Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Rhaglen Lywodraethu 2026-2030: blaenoriaethau, addewidion a chyflawni
Cyhoeddwyd 26/11/2026   |   Amser darllen munud
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraeth 2026-30: Uchelgais newydd i Gymru ym mis Medi 2026. Mae’r Llywodraeth yn ei disgrifio fel agenda pedair blynedd a “glasbrint ar gyfer newid”.
Ond beth yn union yw Rhaglen Lywodraeth, beth mae Llywodraeth Cymru wedi’i flaenoriaethu, a sut mae'n bwriadu rhoi’r ymrwymiadau hyn ar waith?
Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg cyffredinol o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth a'r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.
Beth yw’r Rhaglen Lywodraethu?
Mae Rhaglen Llywodraeth yn nodi bwriadau'r Llywodraeth ar gyfer tymor y Senedd, sy'n rhedeg hyd at fis Mai 2030. Mae'n cynnwys y camau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd, y targedau y mae am eu cyrraedd a’r ddeddfwriaeth y mae’n disgwyl ei chyflwyno.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu hon yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar chwe blaenoriaeth allweddol, sydd, ynghyd â chyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy ‘lywodraeth well’, hefyd yn amcanion llesiant y Llywodraeth. Mae gan bob blaenoriaeth/amcan llesiant eu pennod ei hun yn y Rhaglen Lywodraethu:
Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros;
Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda;
Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu;
Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru;
Mae pob pennod yn egluro cyfeiriad arfaethedig y Llywodraeth ac yn cynnwys ymrwymiadau “byddwn ni” penodol. Mae cyfanswm o 149 o ymrwymiadau.
Pa themâu ac uchelgeisiau sy’n sail i'r Rhaglen Lywodraethu?
Mae sawl thema yn rhedeg drwy’r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys atal, gyda'r Llywodraeth yn addo “mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd, tlodi a thwf economaidd gwan”, gan geisio gwneud hynny drwy “[g]amau cydgysylltiedig ym mhob portffolio Gweinidogol”. Mae cymryd dull trawslywodraethol hefyd yn thema sy’n codi dro ar ôl tro, ac yn thema ganolog yng nghynlluniau cyflawni’r Llywodraeth.
Mae’r Llywodraeth yn amlinellu ei huchelgeisiau i wella mynediad at wasanaethau a lleddfu pwysau aelwydydd yn y ddwy bennod gyntaf. Mae’r bennod ar iechyd yn cynnwys prif flaenoriaeth benodol i dorri rhestrau aros, tra bod gofal plant, tai a datblygu system les Cymru yn rhan o ymateb y Llywodraeth i bwysau costau byw.
Dyfodol plant yw canolbwynt y penodau ar addysg a gweithredu ar dlodi. Dywedir eu bod yn mabwysiadu dull ataliol drwy geisio mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad. Mae'r Llywodraeth yn nodi uchelgeisiau i godi safonau yn system addysg Cymru, ac i gyflwyno cynllun peilot Taliad Plant Cymru.
Mae’r bennod ar yr economi a swyddi yn cyfrif am bron i draean o’r holl ymrwymiadau (44), er nad yw pob un yn benodol yn bolisi economaidd - mae rhai'n cwmpasu trafnidiaeth, seilwaith, ynni, cynllunio a materion gwledig. Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad economaidd ac yn amlinellu uchelgais y Llywodraeth ar gyfer “economi ffyniannus sy’n gyrru ein gwasanaethau cyhoeddus”. Mae’n pwysleisio cynhyrchiant economaidd ac ymreolaeth genedlaethol, gan nodi bod cau bwlch cynhyrchiant Cymru gyda'r DU yn ganolog i dwf economaidd cynyddol.
Mae agenda gyfansoddiadol Llywodraeth Cymru wedi’i nodi ym Mhennod 6, gan gynnwys ceisio setliad ariannu decach a phwerau ychwanegol i Gymru, ochr yn ochr â mesurau i gefnogi diwylliant a chwaraeon, ehangu rôl ryngwladol Cymru, a gwella cydgysylltu ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Beth sy’n llai amlwg?
Nid oes penodau annibynnol yn rhestr flaenoriaethu’r Rhaglen Lywodraeth ar gyfer rhai o brif feysydd gweithgarwch y llywodraeth. Mae newid hinsawdd a natur, er enghraifft, yn ymddangos yn y bennod cyflawni fel cyfrifoldebau trawslywodraethol yn hytrach nag fel maes blaenoriaeth ar wahân. Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn yr un modd.
Mae'r Llywodraeth yn dweud yn benodol y dylai hinsawdd a natur gael eu hymgorffori ar draws portffolios a bod hyrwyddo’r Gymraeg yn gyfrifoldeb i bob un o’r Gweinidogion.
Yn yr un modd, nid oes gan feysydd polisi eraill megis trafnidiaeth, diwylliant, chwaraeon, addysg drydyddol ac amaethyddiaeth benodau blaenoriaeth annibynnol. Yn hytrach, maent yn ymddangos fel cydrannau o amcanion ehangach a gweithgarwch trawslywodraethol.
Sut mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cymharu â maniffesto Plaid Cymru?
Fel arfer, mae Rhaglen Lywodraethu llywodraeth yn dilyn yr ymrwymiad a nodir ym maniffesto etholiadol y blaid, ac nid yw'r Rhageln Lywodraethu hon yn wahanol o ran hynny. Mae’r Llywodraeth i raddau helaeth wedi cadw blaenoriaethau strategol eang Plaid Cymru, ond nid yw nifer o ymrwymiadau penodol yn y maniffesto wedi’u cynnwys na’u hailadrodd.
Er enghraifft, nid yw ymrwymiad maniffesto i gynyddu’r “gyllideb ar gyfer diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon o un flwyddyn i’r llall dros dymor nesaf y Senedd“ wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu. Hefyd, nid yw'r ymrwymiad yn y maniffesto i gael gwared yn raddol ar becynnau plastig ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres wedi'i gynnwys yn benodol, gan gael ei ddisodli ag amcanion ehangach i “[g]ymryd camau beiddgar i ... leihau gwastraff a mynd i'r afael â llygredd”. Yn yr un modd, nid yw’r weledigaeth hirdymor yn y maniffesto ar gyfer gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen, wedi’i chynnwys. Mae'r Rhaglen Llywodraethu yn canolbwyntio ar ddiwygio gwasanaethau gofal heb ailadrodd yr uchelgais yn y maniffesto.
Er bod gan y Rhaglen Lywodraethu dargedau wedi’u meintioli, mae rhai ymrwymiadau'n llai pendant nag yn y maniffesto, er enghraifft, yr addewid i gyflwyno 10 hwb llawfeddygol newydd yn dod yn ymrwymiad i sefydlu hyd at 10.
Nid yw absenoldeb, llai o amlygrwydd neu wanhau ymrwymiadau penodol o’r maniffesto yn golygu nad yw’r polisïau hynny’n cael eu dilyn mwyach. Fodd bynnag, gall ymrwymiadau llai penodol ei gwneud yn anoddach asesu cynnydd a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Sut y bydd yn cael ei gyflawni?
Mae ‘Pennod 7: Cyflawni ein blaenoriaethau’ yn amlinellu cynlluniau i symud i ffwrdd oddi wrth seilos adrannol, gyda ffocws yn hytrach ar waith yn cael “ei ddatblygu a’i gyflawni ar draws y llywodraeth”. Dywed y Llywodraeth y bydd y dull hwn hefyd yn siapio penderfyniadau gwariant, ac y bydd “sut y gall pob maes gwario gyfrannu at ein hamcanion ehangach yn ystyriaeth graidd”.
Mae’n tynnu sylw at bedwar maes lle bydd yn “mabwysiadu dull trawslywodraethol pwrpasol a strwythuredig”: hinsawdd a natur, y Gymraeg, atal afiechyd a chynhyrchiant. Er enghraifft, mae’n cynllunio Cynllun Gweithredu a Bwrdd Gweithredu Hinsawdd a Natur trawslywodraethol, tra bydd gweithgor gweinidogol yn cydlynu gwaith ar atal afiechyd ar draws meysydd gan gynnwys tai, trafnidiaeth, addysg, diwylliant a chwaraeon.
Mae’r Rhaglen Lwydoraethu yn nodi llywodraeth leol, cyrff hyd braich, y sector gwirfoddol, ysgolion, colegau, prifysgolion a gwasanaethau iechyd ymhlith y rhai sy'n rhan o’r gwaith cyflawni. Mae’n addo adnewyddu'r Cytundeb Partneriaeth Strategol ag awdurdodau lleol, ac i “adolygu’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau”.
Sut y byddwn ni’n gwybod a yw'r Llywodraeth yn cyflawni ei haddewidion?
Bydd atebolrwydd yn dibynnu nid yn unig ar ganlyniadau, ond hefyd ar sut cânt eu mesur. Mae’r ymrwymiadau’n amrywio’n sylweddol o ran pa mor hawdd y gellir mesur cynnydd. Mae rhai yn nodi ffigurau ac eraill yn cyfeirio at newidiadau sefydliadol fel “sefydlu hyd at 10 hwb llawfeddygol”. Mae rhai yn disgrifio cyfeiriad teithio, fel “symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol”, ac mae eraill yn cynnwys ymrwymiadau sy'n anoddach eu mesur, fel “cymryd camau beiddgar er mwyn gwella ansawdd aer”.
Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru adroddiad blynyddol a chynnydd yn erbyn ymrwymiadau unigol. Nid ydym yn gwybod eto sut y bydd cynnydd blynyddol yn cael ei adrodd yn ystod y Seithfed Senedd. Mae’r Llywodraeth newydd yn dweud y bydd yn ‘parhau i ddatblygu canlyniadau’ ac adeiladu ar ei dangosfyrddau digidol rhyngweithiol i fesur effaith.
Bydd cwblhau ymrwymiadau unigol yn un rhan o’r gwaith o asesu cynnydd. Prawf ehangach fydd a yw’r dull trawslywodraethol arfaethedig yn cyflawni'r canlyniadau ehangach y mae’r Rhaglen Llywodraeth yn anelu at eu cyflawni.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru