Beth yw Gorchymyn Adran 109?

Cyhoeddwyd 11/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Tachwedd 2014 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru GoWA Mae Adran 109 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006  (" y Ddeddf") yn caniatáu i gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei newid trwy ddiwygio Atodlen 7 i'r Ddeddf. Mae Atodlen 7 i  Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006  yn diffinio gallu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i wneud Deddfau Cynulliad, o fewn meysydd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau gweithredol. Mae Atodlen 7 yn categoreiddio'r meysydd cyfrifoldeb polisi presennol sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru mewn 20 o feysydd eang. Gall Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan Adran 109 o'r Ddeddf addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy ddiwygio Atodlen 7. Gallai'r gwelliannau hyn:
  • gynyddu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy fewnosod pynciau ychwanegol yn yr Atodlen y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch;
  • cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad drwy gynnwys eithriadau neu gyfyngiadau pellach yn yr Atodlen;
  • neu egluro cymhwysedd y Cynulliad drwy addasu'r disgrifiadau sydd eisoes yn yr Atodlen.
Rhaid i Orchymyn Adran 109 gael ei gymeradwyo gan y ddau Dŷ Seneddol a chan y Cynulliad ei hun. Gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gytuno i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy gynnwys darpariaethau mewn Deddfau seneddol. Mae'r darpariaethau hyn yn gwneud yr un gwaith â Gorchmynion Adran 109 drwy ddiwygio Atodlen 7 i'r Ddeddf, a gellid ei ddefnyddio i ddiwygio cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylai Gweinidogion Cymru geisio caniatâd y Cynulliad pan fydd darpariaethau o'r fath yn cael eu cynnwys mewn Biliau, drwy Gynnig Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae Nodyn Cyfarwyddyd Datganoli 17, sy'n rhoi canllawiau i weision sifil y DU, yn cynghori Adrannau Whitehall i fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid Gorchymyn Adran 109 lle bynnag y bo'n ymarferol, yn hytrach na darpariaethau mewn Deddfau seneddol, pan fydd cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cael ei addasu. Ar 5 Tachwedd 2014, gosododd Llywodraeth Cymru Orchymyn Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015. Mae'r Gorchymyn yn ceisio diwygio Atodlen 7 i'r Ddeddf, o ran cymhwysedd deddfwriaethol ar ddatblygu cynaliadwy. Nid yw’r Gorchymyn ei hun yn gwneud unrhyw newid arall, ond byddai'n caniatáu i'r Cynulliad ddiwygio adran 79 (sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun datblygu cynaliadwy) o'r Ddeddf pe bai'n dewis gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwelliant o'r fath i adran 79 yn ystod proses Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Y Gorchymyn 109 cyntaf a gafodd ei wneud oedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007. . Gan mai hwnnw oedd y Gorchymyn cyntaf i gael ei osod gerbron y Senedd, yn unol ag Adran 109(4)(b), nid oedd yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad nac iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad. Fodd bynnag, mae'n ofynnol fod y Cynulliad yn cymeradwyo pob Gorchymyn yn dilyn hynny. Diwygiodd Gorchymyn 2007 y pynciau a'r eithriadau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 7. Gwnaed Gorchymyn pellach yn 2010, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2010. Roedd hyn yn diwygio Atodlen 7 er mwyn adlewyrchu'r cymhwysedd deddfwriaethol a oedd wedi ei roi i'r Cynulliad o dan y trefniadau a oedd yn bodoli rhwng 2007 a 2010, ac eithriadau a chyfyngiadau penodol a oedd wedi eu rhoi ar y cymhwysedd hwnnw, gan y diweddarwyd Atodlen 7 ddiwethaf yn 2007. Gwnaeth y Gorchymyn hefyd welliannau yn egluro rhai pynciau ac eithriadau.