Setliad Llywodraeth Leol: Disgwylir i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau lleol gynyddu 3.8 y cant dros dro.

Cyhoeddwyd 12/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2021   |   Amser darllen munudau

Disgwylir i gyllid o ddydd i ddydd awdurdodau lleol, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gynyddu 3.8 y cant (mewn termau arian parod) dros dro yn 2021-22. Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yn cael cyfran o £4.7bn yn 2021-22, sef cynnydd o £171.9m o gymharu â 2020-21 (ar ôl addasiadau).

Cyllid y flwyddyn nesaf

Cyhoeddwyd Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2021-22 (y Setliad) ychydig cyn y Nadolig, ddiwrnod ar ôl Cyllideb Ddrafft 2021-22 Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Leol ac Iechyd yn cyfrif am bron 70 y cant o gyfanswm y cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi croesawu’r setliad. Fodd bynnag, amlinellodd (PDF, 268KB) CLlLC hefyd fod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau sylfaenol yn 2021-22 sy’n cyfateb i £279m, oherwydd pethau fel costau gweithlu, newidiadau demograffig a chwyddiant.

Mae’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, y cyfeirir ato fel Cyllid Allanol Cyfun, yn cynnwys dwy ran – cyllid refeniw cyffredinol trwy’r Grant Cymorth Refeniw ac Ardrethi Annomestig. Bydd effaith y pandemig a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi ‘lluosydd’ ardrethi annomestig ar gyfer 2021-22 yn arwain at gyllid ardrethi annomestig is na’r hyn y gellid bod wedi’i ragweld cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod hyn yn cael ei wrthbwyso gan godiadau i’r Grant Cymorth Refeniw.

Faint fydd pob awdurdod lleol yn ei gael?

Bydd pob awdurdod lleol unigol yn gweld cynnydd mewn gwariant o ddydd i ddydd y flwyddyn nesaf, yn amrywio o 2.0 y cant yng Ngheredigion i 5.6 y cant yng Nghasnewydd.

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad o’r cynnydd.

Newid mewn Cyllid Allanol Cyfun, wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau

Graff yn dangos y 22 awdurdod lleol yn ôl newid canrannol mewn Cyllid Allanol Cyfun, gan gymharu 2020-21 a 2021-22. Ceredigion sydd â’r cynnydd lleiaf, sef 2.0 y cant. Casnewydd sydd â’r cynnydd mwyaf, sef 5.6 y cant.

Mae cyllid yn seiliedig ar fformiwla Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys nifer o ffactorau, gan adlewyrchu’n fras y gwasanaethau a gynigir gan awdurdodau lleol.

Manylir ar y cyfrifiadau sylfaenol yn Llyfr Gwyrdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir bob blwyddyn. Ar adeg paratoi’r erthygl hon, y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael yw Setliad 2020-21 (Awst 2020). Mae’n annhebygol y bydd y cyfrifiadau ar gyfer y dyraniadau ar gyfer 2021-22 yn cael eu rhyddhau tan yr hydref nesaf.

Yn ogystal â gwariant o ddydd i ddydd, mae’r Setliad Dros Dro yn amlinellu cyllid cyfalaf cyffredinol – sydd wedi'i bennu ar £198m – ac sy’n rhoi syniad o’r grantiau penodol sydd ar gael yn ystod y flwyddyn (e.e. y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Cymorth Tai, ymhlith eraill); £1.0bn ar gyfer refeniw a £724.0m ar gyfer cyfalaf.

Cyllid COVID-19

Mae’r Setliad yn darparu cyllid ar gyfer y gwasanaethau o ddydd i ddydd a gynigir gan awdurdodau lleol, ond nid yw’n cynnwys cyllid penodol ar gyfer COVID-19 (er bod rhai grantiau sy’n gysylltiedig â COVID-19 wedi’u hamlinellu).

Cadarnhaodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei datganiad y bydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â’r pandemig yn cael ei ystyried ar wahân. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffordd y dyrannwyd cyllid yn 2020-21, gyda dyraniadau’n ymwneud â'r pandemig yn cael eu gwneud i awdurdodau lleol yn bennaf drwy’r ‘Gronfa Galedi i Awdurdodau Lleol’.

Ar adeg ei Chyllideb Ddrafft, nododd Llywodraeth Cymru ei bod wedi derbyn £766m yn Adolygiad o Wariant y DU mewn cyllid canlyniadol ar gyfer 2021-22 o ganlyniad i gyhoeddiadau gwariant cysylltiedig â COVID-19 yn Lloegr mewn meysydd datganoledig. Fodd bynnag, dim ond £77m yn y maes hwn y mae Cyllideb Ddrafft 2021-22 yn ei ddyrannu, ac fe ddyrannwyd £23.3m ohono ar gyfer cymorth ariannol brys i lywodraeth leol.

Yn yr Ail Gyllideb Atodol ym mis Hydref 2020, dyrannodd Llywodraeth Cymru bron i £500m mewn cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol, dros 10 y cant o gyfanswm y cyllid refeniw a ddarparwyd ar ddechrau’r flwyddyn.

Rhewi Cyflogau’r Sector Cyhoeddus

Yn yr ‘Adolygiad o Wariant 2020’, cyhoeddodd y Canghellor fod rhai meysydd penodol o gyflogau’r sector cyhoeddus yn rhewi (tra’n amlinellu cynnydd mewn meysydd eraill, fel nyrsio). Er bod rhai o’r meysydd hynny wedi’u datganoli, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnwys codiad cyflog yn ei chyfrifiadau ar gyfer Setliad 2021-22. Awgrymodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bydd angen cynnwys unrhyw ddyfarniadau cyflog o fewn cyllidebau awdurdodau lleol.

Beth nesaf?

Dim ond y Setliad Dros Dro yw hwn. Roedd cyhoeddi’r Setliad yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori saith wythnos a ddaw i ben ar 9 Chwefror. Yn dilyn hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Terfynol, a fydd yn cadarnhau’r hyn y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn. Mae awdurdodau lleol hefyd yn y broses o bennu eu cyllidebau ar gyfer 2021-22, gan gynnwys lefelau treth gyngor.

Er bod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn nodi na all warantu na fydd unrhyw newidiadau i’r Setliad, dywed nad oes ganddi unrhyw fwriad i wneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ‘fethodoleg na’r data sy’n sail i ddosbarthu’r Setliad hwn’. Yn dilyn hynny, awgrymodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’r Pwyllgor Cyllid (8 Ionawr) y byddai’n sicr yn edrych a fydd angen gwneud dyraniadau pellach mewn perthynas ag iechyd a llywodraeth leol yn benodol, wrth inni symud ymlaen tuag at y gyllideb derfynol.

Mae’r Senedd wrthi’n craffu ar y Gyllideb Ddrafft. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Pwyllgorau’r Senedd yw 4 Chwefror a bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror. Bydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn casglu tystiolaeth gan CLlLC ddydd Mercher 13 Ionawr am 10:10am. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd.TV.


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru