Mae dechrau 2022 wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r Senedd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith craffu manwl ar gynlluniau gwariant diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ychydig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, gwnaethom ddarparu crynodeb o'r dyraniadau allweddol a wnaed yn ôl adran y Llywodraeth, a'r newidiadau a welwyd ers y llynedd.
Ers hynny, mae’r Senedd wedi bod yn craffu ar y gyllideb, ac yn yr erthygl hon, rydym yn nodi pum peth a ddysgwyd gennym yn sgil Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
1: Roedd cyfnod o bedair wythnos wedi’i neilltuo yn ystod y tymor i’r Senedd graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ac i’r pwyllgorau gyhoeddi eu hadroddiadau. Roedd yr amserlen honno’n fyrrach nag arfer
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23 ar 20 Rhagfyr 2021, sef diwrnod cyntaf toriad y Nadolig. Golyga hyn mai dim ond pedair wythnos fusnes oedd ar gael i’r Senedd gwblhau ei gwaith craffu ac i’r pwyllgorau gyhoeddi eu hadroddiadau.
Yn sgil y ffaith ei fod wedi gwneud gwaith ymgysylltu manwl â’r cyhoedd ac wedi cwblhau ymarfer ymgynghori cyn y gyllideb, cymerodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth ynghylch y Gyllideb Ddrafft gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 22 Rhagfyr 2021. Yna, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, cymerodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan gynrychiolwyr o 13 o sefydliadau mewn chwe sesiwn graffu, cyn cynnal sesiwn graffu bellach gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar21 Ionawr 2022.
Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol lle mae’r amserlen ar gyfer cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru wedi golygu bod llai o amser ar gael i’r Senedd wneud ei gwaith craffu.
Roedd peth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor cyn y gyllideb yn tynnu sylw at yr amser byr a neilltuwyd ar gyfer gwaith craffu. Er enghraifft, nododd Chwarae Teg fod y cyfyngiadau ar gyfleoedd mudiadau cymdeithas sifil i ymgysylltu â’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft yn parhau i fod yn broblem.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd glynu wrth amserlen arferol ar gyfer y gyllideb. Roedd hyn oherwydd na fyddai’r Llywodraeth y gwybod faint o gyllid yr oedd yn mynd i’w gael nes i Lywodraeth y DU gwblhau ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant.
2: Dyma'r gyllideb aml-flwyddyn gyntaf ers 2017
Am y tro cyntaf ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllideb aml-flwyddyn. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn nodi’r dyraniadau cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2022-23, yn ogystal â’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Roedd cyfle i Lywodraeth Cymru wneud hyn gan fod Llywodraeth y DU, ar 27 Hydref 2021, wedi cyhoeddi ei Chyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y blynyddoedd i ddod. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl, 'Beth mae Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2021 yn ei olygu i Gymru?'
Croesawodd nifer o gyrff cyhoeddus y gyllideb aml-flwyddyn. Rodd y cyrff hynny yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a nododd fod ei phroses o wneud penderfyniadau wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol yn sgil y gallu i gynllunio ar sail aml-flwyddyn.
3: Yn 2022-23, bydd gan adrannau Llywodraeth Cymru 15 y cant yn fwy o gyllid ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd na’r dyraniadau a welwyd yn 2021-22. Fodd bynnag, mae’r cynnydd ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yn llawer llai
Mae cyfanswm Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 dros £24 biliwn. O’r swm hwn, dyrennir £18.8 biliwn i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd. Yn seiliedig ar linellau sylfaen Llywodraeth Cymru, sy’n hepgor dyraniadau dros dro ar gyfer COVID-19, mae’r dyraniadau hyn wedi cynyddu £2.5 biliwn (neu 15 y cant) o gymharu â’r dyraniadau ar gyfer 2021-22. Mae’r cynnydd yn y dyraniadau dangosol ar gyfer y blynyddoedd dilynol yn llawer llai: 2.9 y cant ar gyfer 2023-24 a 2.4 y cant ar gyfer 2024-25.
Fel y dangosir yn y ffeithlun isod, mae’r cynnydd mwyaf ar gyfer 2022-23, mewn termau gwerth, wedi’i ddyrannu i’r adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£1.0 biliwn). Bydd yr adran honno’n cael 52 y cant o’r swm a ddyrennir ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn 2022-23. Er bod y dyraniadau ar gyfer adrannau eraill hefyd yn cynyddu, mae Dadansoddi Cyllid Cymru wedi datgan y bydd lefelau gwariant, ac eithrio gwariant ar y GIG, yn parhau i fod yn is na'r lefelau a welwyd cyn y cyfnod o gyni, a hynny er gwaethaf y twf a ragwelir dros y tair blynedd nesaf.
Dyraniadau Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw Llywodraeth Cymru, 2022-23
*Mae dyraniadau refeniw yn cynnwys costau o ddydd i ddydd fel cyflogau staff a phrynu nwyddau traul a gwasanaethau.
**Heb gynnwys £1 biliwn o incwm o ardrethi annomestig.
***Yn cynnwys dyraniad o £459 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd benthyciadau myfyrwyr.
Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i weld yr union ffigurau.
Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23
4: Bydd y ffaith bod cyllid cyfalaf yn gostwng ym mhob un o flynyddoedd y setliad yn her sylweddol, yn ôl Llywodraeth Cymru
Mae'r Gyllideb Ddrafft hefyd yn dyrannu cyllid cyfalaf i adrannau unigol Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hwn ar gyfer gwariant sy'n arwain at greu ased. Mae asedau o’r fath yn cynnwys adeiladau, offer, seilwaith neu dechnoleg. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd ei dyraniad cyfalaf gan Lywodraeth y DU yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob un o flynyddoedd y setliad, gan nodi y bydd y dyraniad hwn 11 y cant yn is yn 2024-25 nag yr oedd yn 2021-22.
Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi disgrifio’r sefyllfa hon fel un arbennig o heriol. Mae’r Gweinidog am gymryd y camau a ganlyn er mwyn ceisio gwneud y defnydd gorau o’r swm sydd ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf:
- Benthyca – mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu benthyca £150 miliwn bob blwyddyn, sef yr uchafswm a ganiateir o dan y Fframwaith Cyllidol.
- Cynnal adolygiad sylfaenol ar sail sero o’i chyllideb gyfalaf – yn hytrach na pharhau â threfn y gyllideb o flynyddoedd blaenorol, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu ei bod wedi dechrau o’r newydd wrth bennu ei dyraniadau.
- Gor-ddyrannu adnoddau cyllid cyfalaf – ar gyfer y tair blynedd a gwmpesir gan y Gyllideb Ddrafft, sef 2022-23 i 2024-25, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu swm sydd £277.1 miliwn yn fwy na’r cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi (£79.7 miliwn yn fwy yn 2022-23). Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru reoli ac ymateb i unrhyw danwariant sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn ôl y Gweinidog.
Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y byddai gan Lywodraeth Cymru opsiwn arall pe bai’n dymuno cynyddu’r swm sydd ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf. Gallai newid cyllid refeniw i gyllid cyfalaf pe dymunai wneud hynny. Yn ogystal, nododd fod y gyllideb gyfalaf yn sylweddol uwch na’r cyllidebau a gafwyd yn ystod y 2010au, a’i bod yn parhau i fod ar lefel weddol uchel o’i chymharu â lefelau hanesyddol.
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn mapio buddsoddiadau cyfalaf yn erbyn meysydd gwasanaeth. Mae enillwyr a chollwyr yn y sefyllfa hon. Mae’r gwariant mwyaf ar gyfer yr adran Newid Hinsawdd, gyda swm dros dro o £4.8 biliwn wedi’i ddyrannu dros y tair blynedd nesaf (£1.6 biliwn yn 2022-23). Mae hyn yn cyfateb i fwy na hanner cyfanswm y dyraniadau cyfalaf a wneir gan Lywodraeth Cymru.
5: Mae’n bosibl na fydd y cyllid a ddyrennir mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn ddigonol, ac mae’n bosibl na fydd yr arian hwn yn arian newydd
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynllun lleihau allyriadau ar gyfer Cyllideb Garbon 2 (2021 i 2025), sy'n “gosod y sylfeini i wneud Cymru'n Sero Net erbyn 2050.” Gallwch ddarllen mwy am y pwnc hwn yn ein herthygl, “Cynllun newydd ar gyfer Cymru Sero Net”.
Ochr yn ochr â’i Chyllideb Ddrafft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth 10 mlynedd newydd, sef y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, a'r Cynllun Cyllid Seilwaith, gan nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y seilwaith rhwng blynyddoedd ariannol 2022-23 a 2024-25.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud:
Drwy ein Cynllun Cyllid Seilwaith tair blynedd newydd sy'n seiliedig ar £8b o wariant cyfalaf, rydym wedi nodi sut rydym wedi ystyried effaith carbon yr holl fuddsoddiadau yn gyson â Chynllun Sero Net Cymru, gyda buddsoddiad wedi'i dargedu gwerth £1.8bn yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Fodd bynnag, dywedodd sefydliad New Economics Foundation nad oedd y cyfan o’r £1.8 biliwn a nodwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2022-23 yn “arian newydd”, gan ei fod yn cynnwys rhywfaint o wariant a bennwyd ymlaen llaw. Amcangyfrifodd y sefydliad fod gwerth unrhyw wariant newydd neu wariant ychwanegol yn llai na’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ei wario, sef swm ychwanegol o £600 miliwn y flwyddyn (neu swm ychwanegol o £1.8 biliwn dros dair blynedd). Mewn gwirionedd, ers 2019-20, dim ond swm o oddeutu £290 miliwn y gellid ei alw’n wariant newydd ac ychwanegol ar ddatgarboneiddio, yn ôl y sefydliad.
Beth sydd nesaf?
Heddiw (4 Chwefror 2022) yw’r dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau polisi’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiadau ar y Gyllideb Ddrafft.
Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 ar 8 Chwefror 2022. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar SeneddTV. Mae ein herthygl, Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23, yn cynnwys gwybodaeth am yr amserlen.
Erthygl gan Joanne McCarthy a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru