'Rhaid i ni beidio â llaesu dwylo' meddai Comisiynydd Plant Cymru

Cyhoeddwyd 04/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ei Hadroddiad Blynyddol  ar gyfer y flwyddyn 2018-19, mae Sally Holland yn rhoi sylwadau ar y bedwaredd o'r saith mlynedd y bydd yn ymgymryd â’i rôl fel Comisiynydd Plant Cymru. Ynddo, mae'n dweud:

Rydyn ni wedi arwain y byd wrth hybu a diogelu hawliau plant; rhaid i ni beidio â rhoi’r gorau i hynny nawr.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod manylion yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud ddydd Mawrth 10 Rhagfyr.

Blwyddyn o newid, ond mae heriau’n parhau

Yn ôl y Comisiynydd, bu’n ‘flwyddyn o newidiadau arwyddocaol ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru’ gan gyfeirio at y canlynol:

  • mae 30 mlynedd ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • sefydlwyd Senedd Ieuenctid am y tro cyntaf erioed yng Nghymru a’r
  • Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Rhesymol) (Cymru)

Ond dywed Sally Holland hefyd fod heriau sylweddol ar hyd a lled Cymru o ran hawliau plant ac mae ei hadroddiad yn cynnwys' galwadau brys ar Lywodraeth Cymru'. Er enghraifft, mae’n dweud nad yw trafnidiaeth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn ddigon da.

Ar 6 Tachwedd, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ragor am farn y Comisiynydd Plant am yr amrywiaeth eang o faterion sy’n cael sylw yn ei hadroddiad gan gynnwys: addysg gartref, hawliau plant yn y cwricwlwm newydd, bwlio, iechyd meddwl, a phlant sy'n derbyn gofal. Mae'r Pwyllgor ei hun yn ystyried i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â hawliau plant yng Nghymru a bydd yn cyflwyno adroddiad ar hyn yn y flwyddyn newydd.

Y datblygiadau diweddaraf

Bu rhai datblygiadau yn ddiweddar ynghylch y materion a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Plant:

  • Iechyd meddwl: Mae hon yn flaenoriaeth uchel i'r Comisiynydd Plant a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.Ddiwedd mis Hydref, cafodd y Pwyllgor ymateb i’w gais am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ‘Cadernid Meddwl’. Mae'r wybodaeth a gafwyd gan y Llywodraeth i’w gweld yma.
  • Bwlio: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau gwrth-fwlio newydd yn ddiweddar. Mae'r canllawiau newydd yn statudol, ac mae’r Comisiynydd Plant wedi’u croesawu, a hynny ar ôl beirniadu’r bwriad gwreiddiol i roi statws anstatudol a chynghorol i’r canllawiau.
  • Teithio gan Ddysgwr: Dywed y Comisiynydd nad yw 'rhai pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ledled Cymru yn cael addysg gan nad oes cludiant addas, hygyrch a diogel ar gael iddynt'. Ers cyhoeddi'r adroddiad, cafwyd Datganiad ar y cyd gan Weinidogion ar 13 Tachwedd. Yn ôl y Datganiad hwn, byddai’r Llywodraeth yn adolygu’r trefniadau ar gyfer dysgwyr ôl-16. Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysgeisoes wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth am deithio gan ddysgwyr a gofynnodd am ychydig o fanylion ychwanegol yn dilyn yr datganiad, gan ddweud nad oedd eu pryderon yn ymwneud â dysgwyr ôl-16 yn unig.
  • Plant sy'n derbyn gofal: Ar 14 Tachwedd cyhoeddodd y Llywodraeth ei hadroddiad blynyddol cyntaf ar wella canlyniadau i blant. Mae mwy o gefndir i’r materion polisi perthnasol yn ein herthygl.
  • Addysg Gartref: Mae'r Comisiynydd a'r Pwyllgor wedi parhau i roi sylw i’r mater hwn ac mae'r Comisiynydd wedi sefydlu 'tri phrawf' ar gyfer addysg gartref. Yn gyntaf, bod modd rhoi cyfrif am holl blant Cymru ac yn ail, bod pob plentyn yn cael addysg addas a’u hawliau dynol eraill, gan gynnwys iechyd, gofal a diogelwch. Ei thrydydd 'prawf' yw 'nad oes modd cyflawni hyn heb roi cyfle i bob plentyn cael eu gweld, a gwrando ar eu barn, gan gynnwys eu barn am eu haddysg, a’u profiadau'. Yn ei hadroddiad dywed 'Rhaid i Lywodraeth Cymru roi canllawiau statudol ar waith, gan fodloni fy nhri phrawf yn llawn yn 2020’. Yn dilyn eu trafodaeth gyda'r Comisiynydd Plant, anfonodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg lythyr at y Gweinidog Addysg ar 19 Tachwedd.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Sally Holland ei gwerthusiad o’r cynnydd y mae wedi’i wneud hyd yma fel Comisiynydd Plant Cymru.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Ar 3 Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Comisiynydd. Er ei bod yn derbyn 10 o'r 14 argymhelliad yn llawn ac yn derbyn dau arall mewn egwyddor, nid oedd yn cytuno â dau.

Gwrthododd y Llywodraeth argymhelliad canlynol y Comisiynydd:

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn berthnasol i bobl ifanc hyd at 25 oed. Rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod dyletswydd statudol sy’n gofyn bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n dod o dan y Ddeddf yn derbyn trafnidiaeth ddiogel i’w safle addysg. Felly, dylai Llywodraeth Cymru, ailystyried eu hymateb i fy argymhelliad o fy adroddiad blynyddol 15/16 i adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ag unrhyw ddarpariaeth a chanllawiau statudol cysylltiol.

Gwrthdodd hefyd yr argymhelliad isod:

Er mwyn sicrhau ymrwymiad parhaol i hawliau dynol plant dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno dyletswydd ar yr holl gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i CCUHP wrth gyflwyno’r cwricwlwm. Dylid gosod y ddyletswydd hon ar wyneb bil y Cwricwlwm ac Asesu.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am hawliau plant yng Nghymru gallwch ddarllen ein herthyglau eraill ar y pwnc, gan gynnwys:

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Comisiynydd ar 10 Rhagfyr. Gallwch ei wylio'n fyw yn fuan ar ôl 4.30 yp ar Senedd TV


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru