Sectorau Blaenoriaeth - golwg fanylach

Cyhoeddwyd 04/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

4 Hydref 2013 Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei gweithgareddau cefnogi busnes ar y naw sector a ganlyn, sef y rhai a nodwyd fel y rhai allweddol, neu sydd â'r potensial i fod yn rhai allweddol, ar gyfer economi Cymru:
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Adeiladu
  • Y diwydiannau creadigol
  • Ynni a'r amgylchedd
  • Bwyd a Ffermio
  • Gwasanaethau proffesiynol a chyllid
  • TGCh
  • Gwyddorau Bywyd
  • Twristiaeth
Wrth i'r gyllideb ddrafft ddynesu, mae'n werth edrych o'r newydd ar yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst, ynghylch cyfansoddiad a pherfformiad y sectorau. Roedd dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r data yn tynnu sylw at nifer o ganfyddiadau allweddol, gan gynnwys:
  • Roedd bron i 60,000 o fusnesau yng Nghymru mewn sector blaenoriaeth yn 2012, sef ychydig o dan ddwy ran o dair o fusnesau yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW neu PAYE.
  • Roedd y 542,000 o bobl a gyflogwyd yn y sectorau blaenoriaeth yn 2012 yn cyfrif am 43 y cant o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru.
  • Yr awdurdod lleol gyda'r gyfran uchaf o gyflogaeth yn y sectorau blaenoriaeth yn 2012 oedd Sir y Fflint (55 y cant), a'r isaf oedd Conwy, Ceredigion a Merthyr Tudful (37 y cant i gyd)
  • Y sector blaenoriaeth gyda'r nifer uchaf o swyddi cyflogeion yn 2011 oedd y sector  Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid (gyda 135,000). Y sector gyda'r isaf oedd Gwyddorau Bywyd (gyda 9,200).
  • Yn 2011, roedd y gwerth ychwanegol crynswth (GYC) fesul awr a weithiwyd (ffordd o fesur cynhyrchiant) yn uwch yn y sectorau blaenoriaeth nac yn y sectorau eraill (£27 o'i gymharu â £20). Y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid oedd â'r GYC uchaf fesul awr a weithiwyd (£45) a'r Diwydiannau Creadigol oedd â'r isaf (£10).
  • Roedd enillion wythnosol cymedrig gros amser llawn cyflogeion yn y sectorau blaenoriaeth ychydig yn uwch na'r rhai yn y sectorau eraill yn 2012 (£524 o'i gymharu â £518).
Ynghyd â'i dadansoddiad ei hun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddata cynhwysfawr sy'n dangos:
  • Yn 2011, cyfrannodd y sectorau blaenoriaeth 55 y cant o gyfanswm y GYC yng Nghymru.
  • Yn 2011, roedd y GYC fesul awr a weithiwyd yn y sectorau blaenoriaeth yng Nghymru yn £27, sef 76 y cant o'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU.
  • Er mai yn y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid yr oedd y GYC uchaf fesul awr a weithiwyd yng Nghymru yn 2011 (£45), dim ond 78 y cant o'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU oedd hyn.
  • Nid yw'n ymddangos bod unrhyw dangynrychiolaeth sylweddol yn y sectorau blaenoriaeth o ran ystyried proffil y rhai mewn cyflogaeth ar sail anabledd, ethnigrwydd neu oedran.
  • Yn 2012, roedd dynion yn cynrychioli 52 y cant a menywod yn cynrychioli 48 y cant o gyfanswm nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd cryn wahaniaeth rhwng y rhywiau mewn cyflogaeth yn y sectorau blaenoriaeth yng Nghymru - roedd 68 y cant yn ddynion a 32 y cant yn fenywod.
  • Gwnaeth dau sector blaenoriaeth yng Nghymru yn well na'r cyfartaledd ar gyfer y DU yn 2011 o ran GYC fesul awr a weithiwyd, sef deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch (20 y cant yn uwch yng Nghymru) a TGCh (4 y cant yn uwch yng Nghymru). Ceir manylion pellach yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Cynhyrchiant Cymharol Sectorau Blaenoriaeth yng Nghymru, 2011 (DU=100)Sectors graph Cymraeg Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau'r sector blaenoriaeth, 2012 Erthygl gan Ben Stokes