Seminar Cyfnewid Syniadau: Pa rôl fydd gan ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol?

Cyhoeddwyd 04/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Iau 13 Gorffennaf 2017, bydd y Gwasanaeth Ymchwil a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal Seminar Cyfnewid Syniadau ar rôl ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Jenny Rathbone AC, aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ynni Cynaliadwy.

Cynhelir y seminar, sydd ar agor i'r cyhoedd ac yn ddi-dâl, yn y Brif Neuadd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd rhwng 12:00 a 13:30. Ewch i dudalen Eventbrite i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.

Ynni adnewyddadwy a symud tuag at ddyfodol ynni clyfrach a diogelach, sy'n isel o ran carbon.

Cyhoeddodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ei adroddiad, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru, ym mis Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at yr angen am weledigaeth strategol a chydlynus ar gyfer ynni yng Nghymru ac am ymagwedd gyfannol at bolisi lle mae anghenion ynni Cymru yn cael eu hystyried yn yr holl ddatblygiadau polisi. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Cymru:

ddiwallu ei holl anghenion ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy ac, yng nghyd-destun yr angen i dorri o leiaf 80% ar ei hallyriadau carbon erbyn 2050, gosod dyddiad targed ar gyfer cyflawni hyn.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn ei hymateb i'r adroddiad (PDF 267KB), gan nodi y bydd yn “modelu’r costau a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â diwallu anghenion ynni Cymru fwy llewyrchus ac effeithlon o ffynonellau adnewyddadwy yn unig.”

Yn ei Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen, ymrwymodd Llywodraeth Cymru y byddai'n “cefnogi datblygiad mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys môr-lynnoedd llanw a chynlluniau ynni cymunedol”. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi amlinellu blaenoriaethau ynni Llywodraeth Cymru mewn datganiad llafar ar 6 Rhagfyr 2016. O ran lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, amlinellodd bwriad Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar newid i ddyfodol ynni carbon isel drwy amrywiaeth o dechnolegau gwahanol (gan gynnwys niwclear) ar draws ystod o raddfeydd, o gynlluniau cymunedol i brosiectau mawr.

Pa agwedd ar bolisi ynni a drafodir yn y seminar?

Yng nghyd-destun yr angen am ddatgarboneiddio'r system ynni a lleihau allyriadau carbon o leiaf 80% erbyn 2050, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, bydd y seminar yn ystyried pa mor bosibl yw diwallu holl anghenion ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy, a beth yw'r heriau o wneud hynny. Mae'r prif gwestiynau a fydd yn cael sylw ar y diwrnod yn cynnwys:

  • Pa mor uchelgeisiol y dylai Llywodraeth Cymru fod o ran diffinio rôl ffynonellau adnewyddadwy yng nghyfuniad ynni Cymru yn y dyfodol;
  • Beth yw’r prif heriau y mae’r sector yn eu hwynebu ac a oes angen mwy o sicrwydd ynghylch cyllid a pholisi;
  • A oes achos i ffynonellau ynni amgen (e.e. adweithyddion niwclear modiwlar bach a/neu nwyon anghonfensiynol) chwarae eu rhan yng nghyfuniad ynni Cymru yn y dyfodol;
  • A oes angen gwneud unrhyw newidiadau i rwydweithiau dosbarthu a chyflenwi cyfredol er mwyn cyfateb y cyflenwad a’r galw.

Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hystyried yng nghyd-destun yr arweinyddiaeth fydd ei hangen gan y llywodraeth i drawsnewid i ddyfodol carbon isel.

Pwy fydd yn siarad yn y seminar?

Y siaradwyr, yn eu trefn, fydd: Mae gan y Dr Nina Skorupska CBE dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y Diwydiant Ynni. Ymunodd â'r Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy ym mis Gorffennaf 2013 yn Brif Weithredwr a dyfarnwyd iddi fedal Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2016 am ei chyfraniad i Ynni Adnewyddadwy a Chydraddoldeb mewn Ynni. Dywed:

Mae'r diwydiant [adnewyddadwy] yn newid yn radical. Rydym yn gweld newid sylfaenol mewn busnesau a thechnoleg. Mae chwaraewyr newydd fel busnesau corfforaethol a llywodraeth leol bellach yn hyrwyddo modelau ynni carbon isel eithaf radical, ac yn cael eu hybu gan y posibilrwydd o leihau costau a datblygu ynni clyfar.
Ategir hyn oll gan ostyngiad mewn costau technoleg a mwy o fuddsoddi. Ynni adnewyddadwy a thechnoleg glân yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.

Yr Athro Max Munday yw Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys economeg ranbarthol, economeg twristiaeth, a pholisi rhanbarthol. Dywed:

Gallai Dyfodol Ynni Doethach yng Nghymru weithio i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl a chwmnïau lleol, gan roi mwy o ystyriaeth i sut y mae gwahanol dechnolegau adnewyddadwy yn gweithio i gefnogi gweithgarwch economaidd lleol. Mae hefyd heriau i ymdrin â hwy o ran sut y gall meysydd cynllunio a pholisi weithio i annog modelau perchnogaeth a chyllido gwahanol ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth.

Yr Athro Hywel Thomas yw Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o brif ymchwilwyr Prosiect FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys materion geo-amgylcheddol a'r maes geo-ynni. Dywed:

Mae FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg) yn dwyn ynghyd arbenigedd o brifysgolion Cymru i hwyluso'r broses o symud i ddyfodol ynni isel sy'n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gymdeithasol dderbyniol. Bydd y prosiect pum mlynedd yn edrych ar ddatrys cyfres amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol o heriau, sy'n amrywio o storio ynni, i ddatgarboneiddio a thlodi tanwydd.

Mae’r Athro Andrew Barron yn un o Gadeiryddion Sêr Cymru mewn Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cymhwyso nanodechnoleg i broblemau sylfaenol mewn ymchwil ynni. Ef hefyd yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni. Dywed:

Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo amrywiaeth o ynni yn y dyfodol sy'n ymgorffori ynni adnewyddadwy yn yr ystyr ehangaf a mwyaf creadigol bosibl. Mae angen i Gymru fod mewn sefyllfa i gyflawni'r nod hwn drwy ddarganfod a gweithredu technoleg newydd ar gyfer dyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel.
Wrth anelu at ddyfodol adnewyddadwy, bydd Cymru yn cefnu ar sicrwydd y pŵer a gynhyrchwyd yn y cyfnod ar ôl y chwyldro diwydiannol ac yn dychwelyd at amrywioldeb y ffynonellau o bŵer a oedd yn bod cyn y chwyldro diwydiannol.

Gweler llyfryn y digwyddiad (PDF, 2.27MB) am fywgraffiadau manylach a datganiadau ar gyfer y seminar.

 diddordeb ond yn methu ag ymuno â ni ar y diwrnod?

Rydym yn awyddus i glywed pa gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'n siaradwyr polisi ynni. Gallwch anfon y rhain ymlaen llaw drwy'r e-bost at: CyfnewidSyniadau@cynulliad.cymru neu ar Twitter gan ddefnyddio #CyfnewidSyniadau @SeneddYmchwil.

Byddwn yn cyhoeddi fideo o'r seminar ar wefan y Cynulliad ar ôl y digwyddiad.

Hwn fydd ein trydydd digwyddiad yn y gyfres o Seminarau Cyfnewid Syniadau. Gwyliwch ein clipiau o gyfweliadau gyda siaradwyr #CyfnewidSyniadau o'r seminar flaenorol ynghylch Tyfu ac amrywio cymdeithas sifil yng Nghymru am gipolwg ar yr hyn sydd i'w ddisgwyl yn y digwyddiad.


Erthygl gan Sean Evans a Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Seminar Cyfnewid Syniadau: Pa rôl fydd gan ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol? (PDF, 217KB)