Pumed Adroddiad Asesu yr IPCC (AR5)

Cyhoeddwyd 09/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Hydref 2013 IPCC-AR5-WGI-cover Ar 27 Medi rhyddhaodd Gweithgor 1 (WG1 - Sail Gwyddoniaeth Ffisegol) y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei ganfyddiadau diweddaraf ar y dystiolaeth o newid yn yr hinsawdd.  Dyma’r prif gasgliadau: "Mae system yr hinsawdd yn bendant yn cynhesu" a "Mae’n amlwg bod dynoliaeth yn dylanwadu ar system yr hinsawdd" Corff gwyddonol y Cenhedloedd Unedig yw’r IPCC gyda chylch gwaith o roi  barn wyddonol glir i’r byd ar y wybodaeth sydd ganddo ar hyn o bryd am newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau posibl.  Nid yw’n cynhyrchu ei waith ymchwil ei hun ond mae’n adolygu ac yn asesu’r wybodaeth wyddonol, dechnegol ac economaidd-gymdeithasol ddiweddaraf sydd ar gael yn fyd-eang. Y pumed asesiad yw’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n rhoi dealltwriaeth gyfredol o newid yn yr hinsawdd ac mae wedi’i rannu’n bedwar rhan:
  •          Gweithgor I - Sail Gwyddoniaeth Ffisegol
  •          Gweithgor II - Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd - Addasu ac Amrywio
  •          Gweithgor III - Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd
  •          Adroddiad Synthesis (gan dynnu oddi ar y tri gweithgor uchod)
Y cyntaf o’r rhain gafodd ei ryddhau yn ddiweddar gan roi’r ddealltwriaeth wyddonol fwyaf cyfredol sydd ar gael o wyddoniaeth yr hinsawdd, ar ôl manteisio ar dystiolaeth dros 9,200 o gyhoeddiadau gwyddonol. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad hwn, drwy arsylwi, yn dangos, gyda lefel gynyddol o sicrwydd ers yr adroddiad diwethaf (AR4), bod yr atmosffer a’r cefnforoedd wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a’r rhew wedi lleihau, bod lefelau’r môr wedi codi a bod y crynodiadau o nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu. Er enghraifft, yn Hemisffer y Gogledd, mae’n debyg mai 1983-2012 oedd y cyfnod o 30 mlynedd cynhesaf yn y 1,400 mlynedd diwethaf. Mae bron yn sicr bod rhan uchaf y cefnfor wedi cynhesu rhwng 1970 a 2010 a bod crynodiadau atmosfferig rhai nwyon tŷ gwydr (gan gynnwys carbon deuocsid) wedi cyrraedd lefelau digynsail yn ystod yr 800,000 blynedd diwethaf. Cafodd rhagfynegiadau newydd ar gyfer y dyfodol hefyd eu cyhoeddi ers AR4 a chafodd y modelau a ddefnyddiwyd i wneud y rhain eu datblygu. Felly mae hyder mawr y gallant atgynhyrchu patrymau a thueddiadau o ran tymheredd arwyneb ar raddfa’r cyfandir dros lawer degawd. O dan yr holl senarios yn y dyfodol bydd  tymheredd cymedrig y byd yn parhau i godi oni bai bod nwyon tŷ gwydr yn lleihau. Ni fydd y newidiadau hyn yn y tymheredd yn unffurf, er, yn y rhan fwyaf o leoedd, mae bron yn sicr y bydd rhagor o enghreifftiau o dymheredd eithafol poeth a llai o dymheredd eithafol oer.  Rhagwelir y bydd llawer o effeithiau eraill ar yr hinsawdd, o gynnydd yn y cyferbynnedd mewn dyddodiad rhwng rhanbarthau a thymhorau gwlyb a sych i gyfradd lefel y môr yn fyd-eang yn codi’n uwch nag y gwnaeth yn ystod y cyfnod 1971-2010. Cafodd yr arafiad neu’r bwlch mewn cynhesu byd-eang ers 1998 lawer o sylw yn y cyfryngau. Daw awduron adroddiad yr IPCC i’r casgliad nad yw 15 mlynedd yn amser digon hir i ddod i gasgliadau pendant am y rhesymau dros y saib.   Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ar hyn yn parhau i fod yn eithaf prin. Cyhoeddwyd Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2010 ac mae’n nodi targedau allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Yn ychwanegol at gyflawni gostyngiad o o leiaf 40% yng nghyfanswm yr allyriadau tŷ gwydr yng Nghymru erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu hefyd at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn o 2011 ym mhob maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli (yn erbyn gwaelodlin o allyriadau cyfartalog rhwng 2006-10). Mis Rhagfyr 2013 fydd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru adrodd ar gyflawni’r targed o 3%. Rhagor o wybodaeth IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis, Headline Statements from the Summary for Policymakers IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis, WGI Fact Sheet IPCC, Climate Change 2013: The Physical Science Basis, Summary for Policy Makers Erthygl gan Matthew McLeod