasig Dylan Seabridge, a oedd yn wyth oed a fu farw yn 2011 o sgyrfi. Clywodd y cwêst i'w farwolaeth nad oedd Dylan, a oedd yn cael ei addysgu yn y cartref, wedi cael unrhyw gysylltiad ag awdurdodau yn y saith mlynedd cyn iddo farw.

Argymhellodd Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Dylan (fel y dogfennwyd gan y Comisiynydd Plant ar y pryd) ei bod yn ofynnol i rieni a gwarcheidwaid sy’n addysgu yn y cartref gofrestru eu plentyn gyda’r awdurdod lleol. Galwodd y Comisiynydd Plant ar y pryd, Sally Holland, yn rheolaidd am weithredu ac roedd yn argymell tri phrawf ar gyfer datblygu unrhyw bolisi newydd:

  • bod modd rhoi cyfrif am yr holl blant yng Nghymru, heb i neb ohonyn nhw fod yn anweledig;
  • bod pob plentyn yn derbyn addysg addas a’u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch; a
  • bod pob plentyn yn cael eu gweld a bod eu barn a’u profiadau’n cael eu gwrando.

Felly, mae agwedd ddiogelu ar ddatblygu cynigion Llywodraeth Cymru, er bod y canllawiau statudol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn canolbwyntio'n bennaf ar yr hawl i addysg addas. Bu nifer o gamau ar hyd y ffordd i'r sefyllfa hon.

Ar ôl penderfynu yn 2014 yn erbyn cynllun cofrestru a monitro gorfodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau anstatudol i awdurdodau lleol yn 2017. Fodd bynnag, yn 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wedi hynny ei bwriad i gyhoeddi canllawiau statudol, a gwneud rheoliadau sy’n galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata o blant nad ydynt ar unrhyw gofrestr ysgol neu addysg awdurdod lleol.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, na fyddai’r cynigion yn newid hawl rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref, ond bod:

y Llywodraeth dan ddyletswydd foesol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas, a bod disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu ar eu dyletswyddau cyfreithiol i ymyrryd pan nad yw plentyn yn derbyn addysg addas neu o bosib yn cael ei esgeuluso.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnig hyd yma?

Mae pedair elfen i gynigion blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref:

  • canllawiau statudol i awdurdodau lleol (yr ymgynghorwyd arnynt yn 2019 ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023);
  • llawlyfr sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni sy'n addysgu yn y cartref (yr ymgynghorwyd arno yn 2019);
  • rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal cronfa ddata i’w cynorthwyo i nodi plant nad ydynt ar gofrestr addysg nac ysgol unrhyw awdurdod lleol, ac nad ydynt yn cael addysg addas (yr ymgynghorwyd arnynt yn 2020); a
  • rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ysgolion annibynnol rannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol am blant/dysgwyr (yr ymgynghorwyd arnynt yn 2020).

Oedi cyn bwrw ymlaen â'r cynigion

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2020 oherwydd effaith y pandemig COVID-19 ar ei hadnoddau, na fyddai’n gallu cwblhau ei gwaith arfaethedig ar y canllawiau, y llawlyfr a’r rheoliadau cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.

Yn bryderus ynghylch diffyg gweithredu a brys canfyddedig, defnyddiodd Sally Holland, y Comisiynydd Plant ar y pryd, ei phwerau statudol i adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Roedd ei hadroddiad yn 2021 yn mynegi siom “na chyflawnwyd newid sylweddol” ac y byddai’r mater yn “symud ymlaen i drydydd tymor olynol y Llywodraeth”. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru er nad oedd yn gallu gwneud ymrwymiad ar gyfer llywodraeth yn y dyfodol, ei bwriad o hyd oedd gweithredu'r diwygiadau.

Mae olynydd Sally Holland fel y Comisiynydd Plant, sef Rocio Cifuentes, wedi parhau i amlygu addysg yn y cartref fel maes â blaenoriaeth.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog cyfredol y Gymraeg ac Addysg, wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ym mis Mai 2022 y byddai’r cynigion yn cael eu datblygu yn hydref 2022, ac yn dod i rym ym mis Ebrill 2023. Yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau statudol ond absenoldeb unrhyw amserlen ar gyfer y rheoliadau, yn y datganiad cysylltiedig, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog eto yn gofyn am fanylion.

Gwrthwynebiad i'r cynigion

Roedd yr ymgynghoriad ar y llawlyfr a’r canllawiau statudol drafft, ac ar y ddwy set o reoliadau drafft, yn dangos bod peth gwrthwynebiad i'r cynigion. Roedd llythyr gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru at y Senedd ym mis Chwefror 2023 yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch rhai o’r pryderon hyn. Ymhlith y pwyntiau o wrthwynebiad mae’r hyn y mae rhai addysgwyr yn y cartref yn ei weld fel rhagdybiaeth bod angen i blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn benodol gael eu 'diogelu', ac a oes angen i awdurdod lleol weld plentyn i benderfynu a yw’n cael addysg addas.

Dywed canllawiau statudol Llywodraeth Cymru “n[a]d yw penderfyniad rhiant i addysgu yn y cartref ynddo'i hun yn destun pryder am ddiogelwch a llesiant plentyn”. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi, os yw’n ymddangos bod diffyg addysg addas yn debygol o amharu ar ddatblygiad plentyn, y dylai awdurdodau lleol fod yn barod i “arfer eu pwerau a'u dyletswyddau diogelu yn llawn er mwyn diogelu llesiant plentyn”.

Mae’r canllawiau hefyd yn dweud “n[a]d yw'n afresymol gofyn i rieni am eu dull gweithredu a’r addysg sy’n cael ei darparu ganddynt”. Dylai’r awdurdod lleol “weld a chyfathrebu” â’r plentyn gan y bydd fel arall yn “anodd i awdurdod lleol asesu addasrwydd yr addysg yn rhesymol a gwybod a yw tystiolaeth am addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhiant yn ymwneud â'r plentyn hwnnw”.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cyhoeddi’r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol fis diwethaf, bydd Jeremy Miles yn gwneud datganiad ar y pwnc yn y Senedd ddydd Mawrth, 6 Mehefin. Efallai y byddai disgwyl iddo roi manylion am y camau nesaf wrth gyhoeddi’r llawlyfr i addysgwyr yn y cartref, a gwneud rheoliadau ynghylch cronfa ddata o blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref.

Gallwch wylio’r trafodion ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.


Erthygl gan Michael Dauncey Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru