“Pwnc llosg”: Pam mae menywod yn cael trafferth i gael eu presgripsiynau HRT

Cyhoeddwyd 05/05/2022   |   Amser darllen munudau

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas Menopos Prydain ddiweddariad ynghylch i ba raddau yr oedd cynhyrchion Therapi Adfer Hormonau (HRT) ar gael ar hyn o bryd.. O ganlyniad i broblemau cynhyrchu a chyflenwi, mae llawer o fenywod yn y DU yn cael trafferth i gael eu meddyginiaeth HRT, neu hyd yn oed i gael presgripsiwn ar gyfer triniaethau amgen. Mae'r erthygl hon yn edrych ar beth yw sail y prinder o HRT. Gall Aelodau o’r Senedd a’u staff hefyd ei defnyddio i gyfeirio eu hetholwyr at gyngor a chymorth.

Mae tua miliwn o fenywod yn y DU yn defnyddio HRT i leddfu symptomau’r menopos

Cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG), Cymdeithas Menopos Prydain (BMS) a’r Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol (FSRH) ddatganiad ar y cyd fwy na 2 flynedd yn ôl yn amlygu pryderon nad oedd rhai menywod ledled y DU yn gallu cael eu presgripsiynau oherwydd prinder cynhyrchion HRT. Mae methiant i fynd i’r afael â’r prinder, ynghyd ag effaith problemau cyflenwi byd-eang sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu bod llawer o fenywod yn hynod bryderus ynghylch methu â chael gafael ar y feddyginiaeth hanfodol hon.

Mae llawer o fenywod yn profi symptomau menopos sy'n effeithio ar eu hansawdd bywyd a'u hiechyd corfforol hirdymor. HRT yw'r math mwyaf effeithiol o driniaeth. Mae HRT yn trin symptomau diwedd y mislif gan gynnwys pyliau poeth, chwysu yn y nos, sychder yn y fagina, poenau yn y cymalau a phoenau cyffredinol, blinder a hwyliau isel. Adroddir hefyd y gall HRT helpu i leihau heintiau wrin sy'n dychwelyd dro ar ôl tro, gwella gweithrediad rhyw a lleihau'r risg o osteoporosis.

Defnyddir HRT i gymryd lle'r hormonau estrogen sy'n peidio â chael eu cynhyrchu gan yr ofarïau pan fydd menyw yn dechrau cyfnod y menopos. Mae rhai mathau hefyd yn cynnwys yr hormon progestogen. Mae yna wahanol ddulliau o gymryd HRT, gan gynnwys tabledi, patsiau croen, geliau a hufenau'r fagina, neu fodrwyau. Ond fel pob meddyginiaeth, unwaith y bydd claf wedi cael un math o feddyginiaeth ar bresgripsiwn, nid yw'n hawdd newid i un arall os bydd cyflenwadau'n prinhau. Mae dadleuon hefyd ynghylch effeithiolrwydd y gwahanol fathau o HRT sy’n golygu y gallai cleifion fod yn amharod i dderbyn opsiynau eraill o ran meddyginiaeth.

Ychydig iawn o esboniad sydd am y prinder y tu hwnt i faterion gweithgynhyrchu a chyflenwi, er y gall cynnydd yn nifer y menywod sy’n defnyddio HRT oherwydd ymwybyddiaeth o’i fanteision fod yn rhannol gyfrifol am y prinder hefyd

Mae Cadeirydd Cymdeithas Menopos Prydain wedi dweud o'r blaen “Mae’n parhau i fod yn aneglur pam fod yna brinder triniaethau yn y lle cyntaf, na phryd y gallai cyflenwad arferol y cynhyrchion ailddechrau”.

Mae cwmni Fferyllol Janssen, sy'n cynhyrchu triniaeth HRT Evorel, wedi dweud eu bod nhw wedi gweld "cynnydd anarferol yn y galw am HRT dros y misoedd diwethaf drwy nifer o wledydd, gan gynnwys y DU".

Effeithiwyd ar rai cyflenwadau gan yr heriau parhaus a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19. Mae menywod hefyd wedi wynebu anawsterau o ran cael apwyntiadau clinigol a chael gwasanaethau fferyllol, sy’n debygol o fod wedi ychwanegu ymhellach at y sefyllfa hon.

Ond mae Carolyn Harris yr AS Llafur, sy'n cyd-gadeirio Tasglu Menopos y DU yn dweud mai ‘cynllunio gwael' sy’n sail i'r prinder cyffuriau HRT. Mae hi wedi dweud bod y prinder HRT yn dangos nad yw iechyd menywod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth;

The trouble with the menopause is for far too long women have not been listened to, women have been ignored, they've been prescribed and diagnosed with other conditions and the menopause wasn't even considered…For a menopausal woman this HRT is as important as insulin is to a diabetic.

Codwyd y mater prinder yr wythnos diwethaf yn Nhŷ’r Cyffredin gan Caroline Nokes, yr AS Ceidwadol a chadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb. Dywedodd fod fferyllfeydd yn ei hetholaeth hi wedi defnyddio’u holl gyflenwadau o HRT, “sy’n gadael menywod o oedran arbennig … heb fynediad at y gel estrogen sy’n ein galluogi ni i gysgu ac i weithio’n gymwys.”

Dywedodd yr AS wrth y Mail on Sunday; ““You can’t help but feel that, if this was a drug used exclusively by men, they’d have sent in the army to beef up production by now.”

Nid yw menopos bellach yn air cywilyddus, ond nid yw meddyginiaeth HRT yn dal i fyny â'r galw

Mae menywod yn siarad rhagor am y menopos ac felly'n darganfod bod help ar gael ar gyfer eu symptomau. Mae enwogion proffil uchel, fel Davina McCall wedi ymgyrchu am well gofal, ac mae arweinwyr gwleidyddol gan gynnwys Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban wedi siarad yn blwmp ac yn blaen am eu profiadau o’r menopos. Mae hynny yn helpu llawer o fenywod i sylweddoli nad oes yn rhaid iddynt ddioddef yn dawel mwyach. Gallai hyn egluro rhyw gymaint ar y cynnydd yn y galw am HRT.

Mae ffigurau diweddar yn awgrymu bod nifer y presgripsiynau HRT yn y DU wedi mwy na dyblu yn y pum mlynedd diwethaf.

Mae'n bosibl bod menywod a oedd wedi peidio â chymryd HRT yn y gorffennol oherwydd 'straeon braw' am y driniaeth hefyd yn dod ymlaen i’w gael bellach. Yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau a oedd yn nodi bod HRT yn effeithiol ac yn ddiogel iawn; ac yn difrïo honiadau blaenorol am risgiau’r driniaeth.

Mae’r canllawiau wedi arwain at fod meddygon teulu wedi cael eu hannog fwyfwy i ragnodi HRT i fenywod sy’n dioddef systemau’r menopos. Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld menywod yn herio pethau’n fwy amlwg, ac yn gofyn am HRT gan feddygon teulu ac yn galw am fwy o gefnogaeth yn y gweithle.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad eto ar y cyflenwad o feddyginiaethau HRT yng Nghymru

Yn gynharach eleni, dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd yng Nghymru, wrth Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fod iechyd menywod yn flaenoriaeth ganddi. Mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad ansawdd iechyd menywod yn ddiweddarach eleni ac mae’n aelod o Dasglu’r DU.

Ond er gwaethaf adroddiadau parhaus o brinder cyffredinol o driniaethau, sy’n debygol o fod yn achos pryder i lawer o fenywod yng Nghymru sy’n dibynnu ar y driniaeth hon, ychydig iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud am y mater. A yw’r Gweinidog yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn cael mynediad dibynadwy a theg at y meddyginiaethau hanfodol hyn yn y tymor byr ac yn y tymor hwy?

Cyhoeddodd Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, yr wythnos diwethaf y byddai ef yn penodi tsar HRT newydd i fynd i'r afael â’r argyfwng cyflenwadau HRT. Ar 28 Ebrill, cyhoeddodd mai Madelaine McTernan (pennaeth tasglu brechlynnau’r DU) fydd yn arwain y tasglu HRT newydd. Gallai’r ffocws hwn ar HRT olygu y gellir cyflymu camau o ran argymhellion eraill y galwyd amdanynt i fynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o HRT (fel newid yn y gyfraith o ran rhagnodi), yn ogystal â galwadau am bresgripsiynau blynyddol ar gyfer HRT.

Mae cymorth a chyngor ar gael i fenywod sy’n cael trafferth i ymdopi â symptomau’r menopos a/neu sy’n cael trafferth i gael cyflenwadau o HRT

Yn ôl Cymdeithas Menopos Prydain, mae mwy na 75% o fenywod yn profi symptomau diwedd y mislif, ac mae chwarter y menywod hyn yn disgrifio eu symptomau fel rhai difrifol. Mae llawer o adnoddau ar gael i fenywod a allai fod yn profi symptomau diwedd y mislif. Mae lincs ar gyfer gwybodaeth o'r fath wedi'u cynnwys isod:

Mae Cymdeithas Menopos Prydain hefyd yn diweddaru eu gwefan yn gyson o ran pa driniaethau sydd ar gael, yn seiliedig ar wybodaeth gan y gwneuthurwyr. Maen nhw'n dweud bod cyflenwadau o nwyddau HRT amgen ar gael, ac y dylai menywod yr effeithir arnynt drafod y dewisiadau amgen gyda'u meddyg teulu.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru