Mapio triniaeth gosmetig ar yr wyneb

Mapio triniaeth gosmetig ar yr wyneb

Rheoleiddio triniaethau cosmetig yng Nghymru: cadw i fyny â marchnad sy'n tyfu

Cyhoeddwyd 15/10/2026

Wrth i'r galw am driniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol barhau i dyfu, mae pryderon wedi'u mynegi ynghylch diogelwch cleifion, ac a yw'r trefniadau rheoleiddio presennol yn parhau i fod yn addas i’r diben. Yn gynharach eleni, adroddodd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU fod y rheoleiddio hwnnw wedi methu â chadw i fyny â thwf cyflym y farchnad. Mae’r Alban wedi pasio deddfwriaeth sy’n sefydlu fframwaith statudol ar gyfer rhai triniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol, ac mae cynllun trwyddedu yn cael ei ddatblygu yn Lloegr. Gallai datblygiadau mewn mannau eraill yn y DU annog Cymru i ystyried a yw'r trefniadau presennol yn ddigonol i fynd i'r afael â phryderon diogelwch sy'n dod i'r amlwg.

Sut mae triniaethau cosmetig yn cael eu rheoleiddio?

Gellir rhannu triniaethau cosmetig yn fras yn ymyriadau llawfeddygol ac ymyriadau nad ydynt yn rhai llawfeddyol.

Mae triniaethau llawfeddygol yn cynnwys llawdriniaethau fel cynyddu'r fron, rhinoplasti (ail-lunio'r trwyn), a liposugnedd. Caiff y triniaethau hyn yn gyffredinol eu gwneud yn breifat, ac maent yn cael eu darparu o fewn fframweithiau rheoleiddio gofal iechyd sefydledig. Mae ysbytai a chlinigau annibynnol (preifat) yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), tra bo meddygon, nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn cael eu rheoleiddio gan gyrff proffesiynol ledled y DU fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae'r darlun yn fwy cymhleth ar gyfer triniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol, sy’n cynnwys triniaethau fel llenwyr croenol, pigiadau tocsin botwlinwm (Botox), pilio cemegol, micronodwyddau, a rhai triniaethau sy'n seiliedig ar laser. Mae rhai triniaethau'n destun rheolaethau penodol. Er enghraifft, meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn unig yw tocsin botwlinwm a rhaid iddi gael ei rhagnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig priodol. Mae triniaethau eraill, gan gynnwys llawer o driniaethau llenwyr croenol, yn ddarostyngedig i lai o ofynion rheoleiddio, a gallant gael eu cyflawni gan unigolion nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol rheoleiddiedig.

Mater rheoleiddio hirhoedlog

Nid yw pryderon ynghylch y sector yn beth newydd. Roedd Adolygiad Keogh 2013, a oedd yn archwilio prosesau rheoleiddio ymyriadau cosmetig, yn amlygu twf cyflym y farchnad llenwyr croenol. Nododd y gallai ymarferwyr gyflawni triniaethau heb unrhyw ofyniad am hyfforddiant, cymwysterau na phrofiad blaenorol. Disgrifiodd yr adolygiad lenwyr croenol fel 'argyfwng sy'n aros i ddigwydd'.

Dros ddegawd yn ddiweddarach, mae llawer o'r materion a nodwyd gan yr adolygiad yn parhau i gael eu codi gan gyrff proffesiynol a sefydliadau diogelwch cleifion. Er enghraifft, mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi rhybuddio bod bylchau sylweddol yn parhau, a bod angen mesurau diogelwch cryfach.

Galw cynyddol a phryderon ynghylch diogelwch cleifion

Mae'r galw am driniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Clywodd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU dystiolaeth fod y cyfryngau cymdeithasol ac agweddau newidiol tuag at driniaethau cosmetig wedi cyfrannu at y duedd hon. Mae triniaethau bellach ar gael hefyd drwy ystod eang o ddarparwyr a lleoliadau, gan arwain at bryderon ynghylch diogelwch cleifion. Disgrifiodd y Pwyllgor rannau o'r sector fel:

… a ‘wild west’ in which procedures have reportedly taken place in Airbnbs, hotel rooms, garden sheds and public toilets, leading to many individuals experiencing serious harm.

Mae’r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â thriniaethau cosmetig wedi'u dogfennu'n dda a gallant gynnwys heintiau, adweithiau alergaidd, creithiau, difrod i feinwe ac anffurfiad. Er gwaethaf y risgiau hyn, mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi tynnu sylw at y ffaith y gall ymarferwyr barhau i gyflawni rhai triniaethau risg uchel yn gyfreithlon heb unrhyw gymwysterau na hyfforddiant cydnabyddedig.  

Twristiaeth gosmetig

Mae pryderon hefyd wedi cael eu mynegi ynghylch llawdriniaethau cosmetig a wneir dramor.

Canfu adolygiad cyflym yn 2025 a gynhaliwyd gan Ganolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bod cymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth gosmetig dramor yn aml yn cynnwys heintiau, clwyfau’n ailagor, a'r angen am lawdriniaeth bellach. Amcangyfrifwyd bod costau triniaeth sy'n gysylltiedig â'r cymhlethdodau hyn yn amrywio o tua £1,000 i bron i £20,000 y claf.

Fodd bynnag, canfu'r adolygiad fod graddfa twristiaeth gosmetig yng Nghymru, a'i heffaith ar wasanaethau iechyd, yn parhau i fod yn anhysbys i raddau helaeth. Galwodd am gasglu data mwy systematig i ddeall yn well nifer y bobl sydd angen triniaeth y GIG yn dilyn cymhlethdodau o driniaethau a gyflawnwyd dramor.

Mae bylchau tystiolaeth tebyg yn bodoli mewn perthynas â'r farchnad ddomestig ar gyfer triniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddyol. Mae data ar nifer y triniaethau a gynhaliwyd, y cymhlethdodau cysylltiedig, a'r galw canlyniadol ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn gyfyngedig.

Datblygiadau rheoleiddio ledled y DU

Cyhoeddodd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU adroddiad dilynol ar driniaethau cosmetig ym mis Medi 2026. Ailadroddodd y Pwyllgor ei argymhelliad y dylai Llywodraeth y DU gyflwyno cyfyngiadau ar unwaith ar y triniaethau cosmetig risg uchaf, a'i gwneud yn ofynnol i bob ymarferydd sy'n perfformio triniaethau cosmetig llawfeddygol ymledol gael hyfforddiant arbenigol ac ardystiad bwrdd priodol. Galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i osod amserlen ar gyfer diwygio'r sector yn ehangach.

Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno cyfundrefn drwyddedu ar gyfer rhai triniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol, er bod manylion am sut y bydd y cynllun yn gweithredu yn dal i gael eu datblygu.

Yn y cyfamser, mae'r Alban wedi cymryd camau deddfwriaethol. Ym mis Mawrth 2026, pasiodd Senedd yr Alban ddeddfwriaeth sy'n sefydlu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio triniaethau cosmetig penodol nad ydynt yn rhai llawfeddygol.

Hyd yma, nid yw Cymru na Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi diwygiadau cyfatebol.

Cwmpas pwerau datganoledig

Mae Cymru eisoes yn gweithredu cynllun trwyddedu ar gyfer rhai triniaethau a gyflawnir y tu allan i leoliadau gofal iechyd. Cyflwynodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 gynllun trwyddedu ar gyfer rhai 'triniaethau arbennig', gan gynnwys aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis, a thatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol). Rhaid i ymarferwyr fod wedi'u trwyddedu a rhaid i’r awdurdodau lleol gymeradwyo eu safleoedd. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i ddod â thriniaethau ychwanegol o fewn y cynllun yn y dyfodol lle ystyrir bod hyn yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Ym Maniffesto Cymru 2026, galwodd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol am ymestyn y cynllun i gwmpasu triniaethau cosmetig nad ydynt yn rhai llawfeddygol.

Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb dros reoleiddio triniaethau cosmetig yn cael ei rannu ar draws meysydd datganoledig a meysydd heb eu datganoli, sy'n golygu bod y dirwedd reoleiddio gyffredinol yn gymhleth. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i reoleiddio meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol, neu broffesiynau gofal iechyd. Mae cyfrifoldeb dros faterion fel rheoleiddio tocsin botwlinwm fel meddyginiaeth, cymeradwyo dyfeisiau meddygol, a rheoleiddio proffesiynol meddygon, nyrsys a deintyddion yn parhau gyda Llywodraeth y DU a chyrff rheoleiddio ledled y DU.

Ar yr un pryd, mae rhai agweddau ar driniaethau cosmetig yn dod o fewn meysydd polisi datganoledig, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, llywodraeth leol, a gwasanaethau'r GIG. O fewn y meysydd hyn, efallai y bydd lle i gyflwyno gofynion trwyddedu neu reoleiddio sy'n ymwneud â safonau safleoedd, cymhwysedd ymarferwyr, a gorfodi gan awdurdodau lleol.

Mae'r ddadl polisi hefyd yn ymestyn y tu hwnt i reoleiddio. Gall materion fel casglu data’r GIG, mentrau ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac addysg sy’n ymwneud â delwedd y corff a llythrennedd cyfryngau cymdeithasol ddod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn yr un modd.

Wrth i’r farchnad triniaethau cosmetig barhau i ehangu, ac wrth i rannau eraill o'r DU fynd ar drywydd diwygio rheoleiddio, mae'n bosibl y bydd trafodaethau yng Nghymru yn canolbwyntio fwyfwy ar ba rôl y gall dulliau polisi datganoledig ei chwarae wrth gryfhau mesurau diogelwch i bobl sy'n cael y triniaethau hyn.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru