Delwedd yn dangos y Siambr wag.

Delwedd yn dangos y Siambr wag.

Pwyllgor am i fwy gael ei wneud i gael gwared ar rwystrau sy’n wynebu menywod sy’n sefyll mewn etholiadau

Cyhoeddwyd 11/07/2024   |   Amser darllen munud

Ddydd Mawrth, bydd y Senedd yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

Mae’r Bil yn ceisio sicrhau bod y Senedd yn “gynrychioliadol ar y cyfan o gyfansoddiad rhywedd y boblogaeth” drwy gyflwyno cwotâu ymgeiswyr i fenywod. Mae hyn yn golygu pennu isafswm neu ganran o fenywod y mae rhaid eu cynnwys fel ymgeiswyr mewn etholiadau.

Mae’r erthygl hon yn trafod yr argymhellion a wnaed gan Bwyllgorau’r Senedd ynghylch y Bil.

Mwyafrif aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil

Mae Pwyllgorau’r Senedd wedi bod yn craffu ar y Bil ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2024. Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn argymell drwy fwyafrif y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae’n tynnu sylw at nifer o faterion y mae angen eu hystyried ymhellach.

Yn anad dim, mae’r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru ddatrys unrhyw ansicrwydd ynghylch a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r Bil. Mae hefyd am weld mwy o eglurder ynghylch y wybodaeth a fyddai’n cael ei darparu mewn is-ddeddfwriaeth.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn codi pryderon nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud trosedd sydd eisoes yn bodoli, sef darparu datganiadau ffug mewn papurau enwebu, yn berthnasol i ddatganiadau a wneir o ganlyniad i’r Bil.

Byddai’n ofynnol i bob ymgeisydd sy’n sefyll dros blaid wleidyddol ddatgan a yw’n fenyw ai peidio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd gwneud datganiad ffug yn rhan o’r drosedd sy’n berthnasol pan roddir gwybodaeth anghywir arall, fel enw neu gyfeiriad ymgeisydd.

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn anghytuno, ac yn argymell y dylid cynnwys y datganiad hwn yn y drosedd bresennol. Mae’n credu y byddai hyn “yn angenrheidiol ac yn gymesur” er mwyn “lleddfu’r pryderon a godwyd gyda ni [gan randdeiliaid], ac atal unrhyw gamddefnydd posibl ar y Bil”.

Lleihau’r risg i etholiad 2026

Mae argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal asesiad risg o unrhyw darfu posibl ar etholiad cyffredinol y Senedd yn 2026 o ganlyniad i unrhyw heriau cyfreithiol i’r Bil.

Mae’r Llywydd wedi dweud na fyddai darpariaethau’r Bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw Lywydd ddatgan y byddai Bil yn gyfan gwbl y tu allan i gymhwysedd. Mae’r Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, yn anghytuno â’r farn hon.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn awgrymu nifer o ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru leihau’r risg o darfu, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU i newid cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Dull arall a awgrymwyd gan y Pwyllgor yw i Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru gyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys cyn iddo ddod yn gyfraith er mwyn gofyn i’r Llys benderfynu a yw’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ai peidio.

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio hefyd yn pryderu am y risg bosibl i etholiad y Senedd yn 2026 os na sicrheir “nad oes unrhyw amheuaeth” ynghylch y cwestiynau hyn.

Dull ‘mwy na chwotâu’

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn galw am weithredu’n ehangach i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod sy’n ystyried sefyll mewn etholiadau, p’un a ddaw’r Bil yn gyfraith ai peidio.

Cyfeiriodd tystion at hyn fel dull ‘mwy na chwotâu’, gan gynnwys yr Athro Laura McAllister a’r Athro Sarah Childs.

Trafododd y Pwyllgor:

  • yr hyn y gallai’r Senedd ei wneud i hyrwyddo diwylliant cynhwysol a gwella ffyrdd o weithio;
  • yr hyn y gallai pleidiau gwleidyddol ei wneud i wella amrywiaeth eu hymgeiswyr; a
  • sut y gellid darparu cymorth ariannol i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu menywod sy’n ystyried sefyll mewn etholiadau.
Archwiliad sy’n sensitif i rywedd

Mae rhai seneddau, gan gynnwys Senedd y DU a Senedd yr Alban, wedi cynnal ‘archwiliadau sy’n sensitif i rywedd’. Mae’r archwiliadau hyn yn caniatáu i senedd asesu a yw ei strwythurau a’i pholisïau yn hyrwyddo cyfranogiad menywod a phennu sut i fynd i’r afael â rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r Senedd gomisiynu ei harchwiliad sensitif i rywedd ei hun o’i diwylliant, ei ffyrdd o weithio a’i chyfleusterau. Mae am i hyn ddigwydd mewn pryd i lywio penderfyniadau sydd i’w gwneud ar ôl yr etholiad nesaf ynghylch ffyrdd o weithio’r Senedd.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cydnabod y rhan y mae pleidiau gwleidyddol yn ei chwarae o ran sicrhau amgylcheddau diogel a chroesawgar i fenywod, ac yn awgrymu y dylai’r pleidiau lunio a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant.

Aflonyddu a cham-drin

Mae ymgeiswyr etholiadol ac Aelodau etholedig mewn llywodraeth ar bob lefel ledled y DU yn wynebu cam-drin ac aflonyddu cynyddol.

Canfu gwaith ymchwil o 2023 fod 80 y cant o Aelodau Seneddol Cymru ac Aelodau o’r Senedd wedi teimlo dan fygythiad ers bod yn eu swyddi, tra bo 43 y cant wedi cael bygythiad i’w lladd. Mae rhai grwpiau’n cael eu targedu’n amlach ac mewn ffyrdd gwahanol. Mae menywod, yn arbennig, yn dioddef lefel anghymesur o gam-drin rhywiaethol.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu ynghylch pa mor gyffredin yw cam-drin ac aflonyddu. Mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Comisiwn Etholiadol ac eraill i sicrhau bod canllawiau ar sut i ymdrin â cham-drin ac aflonyddu ar gael i ymgeiswyr ac Aelodau etholedig. Mae am i ymgeiswyr wybod sut i roi gwybod am gam-drin ac mae am iddynt allu cael cymorth os bydd ei angen arnynt.

Cymorth ariannol

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil i’r “ffyrdd gorau o ddarparu cymorth ariannol i ymgeiswyr sy’n fenywod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol”.

Byddai darn arall o ddeddfwriaeth sy’n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd, sef y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn rhoi sail statudol i’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig (i gefnogi ymgeiswyr anabl). Byddai’n galluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i fynd i’r afael â rhwystrau a wynebir gan grwpiau eraill, gan gynnwys menywod.

Data Amrywiaeth Ymgeiswyr

Mae’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) hefyd yn cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar gasglu data amrywiaeth am eu hymgeiswyr.

Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd pleidiau gwleidyddol yn ymateb “yn gadarnhaol ac yn adeiladol” i unrhyw ganllawiau sy’n cael eu cyhoeddi ac yn argymell y dylid eu hestyn i gynnwys etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol fel ei gilydd.

Dywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor, heb ddata cadarn a chyson, ei bod “yn anodd nodi meysydd o dangynrychiolaeth neu fesur cynnydd”. Clywodd y Pwyllgor y byddai’r data yn galluogi’r cwotâu i gael eu gweithredu a’u monitro ac “yn grymuso pleidleiswyr a chymdeithas sifil i ddwyn pleidiau gwleidyddol i gyfrif”.

Ffordd arall o gyflawni hyn fyddai dod ag adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i rym. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd ag ymgeiswyr yn sefyll yn etholiadau’r Senedd gyhoeddi gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig eu hymgeiswyr.

Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i alw ar Lywodraeth y DU i gychwyn y ddarpariaeth hon.

Beth nesaf o ran y Bil?

Bydd dadl Cyfnod 1 yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 16 Gorffennaf, ac yna bydd pleidlais i weld a yw’r Senedd yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Bydd angen cefnogaeth mwyafrif syml i’r Bil yn y bleidlais hon, a phleidlais hefyd i awdurdodi goblygiadau ariannol y Bil er mwyn iddo allu symud ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Gallwch ddilyn y trafodion yn fyw ar Senedd.tv.

Os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen, Cyfnod 2 fydd y cyfle cyntaf i Aelodau o’r Senedd gyflwyno gwelliannau i’r Bil.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru