cy

cy

Prisiau cynyddol a phrinder difrifol: heriau newydd yn dod i’r amlwg wrth reoli’r cyflenwad o feddyginiaethau i Gymru

Cyhoeddwyd 10/01/2024   |   Amser darllen munud

Mae'n dod yn fwyfwy anodd i GIG Cymru gael gafael yn y meddyginiaethau sydd eu hangen arno. Yn sgil ansefydlogrwydd economaidd, ffactorau sy’n tarfu ar gadwyni cyflenwi, a chynnydd mewn galw, mae meddyginiaethau yn ddrytach ac mae achosion o brinder yn fwy cyffredin.

Mae cynnal y cyflenwad o feddyginiaethau i’r DU yn fater a gedwir yn ôl. Mae’n gyfrifoldeb, felly, i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, o ystyried bod pwerau a chyfrifoldebau ym maes gofal iechyd, yn gyffredinol, wedi’u datganoli, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli effaith unrhyw darfu ar y cyflenwad hwnnw.

Gall fod yn brofiad gofidus i gleifion os ydynt yn cael trafferth cael gafael ar y meddyginiaethau sydd wedi cael eu rhagnodi ar eu cyfer.

Roedd adroddiad arbennig ar brinder meddyginiaethau yn y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Pharmaceutical Journal yn cynnwys y rhybudd a ganlyn:

Medicines shortages are a huge concern for pharmacists, with many spending hours each week sourcing alternatives. Moreover, the shortages are increasingly putting patients’ lives at risk.

Yn sgil pwysau cynyddol ar draws y GIG, mae materion yn ymwneud â chost ac argaeledd meddyginiaethau yn rhoi straen ychwanegol ar system iechyd sy’n parhau i geisio adfer o’r pandemig.

Mae cynnydd mewn costau meddyginiaethau yn rhoi pwysau ar gyllidebau'r GIG

Yn ddiweddar, gwnaeth Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dynnu sylw at y cynnydd mewn costau meddyginiaethau wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd. Dywedodd y Gweinidog fod cost meddyginiaethau wedi cynyddu 11 y cant ers 2021.

Mae gofyn i fyrddau iechyd ledled Cymru ddod o hyd i arbedion er mwyn lleihau gorwariant a ragwelir. Felly, eglurodd y Gweinidog fod y cynnydd hwn mewn costau meddyginiaethau wedi rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau sydd eisoes o dan bwysau.

Canfu ymchwiliad gan BBC Wales fod cost omeprazole, meddyginiaeth a ddefnyddir fel arfer i drin cyflyrau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu gormod o asid stumog, wedi codi o 80c y pecyn i £2.80 yn y 18 mis diwethaf. Mae Omeprazole yn ail ar y rhestr o feddyginiaethau sy’n cael eu rhagnodi yn fwyaf aml gan feddygon teulu yng Nghymru. Yn ôl amcangyfrifon BBC Wales, gallai’r cynnydd hwn, ar ei ben hun, arwain at gost ychwanegol o £500,000 ar draws y GIG yng Nghymru.

Achosion o brinder difrifol mewn meddyginiaethau yn codi yn fwy aml

Yn ystod y cyfnod cyn Brexit, codwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai ymadael â marchnad sengl yr UE darfu ar gyflenwad meddyginiaethau yn y DU. Fel cam rhagofalus at ddibenion lliniaru’r risg hon, cyflwynodd Llywodraeth y DU Brotocolau Prinder Difrifol (SSPs), yn ogystal â mesurau eraill.

Os oes prinder mewn meddyginiaeth benodol, mae gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU yr awdurdod i gyhoeddi SSP. Mae'r protocolau hyn yn cynnig canllawiau i fferyllwyr cymunedol, gan ganiatáu iddynt ddarparu opsiynau amgen pan fyddant yn wynebu prinder mewn meddyginiaethau rhagnodedig.

Y bwriad yw bod SSPs yn cael eu defnyddio mewn sefyllfaoedd eithriadol a phrin, pan fo prinder difrifol yn codi. Ers cyflwyno’r drefn hon, mae o leiaf un SSP wedi bod mewn grym bob mis, gyda’r nifer a gyhoeddwyd yn cyrraedd uchafbwynt yn 2022, yn ôl ymchwil gan y Pharmaceutical Journal.

Gweithgynhyrchwyr yn ei chael hi'n anodd ateb y cynnydd mewn galw

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru ddatganiad ynghylch “tarfu sylweddol ar gyflenwadau” a oedd yn effeithio ar nifer o feddyginiaethau yn sgil cynnydd mewn galw.

Dyma enghreifftiau:

Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yn dweud bod gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr meddyginiaethau yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a’u bod yn atebol i reoleiddwyr y DU os nad yw cyflenwadau o’u cynhyrchion ar gael.

Problem fyd-eang, neu broblem sy’n deillio o Brexit?

Mae adroddiad ymchwil gan Ymddiriedolaeth Nuffield yn tynnu sylw at rai materion penodol y mae’r DU wedi’u hwynebu ers Brexit, a allai esbonio’r problemau cyson a welir o ran prinder meddyginiaethau. Maent yn cynnwys gwaith papur newydd ar y ffin rhwng Prydain Fawr a’r UE, a phrosesau rheoleiddio amrywiol sy’n gwneud y DU yn lle llai deniadol i gynhyrchu meddyginiaethau. Mae’r adroddiad yn disgrifio “storm berffaith” o ffactorau byd-eang sy’n gorgyffwrdd â phroblemau a grëwyd wrth adael y farchnad sengl.

Fodd bynnag, gwnaeth Ymddiriedolaeth Nuffield ganfod tystiolaeth bod y DU, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal wedi gweld prinder tebyg o feddyginiaethau ers y pandemig. Roedd hefyd yn beio cynnydd mewn prisiau byd-eang am nwyddau, sydd wedi arwain at gynnydd yn y gost o gynhyrchu a chludo meddyginiaethau.

Cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) bapur ar brinder meddyginiaethau, a oedd yn nodi bod achosion o brinder meddyginiaethau wedi dod yn fwyfwy cyffredin mewn nifer o wledydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod y sefyllfa hon wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gymhlethdod cadwyni cyflenwi byd-eang ar gyfer meddyginiaethau, a chyfyngiadau o ran y data, sy’n cymhlethu ymdrechion i feithrin dealltwriaeth o'r mater.

Yr her i Lywodraeth Cymru

Un her allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu yw’r ffaith mai materion byd-eang neu faterion gwleidyddol ar lefel y DU sydd wrth wraidd prinder a phrisiau cynyddol meddyginiaethau, o bosibl, ond mai cleifion a gweithwyr gofal iechyd sy’n gweithio yn GIG Cymru sy’n teimlo eu heffaith.


Erthygl gan Angharad Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru