Cyhoeddwyd 09/10/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
9 Hydref 2013

Ar 27 Medi rhyddhaodd Gweithgor 1 (WG1 - Sail Gwyddoniaeth Ffisegol) y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei ganfyddiadau diweddaraf ar y dystiolaeth o newid yn yr hinsawdd. Dyma’r prif gasgliadau:
"Mae system yr hinsawdd yn bendant yn cynhesu"
a
"Mae’n amlwg bod dynoliaeth yn dylanwadu ar system yr hinsawdd"
Corff gwyddonol y Cenhedloedd Unedig yw’r IPCC gyda chylch gwaith o roi barn wyddonol glir i’r byd ar y wybodaeth sydd ganddo ar hyn o bryd am newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau posibl. Nid yw’n cynhyrchu ei waith ymchwil ei hun ond mae’n adolygu ac yn asesu’r wybodaeth wyddonol, dechnegol ac economaidd-gymdeithasol ddiweddaraf sydd ar gael yn fyd-eang.
Y pumed asesiad yw’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n rhoi dealltwriaeth gyfredol o newid yn yr hinsawdd ac mae wedi’i rannu’n bedwar rhan:
- Gweithgor I - Sail Gwyddoniaeth Ffisegol
- Gweithgor II - Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd - Addasu ac Amrywio
- Gweithgor III - Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd
- Adroddiad Synthesis (gan dynnu oddi ar y tri gweithgor uchod)
Y cyntaf o’r rhain gafodd ei ryddhau yn ddiweddar gan roi’r ddealltwriaeth wyddonol fwyaf cyfredol sydd ar gael o wyddoniaeth yr hinsawdd, ar ôl manteisio ar dystiolaeth dros 9,200 o gyhoeddiadau gwyddonol.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad hwn, drwy arsylwi, yn dangos, gyda lefel gynyddol o sicrwydd ers yr adroddiad diwethaf (AR4), bod yr atmosffer a’r cefnforoedd wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a’r rhew wedi lleihau, bod lefelau’r môr wedi codi a bod y crynodiadau o nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu.
Er enghraifft, yn Hemisffer y Gogledd, mae’n debyg mai 1983-2012 oedd y cyfnod o 30 mlynedd cynhesaf yn y 1,400 mlynedd diwethaf. Mae bron yn sicr bod rhan uchaf y cefnfor wedi cynhesu rhwng 1970 a 2010 a bod crynodiadau atmosfferig rhai nwyon tŷ gwydr (gan gynnwys carbon deuocsid) wedi cyrraedd lefelau digynsail yn ystod yr 800,000 blynedd diwethaf.
Cafodd rhagfynegiadau newydd ar gyfer y dyfodol hefyd eu cyhoeddi ers AR4 a chafodd y modelau a ddefnyddiwyd i wneud y rhain eu datblygu. Felly mae hyder mawr y gallant atgynhyrchu patrymau a thueddiadau o ran tymheredd arwyneb ar raddfa’r cyfandir dros lawer degawd.
O dan yr holl senarios yn y dyfodol bydd tymheredd cymedrig y byd yn parhau i godi oni bai bod nwyon tŷ gwydr yn lleihau. Ni fydd y newidiadau hyn yn y tymheredd yn unffurf, er, yn y rhan fwyaf o leoedd, mae bron yn sicr y bydd rhagor o enghreifftiau o dymheredd eithafol poeth a llai o dymheredd eithafol oer. Rhagwelir y bydd llawer o effeithiau eraill ar yr hinsawdd, o gynnydd yn y cyferbynnedd mewn dyddodiad rhwng rhanbarthau a thymhorau gwlyb a sych i gyfradd lefel y môr yn fyd-eang yn codi’n uwch nag y gwnaeth yn ystod y cyfnod 1971-2010.
Cafodd yr arafiad neu’r bwlch mewn cynhesu byd-eang ers 1998 lawer o sylw yn y cyfryngau. Daw awduron adroddiad yr IPCC i’r casgliad nad yw 15 mlynedd yn amser digon hir i ddod i gasgliadau pendant am y rhesymau dros y saib. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ar hyn yn parhau i fod yn eithaf prin.
Cyhoeddwyd Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2010 ac mae’n nodi targedau allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Yn ychwanegol at gyflawni gostyngiad o o leiaf 40% yng nghyfanswm yr allyriadau tŷ gwydr yng Nghymru erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu hefyd at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn o 2011 ym mhob maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli (yn erbyn gwaelodlin o allyriadau cyfartalog rhwng 2006-10). Mis Rhagfyr 2013 fydd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru adrodd ar gyflawni’r targed o 3%.
Rhagor o wybodaeth
IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis,
Headline Statements from the Summary for Policymakers
IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis,
WGI Fact Sheet
IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis,
Summary for Policy Makers
Erthygl gan
Matthew McLeod