Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Pwyllgor yn galw am gryfhau'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Cyhoeddwyd 06/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
6 Gorffennaf 2015
Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dyma'r neges o adroddiad Cyfnod 1 (PDF, 1MB) y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'r Bil yn ceisio gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu cael yng Nghymru drwy ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol.
[caption id="attachment_3400" align="alignright" width="300"]
Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Un o amcanion y Bil yw dysgu gwersi o Operation Jasmine, yr ymchwiliad i gamdriniaeth ac esgeulustod honedig mewn cartrefi gofal yn ne Cymru. Yn ystod craffu Cyfnod 1 clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau teuluoedd rhai o'r dioddefwyr, sy'n cynrychioli'r grŵp ymgyrchu 'Cyfiawnder i Jasmine'. Mewn llythyr dilynol i'r Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr adolygiad annibynnol o Operation Jasmine o dan arweiniad Dr Margaret Flynn yn cael ei gyhoeddi yn ystod 'hanner cyntaf mis Gorffennaf'.
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae'n credu bod meysydd allweddol lle mae angen ei gryfhau, gan gynnwys cofrestru'r gweithlu, cynnwys y cyhoedd yn y drefn arolygu a rheoleiddio, a goruchwylio swyddogaethau comisiynu. Mae'r adroddiad yn cynnwys 46 o argymhellion, yn cynnwys y rhai a ganlyn:
Ymestyn cofrestru'r gweithlu
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai gweithwyr gofal preswyl i oedolion a gweithwyr gofal cartref gael eu cofrestru, oherwydd eu bod yn darparu gofal personol agos i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor bryderon gan dystion nad oes dull ar waith i eithrio'r rhai sy'n anaddas i weithio yn y rolau pwysig hyn a nodwyd bod gweithwyr gofal cartref yn cyflawni eu rolau heb oruchwyliaeth yng nghartrefi pobl.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod cost yn gysylltiedig ag ymestyn cofrestru, ond mae'n credu wrth asesu a yw'r costau hyn yn cynrychioli gwerth am arian, mae'n rhaid ystyried yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau o ran amddiffyn rhag niwed, a hyder y cyhoedd yn y gweithlu.

- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ymestyn y gofynion ar wyneb y Bil i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru gynnwys gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal preswyl i oedolion.
- Cytunodd y Pwyllgor fod angen cryfhau'r Bil i gynnwys safonau comisiynu. Mae'n argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i roi dyletswydd ar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn erbyn canlyniadau ansawdd bywyd.
- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i'w wneud yn ofynnol i bawb sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.
- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i osod gofyniad ar wyneb y Bil i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gynnwys y defnydd o arolygwyr lleyg yn rhan annatod o'i hymagwedd at reoleiddio ac arolygu.
- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod drwyddi draw yn y Bil.
- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i'w wneud yn ofynnol bod rheoliadau a chanllawiau yn cynnwys gofynion i ddarparwyr gwasanaethau fod â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban priodol ar waith.
- Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys gofyniad ar wyneb y Bil i wasanaethau eiriolaeth gofrestru gydag AGGCC.
- Felly, mae'n argymell bod y diffiniad o ofal yn adran 3 y Bil yn cael ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn ystyried y diffiniad o lesiant yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.