Baneri Cymru a'r UE

Baneri Cymru a'r UE

Rôl Cymru o ran cysylltiadau rhwng y DU a’r UE: cyfle i fyfyrio?

Cyhoeddwyd 19/02/2024   |   Amser darllen munud

Mae tair blynedd ers i'r DU a'r UE gytuno ar delerau eu perthynas yn y dyfodol yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Nid yw’r cyfnod hwn wedi bod yn sefydlog, gyda negodi a thrafod parhaus rhwng y ddwy ochr.

Mae’r DU a’r UE bellach yn obeithiol bod datblygiadau diweddar wedi symud y berthynas i le mwy cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys cytundeb ynghylch Fframwaith Windsor a chysylltiad y DU â Horizon Europe a rhaglenni ymchwil eraill yr UE.

Disgwylir adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu erbyn mis Mai 2026. Dywed Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd fod yr awyrgylch mwy cadarnhaol a’r cyfnod adolygu yn gyfle i Gymru nodi blaenoriaethau clir ar gyfer ei pherthynas â’r UE yn y dyfodol ac “na ddylid colli’r cyfle hwn”.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae’r Pwyllgor yn meddwl y dylai Cymru baratoi ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

Cyfle amserol

Dywed yr Athro Simon Usherwood, wrth i'r berthynas newydd ddechrau setlo a chael ei derbyn:

we’re now in a phase where there needs to be really active thought about how to best input Welsh priorities and preferences into that process. So at a point where the London Government has maybe tuned the page or a page, I think there are lots of opportunities for the Senedd and Wales.

Mae'r Pwyllgor yn cytuno ac yn dweud y dylai Cymru fod yn barod.

Mae angen i Gymru nodi blaenoriaethau clir

Nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth benodol ar gyfer yr UE nac Ewrop, mae ei Strategaeth Ryngwladol yn rhagddyddio Brexit.

Canfu’r Pwyllgor fod awydd clir yng Nghymru a’r UE i Lywodraeth Cymru nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Dywed rhanddeiliaid y byddai hyn yn caniatáu i sefydliadau ganolbwyntio adnoddau cyfyngedig o amgylch blaenoriaethau clir i Gymru. Dywed Tom Jones o Gymdeithas Gweithredu Gwirfoddol Cymru nad yw Cymru’n gallu “dod unwaith y flwyddyn a disgwyl cael dylanwad”. Dywed Dr Elin Royles y byddai strategaeth glir yn ei gwneud hi'n haws llywio safbwyntiau’r DU a’r UE ar feysydd o flaenoriaeth i Gymru.

Nododd y Prif Weinidog rai o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor ond gwrthododd alwadau am strategaeth benodol ynghylch yr UE.

Mae angen blaenoriaethau strategol a “gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol” yn ôl y Pwyllgor. Mae hyn yn adleisio galwadau a wnaed gan Bwyllgor Diwylliant a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn ei adroddiad blynyddol.

Dylid dechrau ymgysylltu ar unwaith â chymdeithas sifil ar flaenoriaethau strategol

Dywed y Pwyllgor fod cymdeithas sifil yng Nghymru, y DU a’r UE ‘yn chwarae rhan hanfodol bwysig’ yn y berthynas rhwng y DU a’r UE. Clywodd y Pwyllgor fod sefydliadau cymdeithas sifil ym Mrwsel a Gogledd Iwerddon wedi dod o hyd i atebion i rwystrau ymarferol a grëwyd gan y berthynas newydd ac wedi darparu'r dystiolaeth angenrheidiol i'r ddwy ochr gytuno ar newid.

Mae sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru a’r Senedd i gydgysylltu a chefnogi mewnbwn gan y sector yn well. Fe wnaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit alw ar Lywodraeth Cymru i gynnull grŵp cynghori newydd ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE. Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r alwad hon ac yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ymgysylltu ar unwaith gyda chymdeithas sifil ar ei blaenoriaethau ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Mae’n dweud y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi adnoddau priodol ar gyfer ymgysylltu rhwng cymdeithas sifil a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Mae angen i benderfyniadau fod yn dryloyw

Mae’r rhan fwyaf o’r penderfyniadau ynghylch sut mae cytundebau’r DU a’r UE yn gweithredu’n ymarferol yn digwydd o fewn strwythurau llywodraethu cymhleth heb fawr o graffu, os o gwbl, hyd nes bod penderfyniadau’n cael eu cyhoeddi. Dywed yr Athro Catherine Barnard fod strwythurau presennol y DU a’r UE mor dryloyw â 'blwch du'.

Mae'r Pwyllgor yn dweud bod angen gweithredu ar frys i wella tryloywder y strwythurau hyn, a hynny gan Lywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Dywed y bydd mwy o dryloywder yn rhoi cyfleoedd i randdeiliaid, seneddwyr a dinasyddion wybod beth sy'n digwydd a chael dweud eu dweud ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.

Dylai Cymru eiriol dros fwy o rôl o ran gwneud penderfyniadau

Mae’r Athro Elin Royles yn dweud bod rôl Llywodraeth Cymru o ran llunio safbwyntiau’r DU ar faterion y DU a’r UE wedi lleihau ers Brexit.

Dywedodd fod cyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi troi’n fannau lle y maent yn dadlau ynghylch pa rôl ddylai fod gan y llywodraethau o ran gwneud penderfyniadau yn hytrach na mannau i gytuno ar safbwyntiau ar feysydd polisi allweddol fel masnach. Dywed y Pwyllgor fod angen diwygio hyn ar fyrder.

Mae’r Athro Tobias Lock yn nodi bod sawl ffordd y gallai penderfyniadau y mae’r DU a’r UE yn eu gwneud gyfyngu ar bwerau Llywodraeth Cymru a'r Senedd. Dywed fod achos cryf i Gymru gael mwy o lais yn y penderfyniadau hyn.

Dywed y Pwyllgor y gall y llywodraethau datganoledig wneud cyfraniad cadarnhaol o ran llywio penderfyniadau’r DU ar faterion yr UE:

Mae gan bedair llywodraeth y DU eu harbenigedd a’u profiad eu hunain y gallant eu cynnig.

Dywed y byddai gwella ymgysylltiad yn golygu bod Llywodraeth y DU “mewn sefyllfa well” i gyflwyno’r safbwynt cryfaf posibl mewn trafodaethau â’r UE.

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan Bwyllgor y Rhanbarthau yr UE yn dangos bod ochr yr UE o blaid clywed lleisiau rhanbarthau ac awdurdodau lleol.

Mae’r Pwyllgor yn dweud y bydd ymgysylltu gwell â llywodraethau datganoledig, rhanbarthau yn yr UE ac awdurdodau lleol ar y ddwy ochr yn golygu bod y gwaith o weithredu yn fwy gwybodus, gan osgoi costau neu oedi diangen.

Dywed y Pwyllgor fod achos “cymhellol” dros fwy o rôl i Gymru wrth wneud penderfyniadau. Mae’n cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru i gynyddu ei rôl ac yn dweud y dylai barhau i gyflwyno’r achos dros lais cryfach i Gymru.

Bydd bod yn barod “yn hollbwysig”

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn darparu ar gyfer adolygiadau lluosog o’i ddarpariaethau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Mae cyfyngiad amser hefyd ar rannau o'r Cytundeb, a rhaid eu hailnegodi’n rheolaidd. Gydag adolygiad gweithredu ar y gweill cyn 2026, dywed y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru “fod yn barod” ac y bydd “datblygu safbwyntiau Cymru cyn y cerrig milltir hyn yn hollbwysig”.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion ynghylch sut y dylai Cymru baratoi. Bydd dadl wythnos nesaf ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r rhain, a’r hyn y bydd yn ei wneud nesaf. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV.

Waeth beth fydd ymateb y Llywodraeth, dywed Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor, y bydd yn 'mynd ati i ymgysylltu' â sefydliadau yng Nghymru, y DU a'r UE i fwrw ymlaen â'i argymhellion.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru