Rhoi stop ar ymwrthedd gwrthficrobaidd

Cyhoeddwyd 14/07/2023   |   Amser darllen munudau

Ers i'r gwrthfiotig cyntaf gael ei ddarganfod bron i 100 mlynedd yn ôl, mae cyffuriau gwrthficrobaidd wedi dod yn rhan hanfodol o ofal iechyd modern. Maent yn cael eu defnyddio i drin clefydau heintus ond mae gorddefnydd yn arwain at ymwrthedd gwrthficrobaidd, sy’n golygu nad oes modd trin rhai heintiau. O ganlyniad, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynnwys ymwrthedd gwrthficrobaidd fel un o'r 10 prif broblem iechyd byd-eang sy'n bygwth dynoliaeth. Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon fel y gellir parhau i ddefnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd i achub bywydau yn y dyfodol.

Y bygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd

Defnyddir cyffuriau gwrthficrobaidd i drin clefydau a achosir gan gyfryngau heintus, fel bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid. Mae gwahanol fathau o gyffuriau gwrthficrobaidd a ddefnyddir i drin gwahanol heintiau. Er enghraifft, defnyddir gwrthfiotigau i drin heintiau bacteriol fel niwmonia. Mae cyffuriau gwrthfeirysol yn fath arall o gyffur gwrthficrobaidd, a ddefnyddir i drin herpes a HIV.

Ond dros amser gall y bygiau hyn (bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid) ddatblygu nodweddion sy'n gwneud cyffuriau gwrthficrobaidd yn aneffeithiol yn eu herbyn. Ymwrthedd gwrthficrobaidd yw’r enw a roddir i’r broses hon.

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael ei achosi gan orddefnydd a chamddefnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd. Er enghraifft, gall cymryd gwrthfiotigau, a ddefnyddir ar gyfer heintiau bacteriol, i drin haint feirysol (fel annwyd neu'r ffliw, neu gastroenteritis feirysol) greu'r amodau perffaith i facteria ag ymwrthedd ffynnu.

Mae rhai bygiau’n datblygu ymwrthedd i nifer o gyffuriau gwrthficrobaidd. Mae’r heintiau hyn sydd ag ymwrthedd i nifer o gyffuriau, neu 'archfygiau' fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, yn aml yn amhosibl eu trin. Mae'r heintiau hyn, sy'n cynnwys MRSA a C. diff, yn aml yn digwydd mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio os na fyddwn yn cael ymwrthedd gwrthficrobaidd dan reolaeth y gallai gweithdrefnau meddygol cyffredin sy'n dibynnu ar ddefnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd, gan gynnwys cemotherapi a llawdriniaeth, hefyd ddod yn beryglus iawn yn y dyfodol.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae 1.3 miliwn o bobl ledled y byd yn marw bob blwyddyn o haint bacteriol ag ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys marwolaethau o ganlyniad i gyfryngau heintus eraill, fel feirysau neu ffyngau, sy'n golygu bod baich cyffredinol ymwrthedd gwrthficrobaidd yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch.

Mae disgwyl i nifer y marwolaethau o heintiau ag ymwrthedd gwrthficrobaidd godi, gydag adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2016 yn rhagweld y bydd heintiau ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gyfrifol am 10 miliwn o farwolaethau ledled y byd y flwyddyn erbyn 2050.

Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr wedi darganfod y gall cynnydd mewn tymereddau byd-eang o ganlyniad i newid hinsawdd gynyddu ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhellach. O ganlyniad, gwnaethant awgrymu y gallai’r rhagamcan a wnaed yn adroddiad Llywodraeth y DU fod yn tanamcangyfrif maint y broblem yn y dyfodol.

Y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd

Mae tair prif ffordd o frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd: drwy leihau faint o gyffuriau gwrthficrobaidd rydym yn eu defnyddio, cyfyngu ar drosglwyddiad heintiau rhwng unigolion fel nad oes angen cyffuriau gwrthficrobaidd mor aml, a datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd.

Infograffeg yn dangos y gellir brwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy leihau defnydd diangen o gyffuriau gwrthficrobaidd, cyfyngu ar drosglwyddiad heintiau a datblygu triniaethau newydd ar gyfer clefydau heintus.

Ffynhonnell: UK 20-year vision for antimicrobial resistance. Llywodraeth y DU.

Mae gwyddonwyr ledled y byd, gan gynnwys ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, yn ceisio creu triniaethau newydd a allai gynnig opsiynau eraill ar gyfer trin heintiau. Fodd bynnag, mae’r cynnydd wedi bod yn araf. Mae hyn yn golygu mai’r prif strategaethau sydd ar gael i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd ar hyn o bryd yw lleihau'r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd a chyfyngu ar ledaeniad heintiau.

Lleihau'r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd

Yn aml, nid yw'n angenrheidiol defnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd i drin heintiau cyffredin, fel anwydau neu'r ffliw, gan fod y system imiwnedd yn gallu ymladd yn erbyn llawer o'r bygiau hyn heb gymorth. Mae hyn yn golygu y dylid cadw'r cyffuriau hyn ar gyfer yr heintiau mwyaf difrifol neu ar gyfer pobl imiwnoataliedig.

Yn y DU, mae dros 70 y cant o gyffuriau gwrthficrobaidd yn cael eu rhagnodi mewn gofal sylfaenol, ond amcangyfrifir bod 20 y cant o'r presgripsiynau hyn yn ddiangen. O ganlyniad, mae ffocws mawr ar leihau presgripsiynau mewn gofal sylfaenol fel ffordd o fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae GIG Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau Gwrthficrobaidd Gofal Sylfaenol sy'n rhoi cyngor i glinigwyr i sicrhau mai dim ond lle bo angen y caiff cyffuriau gwrthficrobaidd eu rhagnodi.

Cyfyngu ar ledaeniad heintiau

Mae yna hefyd ymdrechion i leihau heintiau, yn enwedig heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Yng Nghymru, mae llawlyfr safonol ar brotocolau Atal a Rheoli Heintiau a ddefnyddir i gefnogi’r gwaith o leihau’r risg o drosglwyddo heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd.

Cael ymwrthedd gwrthficrobaidd dan reolaeth

Datblygwydd y weledigaeth 20 mlynedd i’r DU gyfan ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd yn 2019 gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn unol â Chynllun Gweithredu Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

Mae’r pedair gwlad wedi ymrwymo i ddod ag ymwrthedd gwrthficrobaidd dan reolaeth yn y DU erbyn 2040 gan ddefnyddio’r tair prif strategaeth a nodwyd uchod. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith drwy bedwar Cynllun Gweithredu Cenedlaethol pum mlynedd, a bydd y cyntaf o'r rhain yn cwmpasu 2019 – 2024. Nod y rhaglen yw sicrhau:

  • lleihad o 15 y cant yn y defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd gan bobl erbyn 2024; a
  • lleihad o 10 y cant mewn heintiau penodol sy’n gwrthsefyll cyffuriau mewn pobl erbyn 2025.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn rhoi arweiniad a nodau gwella i GIG Cymru bob blwyddyn i gefnogi’r gwaith o roi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y DU gyfan ar waith. Roedd disgwyl i'r cylchlythyr diweddaraf gael ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2023, ond nid yw wedi'i ryddhau eto.

Sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y Rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Rhagnodi (HARP) yn 2017 i fonitro ymwrthedd gwrthficrobaidd a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Fodd bynnag, mae’r data sydd ar gael i’r cyhoedd ynglŷn â’r cynnydd tuag at fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru yn brin. Cyhoeddwyd data ymwrthedd gwrthficrobaidd ddiwethaf yn yr Alban a Lloegr ym mis Tachwedd 2022 ond mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru o 2019.

Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd ar nifer yr achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn dangos y bu cynnydd yn 2021/22 yng nghyfraddau sawl haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, gan gynnwys cynnydd o 24 y cant mewn C. diff a chynnydd o 13 y cant mewn E. coli.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu system ar-lein o’r enw ‘Llygad Gwrthfiotig’ i wella’r drefn ar gyfer monitro’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Fodd bynnag, dim ond staff GIG Cymru sydd â mynediad at y wybodaeth yn y system, sy'n golygu na ellir ei defnyddio ar gyfer craffu cyffredinol ar y cynnydd tuag at fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Camau penodol mewn perthynas â rhagnodi gwrthfiotigau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi set o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol i gefnogi rhagnodi diogel ac wedi’i optimeiddio ar gyfer amryw feddyginiaethau, gan gynnwys cyffuriau gwrthficrobaidd. Pennwyd targed i GIG Cymru ragnodi o leiaf 5 y cant yn llai o’r gwrthfiotigau a ddefnyddir yn benodol i drin heintiau bacteriol mewn gofal sylfaenol (o gymharu â’r llinell sylfaen chwarterol, ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019).

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod rhagnodi gwrthfiotigau wedi mynd i’r cyfeiriad arall i’r hyn a fwriadwyd. Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, roedd cyfraddau rhagnodi’r cyffuriau hyn yng Nghymru wedi cynyddu 15 y cant o gymharu â’r llinell sylfaen.

Fodd bynnag, mae adroddiad y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol yn awgrymu y gallai hyn fod oherwydd y cynnydd mewn heintiau Streptococws (haint Strep A mewn plant) a ddigwyddodd yn ystod gaeaf 2022. Cyn hyn, roedd cyfraddau rhagnodi cyffuriau gwrthfacterol wedi bod yn gostwng yn raddol.

Er i’r cynnydd gael ei wrthdroi’n ddiweddar, mae’r targed newydd ar gyfer 2023 – 2024 yn fwy uchelgeisiol na'r un blaenorol. Dylai byrddau iechyd anelu at sicrhau gostyngiad o 10 y cant mewn presgripsiynau cyffuriau gwrthfiotig yn erbyn y cyfnod llinell sylfaen rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.


Erthygl gan Ailish McCafferty, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Ailish McCafferty gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.