Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hail Gyllideb Atodol ar gyfer 2023-24 ar 20 Chwefror. Mae’r Ail Gyllideb Atodol yn nodi’r newidiadau ers y Gyllideb Atodol Gyntaf (Mehefin 2023) ac mae’n cynnwys newidiadau a nodwyd yn y Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fis Hydref diwethaf.
Mae'r 'Cyllidebau Atodol' hyn yn gyhoeddiadau cyllideb 'ychwanegol' yn ystod y flwyddyn. Maent yn nodi’r newidiadau i wariant a gynlluniwyd Llywodraeth Cymru y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer.
Pam y cyhoeddwyd diweddariad ariannol yr hydref diwethaf?
Ar y pryd, gwnaethom nodi'r manylion yn ein erthygl: Mantoli’r cyfrifon: diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 Llywodraeth Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2022 roedd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn nodi, gan fod chwyddiant yn sylweddol uwch na’r hyn a ragwelwyd, gallai’r setliad a gaiff gan Lywodraeth y DU fod yn werth “£1bn yn llai yn 2023-24 yn unig” mewn termau real o’i gymharu â’r amser a gafodd ei osod ar ei gyfer yn yr Adolygiad o Wariant yn 2021.
Yn sgil Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2023, disgrifiodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol setliad Cymru 2023-24 fel a ganlyn: “yn dal i fod hyd at £900m yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg yr adolygiad o wariant yn 2021”.
Mewn datganiad haf diwethaf, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai’r Cabinet yn gweithio dros yr haf i liniaru pwysau cyllidebol – gan arwain yn y pen draw at gyhoeddi’r Diweddariad Ariannol ym mis Hydref 2023.
Ar adeg y cyhoeddiad ym mis Hydref, dim ond y prif newidiadau a amlinellwyd, felly'r Ail Gyllideb Atodol hon yw'r cyfle cyntaf i'r Aelodau edrych ar y manylion.
Beth yw’r prif newidiadau ers y Gyllideb Atodol Gyntaf?
Mae’r Ail Gyllideb Atodol yn dangos cynnydd mewn refeniw ynghyd â chyfalaf o 1.2 y cant o £23.6 biliwn i £23.8 biliwn (Ffigur 1).
Ffigur 1: Newidiadau cyllidol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24
Mae'r prif newidiadau i'r cyllid sydd ar gael yn cynnwys cynnydd net yng nghyllideb Llywodraeth Cymru o £664.1 miliwn.
Mae hyn yn cynnwys cynnydd o £490.3 miliwn gan Lywodraeth y DU, ac o fewn hyn, mae £363.6 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett yn cael ei gynnwys.
Daw cynnydd net ychwanegol o £173.8 miliwn o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun, sy'n cynnwys:
- £199.1 miliwn wedi’i dynnu i lawr o Gronfa Wrth Gefn Cymru;
- Newid o gyfalaf cyffredinol o £18.6 miliwn;
- Gostyngiad o £43.9 miliwn oherwydd cario cyllid ymlaen i 2024-25 y tu allan i Gronfa Wrth Gefn Cymru.
Ni chyhoeddwyd unrhyw newidiadau ynghylch incwm treth datganoledig nac ad-daliadau prif fenthyciadau.
Bydd y rhan fwyaf o adrannau Llywodraeth Cymru yn gweld gostyngiad yn eu cyllid yn ystod y flwyddyn
Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n gweld gostyngiad mewn cyllid o'i gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf, gyda'r gostyngiad mwyaf o’r rhain ar gyfer y Gymraeg ac Addysg (gostyngiad o £340 miliwn neu 12.7 y cant o'i gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf).
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gweld y cynnydd mwyaf, sef £667 miliwn neu 6.1 y cant o'i gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf, gyda £425 miliwn ohono wedi'i gynnwys yn flaenorol yn y Diweddariad Ariannol ar gyfer 2023 ym mis Hydref.
Mae'r newidiadau mewn dyraniadau ar gyfer pob adran (neu Brif Grŵp Gwariant – MEG) yn cael eu crynhoi yn Ffigur 2.
Ffigur 2: Newidiadau yn refeniw y Terfynau Gwariant Adrannol yn yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2023-24, o'i gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24.
* Heb gynnwys tua £0.9 biliwn o incwm ardrethi annomestig.
** Yn cynnwys dyraniad o £226 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 i gael yr union ffigurau.
Mae'r Ail Gyllideb Atodol yn cynnwys £59 miliwn ychwanegol i adlewyrchu’r diffyg a ragwelir ar gyfer Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (neu ‘adran’). Dywed Llywodraeth Cymru:
Yn ôl y rhagolygon presennol gan gyrff y GIG, er bod gwelliannau sylweddol, gyda phedwar o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol yn rhagweld y byddant yn bodloni eu diffygion targed, bydd y lleill yn methu â chyrraedd y targedau a bennwyd ym mis Tachwedd… Gwneir y dyraniad hwn unwaith ar sail un tro ac fe gaiff ei ddal o fewn yr MEG yn hytrach na chael ei ddyrannu i sefydliadau nad ydynt yn bodloni diffygion targed.
Mae sawl maes gwariant o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael cyllid wedi’i ail-flaenoriaethu i gyfrannu at arbedion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys £26.8 miliwn o Gefnogi Plant a £16.2 miliwn o Bolisïau a Deddfwriaeth Cefnogi Iechyd Meddwl.
Gan ymateb i bryderon y Pwyllgor Cyllid i’r gostyngiad yn y llinell gyllideb Iechyd Meddwl, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud:
[…] as I understand it, it hasn’t resulted in cuts to front-line services, because that money had been allocated to the budget line, but hadn’t yet been identified for particular projects, which is why it was available for reprioritisation.
Bydd cynnydd hefyd o £96 miliwn (2.9 y cant) ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant Newid Hinsawdd, yn ogystal â'r £125 miliwn ychwanegol a ddarperir i Trafnidiaeth Cymru fel rhan o'r Diweddariad Ariannol ym mis Hydref 2023, y dywedodd y Gweinidog ar y pryd y byddai'n bodloni'r pwysau.
Yr unig adran arall i weld cynnydd yw Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd yn gweld cynnydd o £1 miliwn (0.9 y cant) o'i gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf.
Cyllideb ‘olaf’ Cymru ar gyfer 2023-24
Bydd yr Aelodau yn cynnal dadl ar yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2023-24 ar 13 Mawrth. Bydd yn gyfle i'r Aelodau graffu ar Lywodraeth Cymru a rhoi eu barn ar ba mor dda y mae cyllid wedi'i flaenoriaethu; dyma fydd y tro olaf i gyllideb gael ei chyhoeddi ar gyfer 2023-24.
Gallwch wylio hyn ar Senedd tv, darllen y trawsgrifiad ar ôl y cyfarfod neu ddilyn Ymchwil y Senedd ar X (Twitter gynt) i weld yr erthyglau diweddaraf yn trafod proses y gyllideb a mwy.
Erthygl gan Božo Lugonja and Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru