Setliad datganoli newydd

Cyhoeddwyd 02/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Mehefin 2016 Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

A oes gan Gymru y pwerau angenrheidiol i wneud cyfreithiau effeithiol?

Disgwylir Bil Cymru newydd gan San Steffan cyn toriad yr haf, ac felly bydd y cwestiwn o ba bwerau y dylid eu datganoli i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn uchel ar agenda'r Pumed Cynulliad. Gwelwyd, wrth graffu ar Fil Cymru drafft yn y Pedwerydd Cynulliad, bod llawer o anghytuno ynglŷn â ffurf setliad datganoli newydd. Bydd angen i Fil Cymru newydd ddarparu setliad sy'n glir ac ymarferol ac sy'n cael ei gefnogi yng Nghymru a San Steffan. Bil Cymru draft Bu llawer o drafod yn y Pedwerydd Cynulliad (wedi'i ysgogi yn rhannol gan refferendwm annibyniaeth yr Alban) ynghylch diffygion y setliad datganoli presennol a sut y gellid ei wella. Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Cymru drafft a oedd yn cyflwyno fframwaith datganoli newydd, fel testun ymgynghori. Y bwriad oedd creu setliad parhaol a fyddai'n golygu bod pwerau Cymru yn fwy eglur a phendant. Un o nodweddion allweddol y Bil drafft oedd model datganoli newydd ar sail 'cadw pwerau yn ôl'. Mae'r model hwn yn nodi'n glir pa feysydd pwnc sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Roedd ail adroddiad Comisiwn Silk (2014) ar ddatganoli yng Nghymru yn argymell y dylid mabwysiadu model o'r fath, a daeth i'r casgliad y byddai'n gliriach ac yn symlach i'w weinyddu na'r trefniant presennol. Byddai hefyd yn helpu i atal rhagor o achosion o gyfeirio deddfwriaeth y Cynulliad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad ynglŷn â chymhwysedd, fel sydd wedi digwydd dair gwaith ers i'r Cynulliad gael pwerau deddfu llawn yn 2011. Craffwyd ar Fil Cymru drafft yn y Senedd a'r Cynulliad. Croesawodd rhanddeiliaid rai o'i ddarpariaethau, ond denodd rhannau eraill gryn feirniadaeth. Er enghraifft:
  • roedd y Bil drafft yn cynnwys rhestr faith o faterion a gadwyd yn ôl i Senedd y DU;
  • roedd yn creu profion newydd a fyddai'n pennu a oedd deddfwriaeth newydd Cymru o fewn cymhwysedd y Cynulliad; ac
  • roedd yn ymestyn yr amgylchiadau pryd y byddai angen cydsyniad gweinidog y DU ar gyfer rhai agweddau ar ddeddfwriaeth y Cynulliad.

Model cadw pwerau yn ôl

O dan y model datganoli 'cadw pwerau yn ôl', nodir mewn deddfwriaeth pa bwerau sy'n cael eu cadw gan Lywodraeth y DU, a chaiff yr holl bwerau eraill eu datganoli i'r Cynulliad. Ar hyn o bryd, mae'r pwerau a ddatganolwyd i Gymru wedi'u rhestru o dan 20 pennawd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y farn gyffredin yw bod y model cadw pwerau yn ôl, a ddefnyddir yn yr Alban, yn symlach ac yn fwy eglur

Beirniadaeth o Fil Cymru drafft Awgrymodd arbenigwyr cyfreithiol fod y Bil drafft yn 'gam yn ôl' o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, yn enwedig o ystyried y 'profion angenrheidrwydd' newydd y byddai'n rhaid eu defnyddio ar gyfer unrhyw ddeddfwriaeth y Cynulliad pe byddai'n effeithio ar Loegr, yn addasu'r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl, neu'n addasu cyfraith breifat neu droseddol. Barnwyd bod y rhain yn rhoi cyfyngiadau gormodol a diangen ar allu'r Cynulliad i wneud deddfwriaeth effeithiol i Gymru. Daeth Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad i'r casgliad nad oedd y Bil drafft yn cydymffurfio ag egwyddorion sybsidiaredd, eglurder, symlrwydd ac ymarferoldeb a ddylai, ym marn y Pwyllgor, fod yn sail i setliad datganoli newydd. Argymhellodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried oedi cyn cyflwyno'r Bil ac ailystyried y rhestr o gymalau cadw a'r profion cymhwysedd. Gwelwyd amrywiaeth barn hefyd ynghylch mater cyfansoddiadol arall, sef yr angen neu beidio i Gymru ddatblygu awdurdodaeth benodol neu ar wahân ar gyfer y corff cynyddol o gyfraith Gymreig (gweler yr erthygl ar awdurdodaeth benodol). Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, 'saib' yn y broses o ddatblygu'r ddeddfwriaeth a gohiriodd y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r Bil terfynol. Bydd nawr yn cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, 2016 ar y cynharaf. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru, a oedd wedi dadlau dros lai o gymalau cadw a phrofion cymhwysedd, wedi cyhoeddi ei fersiwn ei hun o'r Bil sydd, ym marn y Llywodraeth, yn gosod setliad tecach a mwy eglur. Beth i chwilio amdano mewn Bil Cymru newydd Croesawyd rhai agweddau ar y Bil drafft yn gyffredinol, ac mae'n debygol y byddai'r rhain yn dal i gael eu cynnwys mewn fersiwn wedi'i hailddrafftio. Roedd y rhain yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau parhaol o dan y gyfraith, ac ar gyfer datganoli pwerau sylweddol i'r Cynulliad dros ei swyddogaethau a'r dull o gynnal etholiadau'r Cynulliad. Mae'r olaf yn cynnwys pwerau i benderfynu ar yr etholfraint; y system etholiadol; nifer a maint etholaethau'r Cynulliad; a nifer yr Aelodau Cynulliad. Roedd y Bil drafft hefyd yn rhoi i'r Cynulliad gymhwysedd ychwanegol mewn meysydd fel ynni, trafnidiaeth a llywodraeth leol, ac roedd yn pennu'r trefniadau ar gyfer sut y mae'r Cynulliad yn cymeradwyo deddfwriaeth San Steffan sy'n effeithio ar faterion a ddatganolwyd i Gymru (y "confensiwn Sewell"). Roedd y materion hyn yn gymharol annadleuol. Yn ei ddatganiad ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd ei fwriad i gael gwared ar y 'profion angenrheidrwydd', lleihau nifer y cymalau cadw, ac ailedrych ar y gofynion ar gyfer cydsyniad gweinidogion. Felly, mae newidiadau arwyddocaol yn debygol o gael eu gwneud yn y meysydd hyn, a bydd y gwaith o graffu ar y Bil newydd yn canolbwyntio ar y darpariaethau hyn ac ar y rhai sy'n ymddangos fel pe baent yn ein rhwystro rhag symud tuag at setliad clir ac ymarferol i Gymru. Bydd pawb nawr â llygaid barcud ar Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, wrth iddo baratoi i gyflwyno Bil Cymru diwygiedig. Y Bil fydd y sail ar gyfer cam nesaf y broses ddatganoli yng Nghymru ac mae'n sicr o gael sylw manwl yng Nghymru ac yn San Steffan. Ffynonellau allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg