Cyhoeddwyd 04/10/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
4 Hydref 2013
Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei gweithgareddau cefnogi busnes ar y
naw sector a ganlyn, sef y rhai a nodwyd fel y rhai allweddol, neu sydd â'r potensial i fod yn rhai allweddol, ar gyfer economi Cymru:
- Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
- Adeiladu
- Y diwydiannau creadigol
- Ynni a'r amgylchedd
- Bwyd a Ffermio
- Gwasanaethau proffesiynol a chyllid
- TGCh
- Gwyddorau Bywyd
- Twristiaeth
Wrth i'r gyllideb ddrafft ddynesu, mae'n werth edrych o'r newydd ar yr
ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst, ynghylch cyfansoddiad a pherfformiad y sectorau. Roedd dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r data yn tynnu sylw at nifer o ganfyddiadau allweddol, gan gynnwys:
- Roedd bron i 60,000 o fusnesau yng Nghymru mewn sector blaenoriaeth yn 2012, sef ychydig o dan ddwy ran o dair o fusnesau yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW neu PAYE.
- Roedd y 542,000 o bobl a gyflogwyd yn y sectorau blaenoriaeth yn 2012 yn cyfrif am 43 y cant o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru.
- Yr awdurdod lleol gyda'r gyfran uchaf o gyflogaeth yn y sectorau blaenoriaeth yn 2012 oedd Sir y Fflint (55 y cant), a'r isaf oedd Conwy, Ceredigion a Merthyr Tudful (37 y cant i gyd)
- Y sector blaenoriaeth gyda'r nifer uchaf o swyddi cyflogeion yn 2011 oedd y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid (gyda 135,000). Y sector gyda'r isaf oedd Gwyddorau Bywyd (gyda 9,200).
- Yn 2011, roedd y gwerth ychwanegol crynswth (GYC) fesul awr a weithiwyd (ffordd o fesur cynhyrchiant) yn uwch yn y sectorau blaenoriaeth nac yn y sectorau eraill (£27 o'i gymharu â £20). Y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid oedd â'r GYC uchaf fesul awr a weithiwyd (£45) a'r Diwydiannau Creadigol oedd â'r isaf (£10).
- Roedd enillion wythnosol cymedrig gros amser llawn cyflogeion yn y sectorau blaenoriaeth ychydig yn uwch na'r rhai yn y sectorau eraill yn 2012 (£524 o'i gymharu â £518).
Ynghyd â'i dadansoddiad ei hun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddata cynhwysfawr sy'n dangos:
- Yn 2011, cyfrannodd y sectorau blaenoriaeth 55 y cant o gyfanswm y GYC yng Nghymru.
- Yn 2011, roedd y GYC fesul awr a weithiwyd yn y sectorau blaenoriaeth yng Nghymru yn £27, sef 76 y cant o'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU.
- Er mai yn y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid yr oedd y GYC uchaf fesul awr a weithiwyd yng Nghymru yn 2011 (£45), dim ond 78 y cant o'r ffigur cyfatebol ar gyfer y DU oedd hyn.
- Nid yw'n ymddangos bod unrhyw dangynrychiolaeth sylweddol yn y sectorau blaenoriaeth o ran ystyried proffil y rhai mewn cyflogaeth ar sail anabledd, ethnigrwydd neu oedran.
- Yn 2012, roedd dynion yn cynrychioli 52 y cant a menywod yn cynrychioli 48 y cant o gyfanswm nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd cryn wahaniaeth rhwng y rhywiau mewn cyflogaeth yn y sectorau blaenoriaeth yng Nghymru - roedd 68 y cant yn ddynion a 32 y cant yn fenywod.
- Gwnaeth dau sector blaenoriaeth yng Nghymru yn well na'r cyfartaledd ar gyfer y DU yn 2011 o ran GYC fesul awr a weithiwyd, sef deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch (20 y cant yn uwch yng Nghymru) a TGCh (4 y cant yn uwch yng Nghymru). Ceir manylion pellach yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Cynhyrchiant Cymharol Sectorau Blaenoriaeth yng Nghymru, 2011 (DU=100)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru,
Ystadegau'r sector blaenoriaeth, 2012
Erthygl gan
Ben Stokes