Pierhead in Cardiff Bay

Pierhead in Cardiff Bay

Pwy sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd? A pha leisiau sydd ar goll?

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae pwyllgorau'r Senedd yn rhan bwysig o ddemocratiaeth Cymru. Nhw sy’n cadw llygad ar weithredoedd Llywodraeth Cymru ac yn eu herio, yn craffu ar ddeddfau drafft, ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â dinasyddion. Gall eu hadroddiadau, eu hargymhellion, a’u newidiadau deddfwriaethol gael effaith wirioneddol ar sut mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus, sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, a pha ddeddfau y mae pobl yn ddarostyngedig iddynt.

Sut mae pwyllgorau'n gwneud eu gwaith?

Mae pwyllgorau’n dibynnu ar dystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i wneud eu gwaith. Mae'n eu helpu nhw i benderfynu pa faterion i ymchwilio iddynt, lle gallai problemau fod, a pha atebion allai weithio.

Mae pwyllgorau fel arfer yn cynnal ymgynghoriadau pan fyddant yn cynnal ymchwiliadau neu'n craffu ar ddeddfau a chyllidebau drafft. Gall unrhyw un ymateb i'r ymgynghoriadau hyn, yn ysgrifenedig, neu drwy fformatau eraill fel fideo neu sain. Mae pwyllgorau hefyd yn gwahodd rhai pobl a sefydliadau i roi tystiolaeth lafar yn ystod cyfarfodydd pwyllgor, gan wneud hynny wyneb yn wyneb neu o bell.

Mae tystiolaeth sy’n cael ei chasglu drwy ymgynghoriadau, cyfarfodydd pwyllgor, a gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion, fel ymweliadau maes, grwpiau ffocws ac arolygon, ochr yn ochr â gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud gan Ymchwil y Senedd neu gan gynghorwyr arbenigol, yn helpu pwyllgorau i ddod i gasgliadau, meddwl am syniadau ar gyfer newid, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pam monitro amrywiaeth y dystiolaeth i bwyllgorau?

Mae deall pa bobl a sefydliadau sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau yn gallu helpu i nodi pa leisiau sydd ar goll a rhwystrau rhag ymgysylltu.

Yn 2021, fe wnaeth cadeiryddion pwyllgorau’r Senedd argymell y dylid casglu data ar bwy sy'n ymgysylltu â phwyllgorau'r Senedd. Fe wnaeth adolygiad Stirbu 2021 i effeithiolrwydd pwyllgorau'r Senedd hefyd argymell y dylid monitro amrywiaeth tystiolaeth pwyllgorau.

Gall 'amrywiaeth' olygu llawer o wahanol bethau. Mae’r Senedd yn nodi ei bod am sicrhau bod y “dystiolaeth a ddefnyddir gan bwyllgorau'r Senedd yn dod o ystod amrywiol a chynhwysol o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau - yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan fater sy’n cael ei ystyried”.

Beth wnaeth y prosiect peilot monitro amrywiaeth tystiolaeth ei ganfod?

Rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Ebrill 2022, fe wnaeth pwyllgorau Senedd Cymru gynnal prosiect peilot i fonitro amrywiaeth tystiolaeth pwyllgorau. Gwnaethpwyd hynny mewn dwy ffordd:

  • Dadansoddi data a gasglwyd drwy System Rheoli Busnes y Senedd (system weinyddol fewnol) dros gyfnod o dair blynedd, ond dim ond ar gyfer tystion a roddodd dystiolaeth lafar; ac
  • Arolwg gwirfoddol a anfonwyd at bobl yn cyfrannu tystiolaeth i bwyllgorau (gan gynnwys tystiolaeth ysgrifenedig, tystiolaeth lafar, a gweithgareddau ymgysylltu). Cafodd arolygon gwahanol eu treialu gan wahanol bwyllgorau. Y gyfradd ymateb i’r arolygon oedd 18 y cant, sy'n golygu y dylid trin unrhyw gasgliadau yn ofalus.

Roedd y data yn dangos:

  • Gwnaeth y mwyafrif llethol (89 y cant) o’r ymatebwyr i’r arolwg gyfrannu eu tystiolaeth o bell. Cyfrannodd 75 y cant dystiolaeth yn Saesneg yn unig, cyfrannodd 13 y cant dystiolaeth yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac ychydig dros 10 y cant yn Gymraeg yn unig (neu roeddent yn dewis peidio â dweud).
  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r arolwg wedi cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor o’r blaen, naill ai’n achlysurol neu unwaith (40 y cant) neu’n aml (15 y cant). Ond mae data System Rheoli Busnes y Senedd dros y cyfnod o dair blynedd yn dangos mai dim ond unwaith y flwyddyn yr oedd y mwyafrif llethol o dystion llafar yn mynd i’r cyfarfodydd pwyllgor (dros 70 y cant).
  • Dangosodd yr arolwg fod y mwyafrif (74 y cant) o’r ymatebwyr wedi cyfrannu tystiolaeth ar ran sefydliad. O’r ymatebwyr hyn, dywedodd y rhan fwyaf fod eu sefydliad wedi cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor o’r blaen, naill ai’n aml (44 y cant) neu unwaith neu’n achlysurol (35 y cant).

Cynrychiolaeth sectoraidd

Mae'r graff canlynol yn dangos cyfran yr ymatebion arolwg ar gyfer pob sector ac yn nodi gwahaniaethau gyda data System Rheoli Busnes y Senedd.

Ymatebion arolwg yn ôl y sector (cliciwch ar bwynt bwled neu floc ar y graff)

 

Dywedodd 33 y cant o’r ymatebwyr arolwg a roddodd dystiolaeth yn rhinwedd eu swydd neu ar ran sefydliad eu bod yn cynrychioli’r sector cyhoeddus. Yn ôl data System Rheoli Busnes y Senedd, roedd tua thraean o’r tystion llafar (ac eithrio cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru) yn cynrychioli’r sector cyhoeddus yn 2021-22.

Mae'r trydydd sector/sector gwirfoddol wedi’i gynrychioli yn dda hefyd. Daeth 32 y cant o ymatebion arolwg yn rhinwedd swydd neu ar ran sefydliad o’r sector hwn, ac mae data System Rheoli Busnes y Senedd yn dangos eu bod yn cyfrif am oddeutu 20 y cant o dystion llafar (cynnydd o oddeutu 10 y cant yn 2019-20).

Academyddion oedd llai na 9 y cant o'r ymatebwyr arolwg, ac roeddent yn 10 y cant o’r tystion llafar yn 2021-22 (gostyngiad o 13 y cant yn 2019-20)

Roedd cyrff proffesiynol ac undebau llafur yn cynrychioli 8 y cant o’r ymatebion arolwg, ac yn cyfrif am 12 y cant o dystion.

Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru (Gweinidogion a swyddogion) oedd yn gyfrifol am lai na 5 y cant o’r ymatebion arolwg. Fodd bynnag, roeddent yn cyfrif am fwy na chwarter o dystion llafar yn ôl System Rheoli Busnes y Senedd.

Roedd gan y sector preifat gynrychiolaeth isel mewn tystiolaeth pwyllgor. Dangosodd data'r arolwg fod llai na 5 y cant o dystiolaeth yn dod o'r sector hwn. Fel pwynt cyfeirio, cyflogir 70 y cant o weithlu Cymru yn y sector preifat.

Roedd 10 y cant o dystiolaeth yn dod o ffynonellau eraill gan gynnwys: cyrff diwydiant neu reoleiddwyr; cyrff materion cyhoeddus; grwpiau ymgyrchu neu gymunedol; cynrychiolwyr grwpiau ieuenctid, disgyblion ysgol neu fyfyrwyr, neu Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; ac unigolion.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Nid yw gwerthoedd o dan 5 y cant yn cael eu dangos i osgoi datgelu manylion. Amcangyfrif yw maint y bocs ar gyfer y grwpiau, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, y sector preifat ac eraill.

Cynrychiolaeth ddaearyddol

Mae'r graff isod yn dangos canran yr ymatebwyr arolwg yn ôl ardal breswyl. Mae cymharu â chanran poblogaeth Cymru yn dangos a yw ardaloedd yn cael eu gorgynrychioli neu eu tangynrychioli.

Map a graff yn dangos dosbarthiad yr ymatebwyr arolwg o gymharu â'r boblogaeth yn ôl rhanbarthau Cymru. Gogledd Cymru: 14 y cant o'r ymatebion, 20 y cant o'r boblogaeth. Canolbarth a Gorllewin Cymru: 14 y cant o'r ymatebion, 18 y cant o'r boblogaeth. De-orllewin Cymru: 10 y cant o'r ymatebion, 18 y cant o'r boblogaeth. Canol De Cymru: 45 y cant o'r ymatebion, 23 y cant o'r boblogaeth. De-ddwyrain Cymru: 8 y cant o'r ymatebion, 21 y cant o'r boblogaeth. Lloegr: 4 y cant o'r ymatebion. Arall: 4 y cant o'r ymatebion.

Ffynhonnell: Y data ar gyfer ardaloedd etholaethol Senedd Cymru: 2021.

Mae 'arall' yn cynnwys yr Alban, y tu allan i'r DU, ac yn well ganddynt beidio â dweud.

Cynrychiolaeth ddemograffig

Mewn cymhariaeth â’r data poblogaeth, mae’r data arolwg yn dangos tangynrychiolaeth o bobl iau (dan 30 oed) a phobl dros 60 oed, sy’n debygol o adlewyrchu’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn rhinwedd eu swydd, o oedran gweithio, ac yn uwch yn eu gyrfa.

Graff yn cymharu canran yr ymatebion i'r arolwg gyda chanran poblogaeth Cymru 16+ oed. 16-29 oed: 8 y cant o’r ymatebion, 20 y cant o’r boblogaeth. 30-44 oed: 31 y cant o’r ymatebion, 22 y cant o’r boblogaeth. 45-59 oed: 46 y cant o’r ymatebion, 24 y cant o’r boblogaeth. 60+ oed: 16 y cant o’r ymatebion, 34 y cant o’r boblogaeth.

Dywedodd mwy na 55 y cant o’r ymatebwyr arolwg eu bod yn fenywaidd, mewn cymhariaeth â phoblogaeth Cymru, lle mae 51 y cant yn fenywaidd.

Gofynnodd dau o’r arolygon peilot am gefndir addysg, cyflogaeth a economaidd-gymdeithasol. Roedd 90 y cant o’r ymatebwyr arolwg wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu uwch, mewn cymhariaeth â 25 y cant o boblogaeth Cymru.

Graff yn dangos yr ystadegau a ddisgrifir uchod.

Hefyd, roedd gorgynrychiolaeth o bobl yn gweithio'n amser llawn mewn cymhariaeth â phoblogaeth Cymru (58 y cant mewn cymhariaeth â 36 y cant). Nid oedd 80 y cant o’r ymatebwyr arolwg o’r farn eu bod o gefndir difreintiedig.

Nododd llai na 15 y cant o’r ymatebwyr arolwg fod ganddynt anabledd, mewn cymhariaeth â 22 y cant o boblogaeth Cymru.

Graff yn dangos yr ystadegau a ddisgrifir uchod.

Ac eithrio'r rhai a oedd yn dewis peidio â dweud, nid oedd gan 55 y cant o’r ymatebwyr arolwg grefydd, ac roedd 36 y cant yn Gristnogion. Mewn cyferbyniad, nid oedd gan 47 y cant o boblogaeth Cymru grefydd ac roedd 44 y cant yn Gristnogion.

Gofynnodd dau o’r arolygon peilot am gyfrifoldebau gofalu o ganlyniad i iechyd corfforol neu feddyliol neu henaint. Dywedodd 20 y cant o’r ymatebwyr arolwg fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, ond mae ymchwil yn dangos bod 29 y cant o boblogaeth Cymru yn gofalu am rywun.

Graff yn dangos yr ystadegau a ddisgrifir uchod.

O ran cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rywedd, hunaniaeth genedlaethol, a grŵp ethnig, nid oedd yn ymddangos bod tangynrychiolaeth sylweddol mewn cymhariaeth â phoblogaeth Cymru yn ei chyfanrwydd. 

Roedd bron hanner yr ymatebwyr yn byw yn rhanbarth canol de Cymru, felly mae’r ymatebwyr yn debygol o adlewyrchu demograffeg y rhanbarth hwn yn agosach.

Oni nodir yn wahanol, gwneir y cymariaethau uchod gan ddefnyddio'r data Cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael, naill ai o 2011 (ar gyfer addysg, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, a hunaniaeth genedlaethol), neu 2021 (ar gyfer oedran, rhyw, patrwm gwaith, crefydd, a grŵp ethnig). Nid yw gwerthoedd o dan 5 y cant yn cael eu dangos i osgoi datgelu manylion.

Y profiad o roi tystiolaeth

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr i’r arolwg a holwyd am eu profiad o gyfrannu at waith pwyllgor yn fodlon, gan gynnwys y rhybudd a gawsant, y cyfle iddynt fynegi eu barn, help gan staff, a’u profiad cyffredinol. Dywedodd 95 y cant eu bod yn ‘debygol’ neu’n ‘debygol iawn' y byddent yn cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor eto, o gael y cyfle.

Beth nesaf?

Dechreuodd ail gynllun peilot y system monitro amrywiaeth tystiolaeth ym mis Tachwedd 2022. Bydd gwahoddiad i'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymgysylltu â phwyllgorau'r Senedd lenwi'r arolwg.

Bydd y data hefyd yn helpu pwyllgorau i ddeall effaith newidiadau i'w prosesau ers y pandemig, yn enwedig parhau i ddefnyddio tystiolaeth o bell.

Mae amrywiaeth o waith yn cael ei archwilio a'i wneud yn fewnol i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan yng ngwaith pwyllgorau, gan gynnwys canllawiau a hyfforddiant newydd.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun peilot yn y cwestiynau cyffredin.


Erthygl gan Hannah Johnson a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru