Mantoli’r cyfrifon: diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 23/10/2023   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 ar 17 Hydref 2023.

Mae’r diweddariad yn trafod sut mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei chynlluniau gwariant ar gyfer 2023-24. Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn sy’n wahanol o ganlyniad i’r diweddariad a’r cyd-destun o ran pam yr ailddyrannwyd y gwariant hyn.

Pam bod y diweddariad hwn yn digwydd nawr?

Ym mis Rhagfyr 2022 roedd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn nodi, gan fod chwyddiant yn sylweddol uwch na’r hyn a ragwelwyd, gallai setliad Llywodraeth Cymru fod yn werth “£1bn yn llai yn 2023-24 yn unig” mewn termau real. Cymharir hyn â phan osododd Llywodraeth y DU wariant yn yr Adolygiad o Wariant yn 2021.

Cyfradd chwyddiant prisiau defnyddwyr (CPI) oedd 4.2% ym mis Hydref 2021, cododd i uchafbwynt o 11.1% ym mis Hydref 2022 a disgynnodd i 6.7% ym mis Hydref 2023.

Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn ym mis Mawrth 2023, disgrifiodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fod setliad Cymru 2023-24 “yn dal i fod hyd at £900m yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg yr adolygiad o wariant yn 2021”. Mae hyn tua 4% o gyfanswm Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

Ers i’r Gyllideb Ddrafft hon gael ei chyhoeddi, cynigiwyd neu cytunwyd ar gytundebau cyflog i nifer o weithwyr y sector cyhoeddus sy’n fwy na’r disgwyliadau y cyllidebwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru.

Mewn datganiad ar 9 Awst, disgrifiodd y Prif Weinidog y sefyllfa fel y “sefyllfa ariannol fwyaf heriol yr ydym wedi ei hwynebu ers datganoli”, gan fynd ymlaen i gadarnhau y byddai’r Cabinet yn gweithio dros yr haf i liniaru pwysau cyllidebol.

Mae amseriad y cyhoeddiad a phryderon ynghylch toriadau i gyllidebau wedi achosi cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi cyllideb atodol i roi cyfle i’r Senedd weld y manylion a chraffu ar y newidiadau, hyd at Chwefror 2024 yn ôl pob tebyg.

Sut cyfrifwyd y diffyg o £900m?

Disgrifiodd y Gweinidog sut y cyfrifwyd y £900m gan ddefnyddio rhagolwg Mawrth 2023 y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer chwyddiant prisiau defnyddwyr (CPI) ac wedi'i gyfuno â'r CPI ers adolygiad gwariant 2021. Cymharwyd hyn â lefel chwyddiant a ddisgwyliwyd pan gyhoeddwyd adolygiad o wariant 2021. Felly, mae chwyddiant yn uwch na'r disgwyl, ac mae hynny wedi effeithio ar osod y cyllideb.

Lluniwyd y ffigur cyffredinol o £900m drwy gymhwyso’r ffigurau hynny i’r cyllidebau refeniw a chyfalaf.

Mewn ymateb i ddatganiad y Gweinidog, dywedodd Peter Fox AS:

Fe ddylai'r heriau sy'n wynebu'r gyllideb oherwydd ffactorau chwyddiant fod wedi cael eu rhagdybio ymhell o flaen llaw. Mae hi'n hanfodol fod cynllunio ymlaen llaw ac ystyriaethau o ran pethau annisgwyl yn flaenllaw yn ystyriaethau'r Llywodraeth yn gynharach o lawer.

Sut y paratowyd y diweddariad?

Cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid y “gofynnwyd i bob portffolio gweinidogol wneud cyfraniad er mwyn cwrdd â'r pwysau sy'n ein hwynebu ar sail drawslywodraethol”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, yn hytrach na rhoi'r gorau i raglenni'n gyfan gwbl, bod arbedion wedi'u gwneud drwy ail-ragamcanu (oherwydd newidiadau yn y galw neu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau), cynyddu incwm ac ailflaenoriaethu gweithgareddau.

I gyflawni hyn, dywed Llywodraeth Cymru fod Gweinidogion wedi:

  • manteisio i'r eithaf ar gronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn Cymru (hyd at £100 miliwn)
  • cynllunio ar sail defnyddio symiau canlyniadol a ddisgwylir oddi wrth Lywodraeth y DU o ganlyniad i wariant cynyddol yn Lloegr
  • gofyn am newid o gyfalaf i refeniw oddi wrth Lywodraeth y DU
  • gwneud arbedion refeniw a chyfalaf mewn cyllidebau adrannol

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd i’r Gweinidog ddod i’r Pwyllgor Cyllid i egluro'r amserlenni a'r penderfyniadau a wnaed. Dywedodd:

Gan fod llawer o'r arbedion a amlinellwyd yma yn deillio o symiau canlyniadol disgwyliedig o ddyfarniadau cyflog y GIG a thynnu i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, y gallasai'r ddeubeth fod yn hysbys ers cryn amser, nid wyf i'n deall yn iawn pam y cymerodd hi dros bedwar mis ar ôl y gyllideb atodol i roi'r eglurder hwn.

Beth yw'r newidiadau allweddol?

Mae newidiadau yn digwydd yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf, mae prif newidiadau wedi'u hamlinellu yn y Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24.

Mae dwy adran yn derbyn cyllid ychwanegol:

  • £425.1 miliwn i’r adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a
  • £44.9 miliwn i’r adran Newid Hinsawdd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cynnydd o £125m wedi’i ariannu’n rhannol yn sgil ail-flaenoriaethau yn y portffolio Newid Hinsawdd.

Bydd pob adran arall yn gweld gostyngiadau net mewn dyraniadau cyllid.

Bydd £16.1 miliwn yn cael ei dorri o’r cyllidebau sy’n cefnogi gweithgareddau Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae o ganlyniad i ragolygon wedi’u diweddaru ar y nifer sy’n manteisio ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Ffigur 1: Prif ffigurau o’r Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Refeniw +£425.1m, Cyfalaf dim newid. Cyllid a Llywodraeth Leol: Refeniw -£28.5m, Cyfalaf -£8.0m. Addysg a’r Gymraeg: Refeniw -£74.7m, Cyfalaf -£-40.0m. Newid Hinsawdd: Refeniw +£82.6m, Cyfalaf -£37.7m. Yr economi: Refeniw -£28.6m, Cyfalaf -£36.5m. Materion Gwledig: Refeniw -£17.3m, Cyfalaf -£20.2m. Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: Refeniw -£27.5m, Cyfalaf dim newid. Cyfiawnder Cymdeithasol: Refeniw -£7.0m, Cyfalaf -£4.6m. Cyfanswm: Refeniw +£324.1m, Cyfalaf -£147.0m.

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Tra bod cyfanswm cyllideb refeniw a chyfalaf Cyllid a Llywodraeth Leol yn lleihau £36.5 miliwn; ni fydd y Grant Cynnal Refeniw (sy'n darparu cyllid craidd i awdurdodau lleol) yn newid.

Bydd cyllidebau refeniw a chyfalaf Addysg a’r Gymraeg yn gweld gostyngiad, gyda £11.5m yn cael ei ryddhau o’r gyllideb Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, £40.5 miliwn o gyfalaf o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a gostyngiad o £8.5 miliwn yn y ddarpariaeth ôl-16.

Bydd Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweld gostyngiad o £7m mewn refeniw, gan gynnwys £1.5 miliwn yn cael ei ryddhau drwy rewi recriwtio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a £4.6 miliwn mewn cyllid cyfalaf. Bydd gostyngiad o £17.3 miliwn mewn refeniw a £20.2 miliwn yng nghyllidebau cyfalaf Materion Gwledig yn cael ei wneud yn bennaf drwy ailflaenoriaethu £30 miliwn o refeniw a chyfalaf o'r Cynlluniau Buddsoddiadau Gwledig.

Bydd y gyllideb ar gyfer Gweinyddiaeth a Gwasanaethau Canolog (y gyllideb ar gyfer costau rhedeg Llywodraeth Cymru) yn lleihau £27.5 miliwn. Bydd cyllideb yr Economi yn gweld gostyngiad o £28.6 miliwn mewn refeniw a £36.5 miliwn yn eu cyllidebau cyfalaf, y mae Llywodraeth Cymru yn dweud a fydd yn cael eu canfod o ganlyniad i ragolygon diwygiedig neu dderbyniadau untro (gan gynnwys gwerthu eiddo ac incwm yr UE).

Dywed Llywodraeth Cymru:

Mae rhai o'r penderfyniadau sy’n deillio o'r dull hwn yn benderfyniadau gwario un tro yn unig, ond bydd gan rai oblygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn yn gweithio ar y rhain wrth inni ddatblygu Cyllideb Ddrafft 2024-2025.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar hyn o bryd dim ond gwybodaeth sy'n dangos y newidiadau ar lefel adrannol gyffredinol sydd wedi’i chyhoeddi. Bydd y newidiadau a wneir i gynlluniau gwariant manwl yn cael eu cyhoeddi mewn Ail Gyllideb Atodol, sy’n debygol o gael ei gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2024.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2024-25 ar 19 Rhagfyr 2023.


Erthygl gan Božo Lugonja a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru