Pwyllgor y Senedd yn galw am fwy o dryloywder wrth gyflawni agenda ryngwladol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 20/05/2025   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mercher 21 Mai, bydd y Senedd yn trafod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol ar ôl i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am graffu ar hynny gyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (“y Pwyllgor”) yn canfod unwaith eto fod diffyg gwybodaeth am gyflawni a gwariant ac mae’n galw am welliannau gyda dim ond deg mis ar ôl cyn etholiad 2026.

Er bod cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl, wrth edrych yn agosach, mae’n amlwg bod gan bob un o'r gwledydd datganoledig drefniadau sy'n adlewyrchu eu hanes, eu partneriaid a’u dulliau, fel cytundebau nad ydynt yn rhwymol gyda gwledydd a rhanbarthau eraill.

Mae’r adroddiad yn olrhain adegau allweddol yng ngwaith craffu'r Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru yn 2014 – o'i Strategaeth Ryngwladol a pherthnasoedd blaenoriaeth, i gyllid a deddfwriaeth. Cyhoeddodd chwe chasgliad ac wyth argymhelliad a gynlluniwyd i wella tryloywder gweithgareddau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Mae’r erthygl hon yn amlinellu prif ganfyddiadau’r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru cyn y ddadl. Mae ein herthyglau blaenorol yn crynhoi adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor ac yn egluro trefniadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Cysylltiadau rhyngwladol: strategaethau a chynlluniau

Y Prif Weinidog sydd wedi bod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru ac eithrio am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2018 a Hydref 2020, pan oedd y Prif Weinidog presennol yn dal y swydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. 

Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd y Gweinidog ar y pryd Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn hon. Mae gan y Strategaeth a'i phum cynllun gweithredu dros 270 o gamau gweithredu ac mae’r Pwyllgor wedi ceisio deall cynnydd yn erbyn cyflawni’r Strategaeth.

Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, ei fwriad i adnewyddu'r Strategaeth i gwmpasu'r amser rhwng diwedd y Strategaeth yn 2025 ac etholiad y Senedd yn 2026. Pan ddechreuodd yn ei swydd, cadarnhaodd y cyn-Brif Weinidog, Vaughan Gething AS fod adnewyddu’n cael ei ystyried ac ailadroddodd ymrwymiad ei ragflaenydd i gynnwys y Pwyllgor yn y gwaith hwn.

Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2024 cyhoeddodd y Prif Weinidog Gynllun Cyflawni Rhyngwladol newydd ar gyfer dechrau 2025. Wrth esbonio’r newid yn y dull gweithredu, dywedodd mai ei ffocws oedd ar gyflawni, ac mai’r ffordd orau o wneud hynny oedd drwy gynllun cyflawni yn hytrach nag adnewyddu. Dywedodd wrth Gadeirydd y Pwyllgor, Delyth Jewell AS, y byddai ei rôl yn wahanol, sef craffu ar y gwaith cyflwyni ei hun. Dywed yr adroddiad ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi “camu’n ôl” ar ei hymrwymiadau i’r Pwyllgor.

Cafodd y Cynllun Cyflawni Rhyngwladol, sy'n cynnwys 15 o nodau newydd, ei gyhoeddi ar 3 Ebrill 2025.

Pwyllgorau’n ceisio atebion ar gyflawni

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder ynghylch ei chysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, ei adroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, ac adroddiad ar flaenoriaethau'r UE. Mae Argymhelliad 1 o'r adroddiad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith o gyflawni'r Strategaeth a'i chynlluniau gweithredu.

Roedd y Pwyllgor eisoes wedi cael ymrwymiad i wneud hyn gan y cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford AS ym mis Ionawr 2024 fel rhan o'i gynlluniau ar gyfer adnewyddu’r Strategaeth.

Fel Prif Weinidog, cytunodd Eluned Morgan AS hefyd i roi diweddariad ar gynnydd ym mis Rhagfyr 2024 pan ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Dywedodd:

There are areas within the strategy that are green, which have been done, they’ve been delivered. There are bits where it may be red and will continue to be red, and then we need to give you an explanation for why it is red. But there are lots of amber bits in there that we need to say, ‘Right, come on, we’ve got 18 months left; let’s get cracking, let’s make sure we deliver on what we said we were going to do.’

So, that is very much the formula that I’m very keen to make sure that you have sight of, where it is we’re delivering, and also where you need to hold us to account because we’re not.

Er gwaetha’r ymrwymiad hwn a cheisiadau dilynol gan y Pwyllgor, nid yw'r wybodaeth wedi'i darparu yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, er bod Argymhelliad 1 wedi'i restru fel ei fod wedi’i ‘‘dderbyn mewn egwyddor’. Mae'r Prif Weinidog yn nodi y bydd Adroddiad Blynyddol 2025-26 y llywodraeth, a ddisgwylir yn yr wythnosau nesaf, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y 15 nod sydd yn y Cynllun Cyflawni. Mae hi'n dweud nad yw rhai o'r camau gweithredu a amlinellwyd yn nogfen 2020 yn berthnasol nac yn ymarferol mwyach.

Ym mis Mawrth 2025, darparodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, ddiweddariad cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Allforio ar gais Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Mae’r dadansoddiad yn darparu sylwadau manwl ar bob un o 47 o gamau gweithredu’r cynllun.

Roedd argymhelliad 2 yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu mecanweithiau i fonitro cyflawni ei blaenoriaethau yn barhaus, ac i gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn ei hadroddiadau blynyddol.

Derbyniodd y Prif Weinidog yr argymhelliad hwn. Bydd y llywodraeth yn “ceisio cynnwys diweddariad yn ei hadroddiadau blynyddol ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau allweddol” gan gynnwys y Cynllun Cyflawni newydd. Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y bydd yr argymhelliad “yn cael ei ystyried ymhellach” wrth ddatblygu unrhyw strategaeth bosibl yn y dyfodol.

Pryderon difrifol ynghylch y gyllideb

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cwmpasu dau gylch craffu ar y gyllideb ddrafft, lle mae wedi codi materion difrifol a pharhaus yn y ddau, gan gynnwys bod y Prif Weinidog yn gwrthod ymddangos yn bersonol i roi tystiolaeth.

Er bod cyllideb ryngwladol Llywodraeth Cymru yn gymharol fach sef £8-9 miliwn, dywedodd y Pwyllgor fod y wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan y Prif Weinidog ar gyllideb ddrafft 2024-25 “yn is na'r safon a ddisgwyliwn ac ni allwn ystyried y ffigurau a'r cyfrifiadau a ddarperir yn hyderus”. Dyma oedd yr achos eto gyda chyllideb ddrafft 2025-26 gyda'r Pwyllgor yn rhybuddio:

bod un cyfle olaf yn parhau yn y Senedd hon i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n effeithiol â’n gwaith craffu ar gynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol, a sicrhau cydraddoldeb â phortffolios Gweinidogion eraill. Disgwyliwn welliant sylweddol y flwyddyn nesaf a phwysleisiwn na all y sefyllfa hon barhau i’r seithfed Senedd.

Nid yw'r Pwyllgor wedi derbyn gwybodaeth fanwl eto am y gwariant arfaethedig a addawyd gan y Prif Weinidog, gan gynnwys gwybodaeth am y flwyddyn hyrwyddo Cymru yn Japan a chyflawni pedwar o gynlluniau gweithredu'r Strategaeth.

Mae'r adroddiad hefyd yn trafod costau ymweliadau tramor Gweinidogion, a gyhoeddir fel arfer gan Lywodraeth Cymru unwaith y flwyddyn, gyda’r costau diweddaraf wedi’u cyhoeddi ym mis Awst 2024. Mae’r Pwyllgor yn cyferbynnu hyn â Llywodraeth yr Alban, sy'n cyhoeddi manylion pob taith dramor gan Weinidogion am y tri mis blaenorol bob chwarter.

Edrych tua'r dyfodol

Mae cyflawni cysylltiadau rhyngwladol Cymru dros y deng mis nesaf yn dibynnu ar yr hyn y mae Cynllun Cyflawni newydd Llywodraeth Cymru yn ei llwyddo i’w wneud.

Mae'r Pwyllgor yng nghanol ymchwiliad sy'n edrych ar effeithiolrwydd y Strategaeth ei hun. Mae wedi derbyn barn gymysg hyd yn hyn gan y rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar. Wrth annerch Llywodraeth Cymru, dywedodd y Cadeirydd, Delyth Jewell AS:

Wrth i ni gyrraedd cyfnod olaf y Senedd hon, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i achub ar y cyfle hwn i daflu goleuni ar ei hymdrechion, i godi ein proffil yn rhyngwladol ac i sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru